Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad Cysyniadol o Brosiect Ensemble 15 Munud | 70% |
| Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad Prosiect Unigol 5 Munud | 30% |
| Asesiad Semester | Perfformiad Grŵp (25-30 munud) | 70% |
| Asesiad Semester | Cyflwyniad Prosiect Grŵp 10 Munud | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:
Adnabod a mynegi methodolegau ymarfer priodol, a mynegi’n eglur sgiliau cyfansoddi priodol sy'n deillio o ymarfer ensemble cyfoes.
Creu perfformiad byw sy'n mynegi ymwybyddiaeth a'r gallu i negodi anghenion ffurf dramatwrgiaethol penodol, y defnydd o adnoddau, y berthynas rhwng perfformiwr â chynulleidfa a'r gallu i gydweithio
Arddangos gallu esthetig gynyddol soffistigedig wrth greu perfformiad ensemble, a'i fynegi trwy ymateb yn ystyrlon i adborth beirniadol.
Mynegi arloesedd a dychymyg creadigol yn y strategaethau cyfansoddi a ddefnyddir.
Arddangos gallu i ddadansoddi prosesau gweithio cydweithredol a chyfansoddol wrth greu perfformiad, a'u gosod o fewn cyd-destun ehangach ymarfer theatr a pherfformio cyfoes.
Disgrifiad cryno
Disgwylir i fyfyrwyr weithio ar y cyd i ddatblygu cyflwyniad cysyniadol ar gyfer y prosiect ensemble (i'w gyflwyno yn wythnos pedwar) ac wedi hynny tuag at berfformiad byw 25 – 30 munud ar ddiwedd y semester i'w gyflwyno yn wythnos olaf ond un y semester.
Cynnwys
Gweithdiau: 8 x 1 awr
Ymarferion Hunan-Arweiniol: 18 x 2 awr
Ran amlaf, bydd y broses o ddatblygu darn perfformio cydweithredol yn cynnwys yr elfennau canlynol:
- adnabod modelau o greu theatr ac o arferion perfformio cyfoes er mwyn efelychu a datblygu dulliau o ddyfeisio a chreu (e.e. Goat Island; Lone Twin; Frantic Assembly, ac ati).
- ymchwilio i wahanol fodelau dramatig a'u cymhwyso yn y gwaith
- sgorio neu sgriptio priodol
- cynllunio a gweithredu proses ymarferion a hyfforddiant priodol
- cynllunio a gweithredu elfennau senograffig a thechnolegol
- archwilio cyfres o ddewisiadau ynghylch ffurfio grŵp cydweithredol
- negodi rolau o fewn y grŵp, mannau cychwyn ar gyfer y gwaith, dewisiadau esthetig a methodolegau gwneud theatr gydweithredol
- rheoli cyllideb, amser ac adnoddau technegol
- nodi a gwerthuso'r berthynas rhwng y gynulleidfa â'r perfformiwr, a chreu llwyfaniad priodol ar gyfer y digwyddiad byw
Drwy gydol y broses, anogir myfyrwyr i gymhwyso eu hymarfer creadigol a hunanfeirniadol ei hunain er mwyn gwireddu'r digwyddiad perfformiadol a'i gyd-destunoli ym meysydd theatr a pherfformio cyfoes.
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cydlynu ag erail | Gallu i gydweithio ag eraill; negodi prosesau cydweithio; cydweithio ag eraill er mwyn cyflwyno cyfanwaith gorffenedig. |
| Datrys Problemau Creadigol | Datblygu gwaith ar y cyd ag eraill yn annibynnol. |
| Meddwl beirniadol a dadansoddol | Gorfod datblygu gwaith drwy broses hunan-arweiniol ac ymateb i adborth wythnosol. |
| Sgiliau Pwnc-benodol | Gallu i greu, datblygu, a pherfformio gwaith perfformio gorffenedig. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6
