Programme Specifications

Hanes


1 : Awarding Institution / Body
Aberystwyth University

2a : Teaching Institution / University
Aberystwyth University

2b : Work-based learning (where appropriate)


Information provided by School of Education:

Mae’r holl athrawon dan hyfforddiant yn gwneud tri lleoliad ysgol (Profiad Ysgol 1 [PY1]; Profiad Ysgol - Cyfoethogi [PYC] a Phrofiad Ysgol 2 [PY2]



3a : Programme accredited by
Aberystwyth University

3b : Programme approved by
Aberystwyth University

4 : Final Award
Postgraduate Certificate in Education

5 : Programme title
Hanes

6 : UCAS code
3DH6

7 : QAA Subject Benchmark


Information provided by School of Education:

Mae canlyniadau dysgu'r cynllun wedi'u mapio yn erbyn y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, y disgrifydd ar gyfer cymwysterau Addysg Uwch ar Lefel 7 (2008)



8 : Date of publication


Information provided by School of Education:

Medi 2023



9 : Educational aims of the programme


Information provided by School of Education:

1. Rhoi'r sylfaen addysgeg i athrawon dan hyfforddiant trwy gysylltu damcaniaeth ag ymarfer;

2. Addysgu a datblygu myfyrwyr i fod yn athrawon o fewn ac ar draws y sectorau cynradd ac uwchradd, er mwyn iddynt fod yn addysgwyr effeithiol ac integredig ar draws ffiniau cyfnodau allweddol a sectorau ysgolion;

3. Rhoi profiadau gwell i athrawon dan hyfforddiant er mwyn iddynt gael gafael cynhwysfawr ar y ffordd mae dysgwyr yn dysgu ac yn symud ymlaen, a rhoi dirnadaeth ragorol iddynt ar addysg yn ei grynswth;

4. Cynorthwyo athrawon dan hyfforddiant i ymwneud â dulliau addysgeg sy'n seiliedig ar ymchwil, tystiolaeth ymchwil, data a phrosesau ymholi ymchwil yn ystod eu profiad hyfforddi;

5. Rhoi athrawon dan hyfforddiant mewn sefyllfa i ddefnyddio'r Safonau newydd ar gyfer SAC 'Safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth' (Llywodraeth Cymru, 1af Medi 2017) mewn ffordd raddoledig er mwyn meithrin eu sgiliau;

6. Sicrhau bod gan athrawon dan hyfforddiant wybodaeth a dealltwriaeth ymarferol o'r meysydd dysgu a phrofiad, a bod ganddynt wybodaeth a dealltwriaeth o’r cynnwys addysgeg a'r gallu i’w cymhwyso ar gyfer y cyfnodau y byddant yn eu haddysgu;

7. Sicrhau bod gan athrawon dan hyfforddiant ddealltwriaeth o'r gofynion o ran y cwricwlwm ac o ran sgiliau, ac yn deall sut y gellir cyflawni'r gofynion statudol hyn o fewn y system addysg yng Nghymru;

8. Galluogi athrawon dan hyfforddiant i ennill gwybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad ymarferol o ofynion cwricwlaidd, addysgeg effeithiol a strategaethau asesu ar draws y sectorau cynradd ac uwchradd;

9. Galluogi athrawon dan hyfforddiant i gloriannu, dethol a chymhwyso'r strategaethau dysgu ac addysgu priodol i sefyllfaoedd dysgu trwy allu dadansoddi a dehongli perfformiad dysgwyr;

10. Paratoi athrawon dan hyfforddiant am gyfrifoldebau trawsgwricwlaidd yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru;

11. Datblygu sgiliau Cymraeg athrawon dan hyfforddiant yn unol â'u hanghenion trwy ddarparu rhaglenni cymorth yn yr iaith;

12. Datblygu athrawon dan hyfforddiant i fod yn ymarferwyr myfyriol fel bod ganddynt ymwybyddiaeth feirniadol ohonynt eu hunain fel dysgwyr gydol oes trwy ddatblygiad proffesiynol parhaus.

Rhaid i’r holl athrawon dan hyfforddiant gymryd y pedwar modiwl craidd: Astudiaethau Proffesiynol; Addysgeg Effeithiol; Gwybodaeth Addysgeg a Chwricwlwm; a Sgiliau Gwerthuso a Dysgu. Mae ymarfer addysgu yn elfen annatod o'r pedwar modiwl gan y bydd aseiniadau'n cysylltu damcaniaeth ag ymarfer.

Oherwydd natur integredig y rhaglen bydd yr elfennau modiwlaidd yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr sy'n dewis arbenigo mewn elfennau craidd cynradd neu uwchradd i gael eu haddysgu gyda'i gilydd yn y brifysgol yn ogystal ag ar leoliad addysgu.

Yn achos darpariaeth cyfrwng Cymraeg, bydd y myfyrwyr sy'n dymuno gwneud eu hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael cyfle i ddilyn agweddau ar y modiwlau a addysgir a'r asesu yn Gymraeg, gan gynnwys yr addysgu ymarferol.



10 : Intended learning outcomes


Information provided by School of Education:

Caiff y Canlyniadau Dysgu canlynol eu llywio gan ofynion y Safonau newydd ar gyfer SAC 'Safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth' (Llywodraeth Cymru, 1af Medi 2017).

Mae'r rhaglen yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu a dangos gwybodaeth a dealltwriaeth, sgiliau, rhinweddau a phriodoleddau eraill yn y meysydd canlynol:



10.1 : Knowledge and understanding


Information provided by School of Education:

  • A1 Mae ganddynt wybodaeth a dealltwriaeth gadarn o gynnwys y Maes Dysgu a Phrofiad a'r pwnc/pynciau y maent wedi'u hyfforddi i'w haddysgu.

  • A2 Mae ganddynt wybodaeth a dealltwriaeth gadarn o gynnwys addysgeg y Maes Dysgu a Phrofiad a'r pwnc/pynciau y maent wedi'u hyfforddi i'w haddysgu.

  • A3 Maent yn gwybod ac yn deall y nodau a'r canllawiau cwricwlaidd yn eu Maes Dysgu a Phrofiad a'u maes pwnc;

  • A4 Maent yn ymwybodol o ddisgwyliadau, cwricwla nodweddiadol a threfniadau addysgu yn y cyfnodau cyn ac ar ôl y rhai y maent wedi'u hyfforddi i'w haddysgu;

  • A5 Maent yn deall sut y gall lles a datblygiad corfforol, deallusol, ieithyddol, cymdeithasol, diwylliannol ac emosiynol dysgwyr effeithio ar eu dysgu;

  • A6 Maent yn gwybod sut i ddefnyddio TGCh yn effeithiol, i addysgu eu pwnc ac i gefnogi eu swyddogaeth broffesiynol ehangach;

  • A7 Maent yn deall eu cyfrifoldebau o dan God Ymarfer AAA Cymru ac yn gwybod sut i geisio cyngor gan arbenigwyr ar fathau llai cyffredin o anghenion addysgol arbennig;

  • A8 Maent yn ymwybodol o egwyddorion Deddf Cydraddoldeb 2010 sy'n sicrhau nad yw dysgwyr yn dioddef gwahaniaethu nac anghydraddoldebau;

  • A9 Maent yn gyfarwydd ag amrywiaeth o strategaethau i greu amgylchedd dysgu pwrpasol ac i hyrwyddo dysgu, cyflawniad ac ymddygiad da.

Dysgu ac Addysgu

Caiff y canlynol eu defnyddio:

  • Darlithoedd

  • Seminarau

  • Micro-addysgu

  • Gwaith prosiect unigol

  • Gwaith grŵp

  • Ymchwil personol

  • Gweithdai

  • Tasgau seiliedig ar feysydd dysgu/pynciau a thasgau seiliedig ar addysgu

  • Sesiynau mentora

  • Myfyrio ar ddysgu mewn grŵp yn yr ysgol

  • Seminarau yn yr Ysgolion Partner Arweiniol

  • Arsylwadau dysgu mewn Ysgolion Partner

  • Arferion addysgu yn yr ystafell ddosbarth

Strategaethau a Dulliau Asesu

Caiff y canlynol eu defnyddio:

  • Aseiniadau Ysgrifenedig

  • Cyflwyniadau

  • Prosiect ymholi ymchwil

  • Blogiau

  • Tasgau seiliedig ar bwnc

  • Astudiaethau achos

  • Cynllunio gwersi a chloriannu gwersi

  • Dyddlyfr Proffesiynol

  • Asesiadau ymarfer addysgu



10.2 : Skills and other attributes


Information provided by School of Education:

10.2.1 Sgiliau Deallusol
  • B1 Dadansoddi a dehongli amrywiaeth o destunau;

  • B2 Ymgymryd yn feirniadol ac yn hunan-fyfyriol â chysyniadau a materion allweddol ym maes addysg;

  • B3 Cloriannu deunyddiau ffynhonnell yn feirniadol;

  • B4 Cymhwyso damcaniaeth i ymarfer yn feirniadol;

  • B5 Deall a chyfiawnhau gwahanol strategaethau dysgu ac addysgu;

  • B6 Cynllunio a defnyddio amrywiaeth o strategaethau dysgu ac addysgu mewn gwersi;

  • B7 Cynllunio a chyflwyno gwersi;

  • B8 Monitro cyflawniad disgyblion trwy ddulliau asesu wedi’u dewis yn briodol;

  • B9 Gwerthuso eu profiad addysgu eu hunain yn feirniadol;

  • B10 Myfyrio’n feirniadol ar ddatblygiad proffesiynol.


Dysgu ac Addysgu
Caiff y canlynol eu defnyddio:
  • Darlithoedd

  • Seminaru

  • Micro-addysgu

  • Gwaith prosiect unigol

  • Gwaith grŵp

  • Ymchwil personol

  • Gweithdai

  • Tasgau seiliedig ar feysydd dysgu/pynciau a thasgau seiliedig ar addysgu

  • Sesiynau mentora

  • Myfyrio ar ddysgu mewn grŵp yn yr ysgol

  • Seminarau yn yr Ysgolion Partner Arweiniol

  • Arsylwadau dysgu mewn Ysgolion Partner

  • Arferion addysgu yn yr ystafell ddosbarth

Strategaethau a Dulliau Asesu Caiff y canlynol eu defnyddio:
  • Aseiniadau Ysgrifenedig

  • Cyflwyniadau

  • Prosiect ymholi ymchwil

  • Blogiau

  • Tasgau seiliedig ar bwnc

  • Astudiaethau achos

  • Cynllunio gwersi a chloriannu gwersi

  • Dyddlyfr Proffesiynol

  • Asesiadau ymarfer addysgu


10.2.2 Sgiliau proffesiynol ymarferol / Sgiliau penodol i ddisgyblaeth

Erbyn diwedd eu rhaglen, disgwylir i'r holl fyfyrwyr allu dangos:

Maent wedi cyflawni pob un o'r 5 safon broffesiynol (lefel SAC) ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth (01 Medi 2017).

• Addysgeg
- Mireinio Addysgu
- Hyrwyddo Dysgu
- Dylanwadu ar Ddysgu
• Cydweithio
• Dysgu Proffesiynol
• Arloesi
• ⁠Arweinyddiaeth

ADDYSGEG - Mireinio Addysgu
C1 Gwybodaeth a dealltwriaeth ddamcaniaethol gyfredol yn ogystal â dealltwriaeth ymarferol ynglŷn â dulliau plant a phobl ifanc o ddatblygu a dysgu;
C2 Gwybodaeth a dealltwriaeth ddamcaniaethol gyfredol yn ogystal â'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i greu amgylchedd dysgu gofalgar a safonol sy'n canolbwyntio ar bedwar diben y cwricwlwm;
C3 Gwybodaeth a dealltwriaeth ddamcaniaethol gyfredol yn ogystal â'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i gynnal a defnyddio asesu'n effeithiol;
C4 Gwybodaeth a dealltwriaeth gyfredol yn ogystal â'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen er mwyn cofnodi, adrodd a defnyddio asesu a data perfformiad arall yn effeithiol yn eu haddysgu;
C5 Gwybodaeth a dealltwriaeth ddamcaniaethol gyfredol yn ogystal â'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i wahaniaethu dysgu ac addysgu mewn ffyrdd sy'n ystyried anghenion ac yn cefnogi cynnydd pob dysgwr;
C6 Gwybodaeth a dealltwriaeth ddamcaniaethol gyfoes yn ogystal â dirnadaeth ymarferol o bwysigrwydd cynnwys rhieni, gofalwyr, partneriaid a rhanddeiliaid eraill i gefnogi dysgu;

ADDYSGEG – Hyrwyddo Dysgu
C7 Yr wybodaeth ddamcaniaethol, y ddealltwriaeth a'r sgiliau ymarferol diweddaraf sydd eu hangen i ymgorffori pedwar diben y cwricwlwm yn eu cynllunio, eu paratoi a'u haddysgu;
C8 Yr wybodaeth ddamcaniaethol ddiweddaraf, y ddealltwriaeth a'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i fanteisio ar ddisgyblaethau pwnc mewn meysydd dysgu;
C9 Yr wybodaeth ddamcaniaethol ddiweddaraf, y ddealltwriaeth a'r sgiliau ymarferol syddeu hangen i ddewis, defnyddio a 'chyfuno' nifer o ddulliau addysgu arloesol;
C10 Yr wybodaeth ddamcaniaethol ddiweddaraf, y ddealltwriaeth a'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i ddewis a defnyddio cyd-destunau dilys bywyd go iawn ar gyfer dysgu yn rhan naturiol o'r profiad dysgu;
C11 Yr wybodaeth ddamcaniaethol ddiweddaraf, y ddealltwriaeth a'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i gynllunio am ddilyniant dros amser;
C12 Yr wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau ymarferol diweddaraf sydd eu hangen i ddatblygu dysgu a chysylltiadau trawsgwricwlaidd, o fewn i feysydd dysgu a phrofiad a rhwng y meysydd hynny;

ADDYSGEG – Dylanwadu ar Ddysgwyr
C13 Yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth ddamcaniaethol ddiweddaraf yn ogystal â'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i ysgogi ac ysbrydoli dysgwyr;
C14 Yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth ddamcaniaethol ddiweddaraf yn ogystal â'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i wrando ar ddysgwyr (ar lefel unigol, grŵp neu ddosbarth cyfan);
C15 Yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth ddamcaniaethol ddiweddaraf yn ogystal â'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i annog dysgwyr i fyfyrio ar eu dysgu eu hunain;
C16 Yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth ddamcaniaethol ddiweddaraf yn ogystal â'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i ddatblygu dysgwyr i feithrin cymhelliant a chyfeiriad;
C17 Yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth ddamcaniaethol ddiweddaraf yn ogystal â'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i annog dysgwyr i fyfyrio a chloriannu ymddygiad a safbwyntiau ynglŷn â dysgu;
C18 Yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth ddamcaniaethol ddiweddaraf yn ogystal â'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i gynyddu ymwybyddiaeth dysgwyr o'r gydberthynas rhwng dysgu a lles;

CYDWEITHIO
C19 Y gallu i weithredu ar gyngor gan gydweithwyr (athrawon, tiwtoriaid, cynorthwywyr dosbarth, cyfoedion) er mwyn datblygu addysgu a rheoli ymddygiad yn effeithiol;
C20 Y gallu i weithio'n effeithiol gyda chydweithwyr yn yr ysgol a chydag aelodau o gymuned ehangach yr ysgol;

DYSGU PROFFESIYNOL
C21 Dealltwriaeth gynyddol hyderus o ddamcaniaeth ac ymchwil sy'n berthnasol i'w hymarfer o ddydd i ddydd;
C22 Dealltwriaeth o le ymchwil gydweithredol ar raddfa fach (gan gynnwysymchwil weithredol/ymholiadol gan ymarferwyr) wrth ddatblygu ymarfer;
C23 Y gallu i defnyddio'r Pasbort Dysgu Proffesiynol i gefnogi eu dysgu proffesiynol eu hunain;
C24 Yr wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i gyflawni gofynion Strategaeth y Gymraeg;

ARLOESI
C25 Parodrwydd i ddefnyddio'r hyn y m aent wedi'i ddysgu wrth ddarllen ac ymchwilio, gan gynnwys eu hymchwil eu hunain, i herio a llywio ymarfer;
C26 Parodrwydd i ddatblygu, cymhwyso a chloriannu strategaethau newydd wrth ddysgu ac addysgu, bod yn greadigol a chymryd risgiau lle bo hynny'n briodol;

ARWEINYDDIAETH
C27 Deall pwysigrwydd bod yn broffesiynol o drefnus ac o reoli'r amgylchedd dysgu er budd pob dysgwr;
C28 Gwybodaeth a dealltwriaeth gyfredol o'u cyfrifoldebau fel athrawon o safbwynt cytundebol, bugeiliol, iechyd a diogelwch, cyfreithiol a phroffesiynol;
C29 Deall sut i arwain dysgu trwy brofiadau cydweithrediadol mewn ysgolion ac mewn cyd-destunau eraill ac ymrwymiad i hyn;
C30 Dealltwriaeth o natur y cyfrifoldebau o fewn ac ar draws timau a'r cyfraniad a wneir gan unigolion tuag at lwyddiant yr ysgol;

Addysgu Ymarferol
Mae’r holl athrawon dan hyfforddiant yn gwneud tri lleoliad ysgol (Profiad Ysgol 1 [PY1]; Profiad Ysgol - Cyfoethogi [PYC] a Phrofiad Ysgol 2 [PY2]. Mae asesu myfyrwyr ar brofiad ysgol yn elfen graidd o swyddogaeth y Mentor Ysgol a gefnogir gan Diwtor Cyswllt y Brifysgol. Mae ymateb ysgrifenedig y myfyriwr i asesiad yn elfen allweddol o'r broses. Cyflawnir yr asesu ffurfiannol trwy dargedau ysgrifenedig. Gwneir asesiad crynodol ar sail pasio/methu.

Safonau Statws Athro Cymwysedig
Dylai athrawon dan hyfforddiant ganolbwyntio ar safonau SAC mewn ffordd raddoledig er mwyn meithrin eu sgiliau. Ar ddechrau eu profiad ymarferol byddant yn canolbwyntio ar sgiliau craidd yn yr ystafell ddosbarth a'u dysgu proffesiynol eu hunain. Yn nes ymlaen yn y cwrs, byddant yn dechrau cydweithio â chydweithwyr a byddant yn datblygu'r hyder i gyflwyno datblygiadau arloesol ac i arwain y dysgu'n fwy effeithiol. Canolbwyntir ar y safonau fel hyn:
PY1 Addysgeg; Dysgu Proffesiynol
PAC; Addysgeg Dysgu Proffesiynol + Chydweithio
PY2 Addysgeg; Dysgu Proffesiynol + Chydweithio + Arweinyddiaeth + Arloesi

Ni fydd myfyrwyr yn cael eu hannog i beidio â mynd i'r afael â Chydweithredu, Arweinyddiaeth neu Arloesi yn gynharach yn y cwrs ond yn PYC a PY2 bydd cyfleoedd yn cael eu neilltuo iddynt ymdrin â'r safonau hyn. Yn ystod PY1, fodd bynnag, canolbwyntir ar ymarfer yn yr ystafell ddosbarth a dysgu fel gweithiwr proffesiynol.

Arolwg o'r Asesu
Mae asesu yn cyfuno aseiniadau modiwlaidd ac asesu profiad ysgol. Rhaid i athrawon dan hyfforddiant basio pob asesiad (elfennau academaidd ac ymarfer addysgu) er mwyn cyflawni gofynion y diploma uwchraddedig mewn addysg (PGDE), TAR a SAC. Yn eu gwaith cwrs, rhaid i athrawon dan hyfforddiant gael o leiaf 50% yn eu hasesiadau ar Lefel 7.

Dysgu ac Addysgu Caiff y canlynol eu defnyddio:
  • Darlithoedd

  • Seminaru

  • Micro-addysgu

  • Gwaith prosiect unigol

  • Gwaith grŵp

  • Ymchwil personol

  • Gweithdai

  • Tasgau seiliedig ar feysydd dysgu/pynciau a thasgau seiliedig ar addysgu

  • Sesiynau mentora

  • Myfyrio ar ddysgu mewn grŵp yn yr ysgol

  • Seminarau yn yr Ysgolion Partner Arweiniol

  • Arsylwadau dysgu mewn Ysgolion Partner

  • Arferion addysgu yn yr ystafell ddosbarth

Strategaethau a Dulliau Asesu Caiff y canlynol eu defnyddio:
  • Aseiniadau Ysgrifenedig

  • Cyflwyniadau

  • Prosiect ymholi ymchwil

  • Blogiau

  • Tasgau seiliedig ar bwnc

  • Astudiaethau achos

  • Cynllunio gwersi a chloriannu gwersi

  • Dyddlyfr Proffesiynol

  • Asesiadau ymarfer addysgu



10.3 : Transferable/Key skills


Information provided by School of Education:

Erbyn diwedd eu rhaglen, disgwylir i'r holl fyfyrwyr allu dangos:
  • D1 Gallu gweithio'n annibynnol a chydag eraill;

  • D2 Ymchwilio, cymhathu, dethol a threfnu deunydd addysgu perthnasol;

  • D3 Dadansoddi materion a damcaniaethau;

  • D4 Paratoi a chyflwyno sesiynau addysgu yn gymwys;

  • D5 Cyfrannu at drafodaethau grŵp;

  • D6 Cyfathrebu ar lafar, yn ysgrifenedig ac yn electronig;

  • D7 Rheoli amser a gweithio o fewn terfynau amser;

  • D8 Datblygu'r sgiliau sy'n ganolog i grefft addysgeg, megis: sgiliau meddwl, creadigrwydd a gwneud penderfyniadau.

  • D9 Myfyrio ar ddatblygiad proffesiynol a chynllunio gyrfa.

Dysgu ac Addysgu Caiff y canlynol eu defnyddio:
  • Darlithoedd

  • Seminaru

  • Micro-addysgu

  • Gwaith prosiect unigol

  • Gwaith grŵp

  • Ymchwil personol

  • Gweithdai

  • Tasgau seiliedig ar feysydd dysgu/pynciau a thasgau seiliedig ar addysgu

  • Sesiynau mentora

  • Myfyrio ar ddysgu mewn grŵp yn yr ysgol

  • Seminarau yn yr Ysgolion Partner Arweiniol

  • Arsylwadau dysgu mewn Ysgolion Partner

  • Arferion addysgu yn yr ystafell ddosbarth

Strategaethau a Dulliau Asesu Caiff y canlynol eu defnyddio:
  • Aseiniadau Ysgrifenedig

  • Cyflwyniadau

  • Prosiect ymholi ymchwil

  • Blogiau

  • Tasgau seiliedig ar bwnc

  • Astudiaethau achos

  • Cynllunio gwersi a chloriannu gwersi

  • Dyddlyfr Proffesiynol

  • Asesiadau ymarfer addysgu



11 : Program Structures and requirements, levels, modules, credits and awards



PGCE Hanes [3DH6]

Academic Year: 2023/2024 scheme - available from 2019/2020

Duration (studying Full-Time): 1 years
Last intake year: 2023/2024

Part 1 Rules

Year 1 Core (120 Credits)

Compulsory module(s).

Semester 1
AD31500

Gwybodaeth Addysgeg a Chwricwlwm

AD31600

Addysgeg Effeithiol

ADM1300

Astudiaethau Proffesiynol

ADM1400

Gwerthuso Dysgu a Sgiliau

Semester 2
AD31530

Gwybodaeth Addysgeg a Chwricwlwm

AD31630

Addysgeg Effeithiol

ADM1330

Astudiaethau Proffesiynol

ADM1430

Gwerthuso Dysgu a Sgiliau

ADM5000

TAR Ymarfer Dysgu


12 : Support for students and their learning
Every student is allocated a Personal Tutor. Personal Tutors have an important role within the overall framework for supporting students and their personal development at the University. The role is crucial in helping students to identify where they might find support, how and where to seek advice and how to approach support to maximise their student experience. Further support for students and their learning is provided by Information Services and Student Support and Careers Services.

13 : Entry Requirements
Details of entry requirements for the scheme can be found at http://courses.aber.ac.uk

14 : Methods for evaluating and improving the quality and standards of teaching and learning
All taught study schemes are subject to annual monitoring and periodic review, which provide the University with assurance that schemes are meeting their aims, and also identify areas of good practice and disseminate this information in order to enhance the provision.

15 : Regulation of Assessment
Academic Regulations are published as Appendix 2 of the Academic Quality Handbook: https://www.aber.ac.uk/en/aqro/handbook/app-2/.

15.1 : External Examiners
External Examiners fulfill an essential part of the University’s Quality Assurance. Annual reports by External Examiners are considered by Faculties and Academic Board at university level.

16 : Indicators of quality and standards
The Department Quality Audit questionnaire serves as a checklist about the current requirements of the University’s Academic Quality Handbook. The periodic Department Reviews provide an opportunity to evaluate the effectiveness of quality assurance processes and for the University to assure itself that management of quality and standards which are the responsibility of the University as a whole are being delivered successfully.