Module Information

Cod y Modiwl
TC37020
Teitl y Modiwl
'Arwyr': Dogfennu Gyrfaoedd yn y Diwydiannau Creadigol
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhestr Ddarllen

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll .25 Awr   Ymateb Creadigol  Ymateb creadigol i'r astudiaethau achos astudiwyd ar y modiwl. .25 Awr  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  2000 o eiriau  50%
Asesiad Semester Traethawd  2000 o eiriau  50%
Asesiad Semester .25 Awr   Ymateb Creadigol  Ymateb creadigol i'r astudiaethau achos astudiwyd ar y modiwl. .25 Awr  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

dadansoddi a mynegi dealltwriaeth i lefel soffistigedig o ymarfer artistiaid penodol o fewn cyd-destunau hanesyddol a diwylliannol.

mynegi dealltwriaeth aeddfed a datblygedig o waith artist o fewn cyd-destun hanesyddol, diwylliannol a chelfyddydol yn ysgrifenedig, ar lafar a/neu yn ymarferol.

cymhwyso egwyddorion ymarfer artist penodol ar gyfer mynegi gweledigaeth greadigol bersonol i lefel sy'n briodol ar derfyn gradd israddedig.

tystiolaeth o fedr a gallu i fynegi ymarfer bersonol trwy lunio ymateb creadigol gyflawn gweithiau a'r ffurfiau celfyddydol astudiwyd ar y modiwl.

Disgrifiad cryno

Trwy gyfrwng cyfres o astudiaethau achos wythnosol, bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i ystod o arwyr gwahanol. Yn enwogion, yn artistiaid, yn berfformwyr ac yn ymarferwyr creadigol o nod, roeddent i gyd yn rai a dorrodd gwys newydd yn eu meysydd a’u disgyblaethau. Bydd y modiwl yn dadansoddi gyrfaoedd, gwaith ac nodweddion arddulliadol yr artistiaid yn eu cyd-destun hanesyddol a diwylliannol gwreiddiol, ac yn rhoi cyfle nid yn unig i astudio trawstoriad o wahanol ddisgyblaethau, ond hefyd i ystyried y rhagamodau sbardunodd yr angen iddynt gicio yn erbyn y tresi.

Bydd yr ‘arwyr’ yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, yn unol â newidiadau yn y tîm dysgu, ond gall y ffigyrau posib gynnwys: Josephine Baker, James Baldwin, Augusto Boal, David Bowie, David R. Edwards, Billie Holiday, Derek Jarman, Clifford McLucas, Lee Miller, Ai Wei Wei.

Cynnwys

10 x darlith 1 awr
10 x seminar/gweithdy 2 awr

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Addasrwydd a gwydnwch Mynegi dealltwriaeth o ymarfer greadigol bersonol mewn perthynas â chyd-destun hanesyddol a diwylliannol penodol; mynegi dealltwriaeth o yrfaoedd creadigol mewn amgylchiadau cyfnewidiol a heriol.
Cydlynu ag erail Ymateb a chyfrannu i seminarau a gweithdai.
Cyfathrebu proffesiynol Bydd yr aseiniadau yn annog myfyrwyr i ddiffinio, mynegi, a chyd-destunoli ymarfer greadigol bersonol mewn perthynas â meysydd proffesiynol penodol; bydd y modiwl yn mynnu bod myfyrwyr yn ystyried eu gwaith eu hunain a'u hymatebion i'r aseiniadau fel rhan o daflwybr gyrfaol posib.
Datrys Problemau Creadigol Mynegi dealltwriaeth o ymarfer greadigol bersonol mewn perthynas â disgwyliadau a phosibiliadau gyrfaol a gynigir gan ddiwydiannau creadigol cyfoes; gallu i leoli ymarfer personol o fewn cyd-destun cyfoes.
Myfyrdod Adlewyrchu, mireinio a mynegi ymarfer greadigol bersonol, yn ysgrifenedig, ar lafar, a thrwy gyfrwng ymarfer bersonol.
Synnwyr byd go iawn Adnabod cyd-destun gyrfaol priodol, gan fynegi dealltwriaeth real o'r diwydiannau creadigol; lleoli ymarfer greadigol bersonol o fewn y cyd-destun hynny.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6