Cynhyrchu Ffilm Ddogfen
- Module Identifier
- TC33740
- Module Title
- Cynhyrchu Ffilm Ddogfen
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 2 Taught over 2 semesters
- Co-ordinator
- Elin Morse
- Reading List
- View on Aspire
- Pre-Requisite
-
FM22820 or FM26520 or TC25620 or FM20920 or TC25420
- Other Staff
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Portffolio Datblygu/Development Portfolio: 2000 o eiriau | 25% |
| Semester Assessment | Portffolio Cynhyrchu / Creative Portfolio: 3000 o eiriau | 25% |
| Semester Assessment | Ffilm Olaf / Final Film: 15 Munud | 50% |
| Supplementary Assessment | Portffolio Datblygu/Development Portfolio: 2000 o eiriau | 25% |
| Supplementary Assessment | Portffolio Cynhyrchu / Creative Portfolio: 3000 o eiriau | 25% |
| Supplementary Assessment | Ffilm Olaf / Final Film: 15 Munud | 50% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Dangos dealltwriaeth feirniadol o'r prosesau cynhyrchu allweddol wrth wneud ffilmiau dogfen;
- Defnyddio amrywiaeth o dechnegau ymchwil er mwyn creu, datblygu a chyflwyno syniad am ffilm;
- Cymhwysedd technegol amlwg, barn esthetig a gwerthfawrogiad o gyd-ddibyniaeth rolau cynhyrchu allweddol;
- Cydnabod dimensiynau moesegol ymarfer cyfryngau proffesiynol;
- Myfyrio'n feirniadol ar y broses greadigol a chynhyrchu gwaith sy'n cael ei lywio gan, ac wedi'i gyd-destunoli o fewn, materion a dadleuon damcaniaethol perthnasol.
Brief description
Mae'r modiwl hwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr parhau i weithio gydag offer ffilmio a gyflwynwyd yn Rhan 1 a’i annog i weithio yn fwy annibynnol wrth greu ffilm ddogfen fel rhan o grŵp neu fel unigolyn. Gall y modiwl fod o fudd i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn ffilmiau dogfen ac sydd eisoes wedi astudio modiwlau yn y maes hwnnw.
Mae'r modiwl wedi'i drefnu o amgylch cyfres o dasgau wrth anelu at greu'r brif ffilm ar ddiwedd Semester 2. Mi fydd y tasgau hyn yn cynnwys gweithgareddau fel: ymchwil ymarferol; ymarferion mewn adrodd straeon gweledol; cyflwyniadau, trafodaethau a gwerthusiadau unigol a grŵp; ymarferion camera, sain a golygu. Mae'r semester cyntaf yn canolbwyntio ar ymchwil a datblygu prosiectau, mae'r ail yn canolbwyntio ar wireddu'r brif ffilm.
Aims
Mae'r modiwl hwn yn archwilio'r materion cysyniadol, esthetig, moeseg a thechnegol sy’n codi wrth greu ffilm ddogfen. Rhoddir pwyslais ar y broses greadigol, yn hytrach na'r cynnyrch; anogir myfyrwyr i fyfyrio’n feirniadol fel grŵp ac unigolyn wrth wireddu’r ffilm olaf.
Content
Gan fod y modiwl yn cael ei yrru gan y prif brosiect cyflwynir y pynciau canlynol wrth anelu at y nod hwnnw:
1. Dulliau o ddewis pwnc, thema ac arddull
2. Methodoleg ymchwil
3. Archifau: dulliau ymchwil, hawliau a materion technegol
4. Traddodiadau newyddiadurol, arsylwu a naratif
5. Technegau adrodd straeon gweledol
6. Ysgrifennu ac adolygu triniaeth, cyflwyno syniadau
7. Cynhyrchu: comisiynu ac amserlennu
8. Cynllunio a threfnu sesiwn ffilmio
9. Dulliau “recce”, ffeindio lleoliad a chyfweld
10. Materion moeseg
11. Technegau recordio camera, sain a golygu
12. Technegau cyfarwyddo
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Application of Number | Mae gwaith camera a golygu angen gallu rhifedd |
| Communication | Datblygir sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig drwy ymarferion, seminarau, cyflwyniadau ac adborth ar waith ysgrifenedig. Mae rhywfaint o asesiad o'r sgil hon o fewn y ffilm olaf a'r portffolio creadigol a datblygu. |
| Improving own Learning and Performance | Mae gwneud ffilmiau dogfen yn broses barhaus o hunanasesu ac mae'r prosiect terfynol yn cynnwys hyn. |
| Information Technology | Disgwylir cymhwysedd a chyfarwyddyd â thechnoleg gwybodaeth, yn enwedig yn ystod y cyfnod ymchwil. |
| Personal Development and Career planning | Mae'r modiwl hwn o werth nid yn unig i'r rhai sydd â nod gyrfa pendant yn y diwydiannau cyfryngau ond mae'n cynnig cyfleoedd i bob myfyriwr i ddatblygu'n bersonol. Gall darlithwyr gwadd o'r diwydiant hefyd ddarparu cyngor gyrfa penodol. |
| Problem solving | Mae gwneud ffilmiau yn broses barhaus o ddatrys problemau. Caiff myfyrwyr eu profi ar hyn yn unigol ac fel rhan o dîm. |
| Research skills | Mae myfyrwyr yn ymgymryd ag ymchwil fel rhan o baratoi a datblygu'r prosiect terfynol. |
| Subject Specific Skills | Gweler Subject Benchmark Statement for Communication, Media, Film and Cultural Studies (2008) |
| Team work | Er nad yw'n cael ei asesu'n uniongyrchol, mae'r rhan fwyaf o ffurfiau cynhyrchu cyfryngau yn cynnwys gradd uchel o waith tîm. |
Notes
This module is at CQFW Level 6
Theatre, Film and Television Studies,Aberystwyth University, Parry-Williams Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622828 : +44 : +44 (0)1970 622021
tfts@aber.ac.uk: tfts@aber.ac.uk
