Programme Specifications

Cymraeg / Creu (Perfformio / Cyfryngau)


1 : Awarding Institution / Body
Aberystwyth University

2a : Teaching Institution / University
Aberystwyth University

2b : Work-based learning (where appropriate)


Information provided by Department of Welsh:


Information provided by Department of Theatre, Film and Television Studies:

AMH



3a : Programme accredited by
Aberystwyth University

3b : Programme approved by
Aberystwyth University

4 : Final Award
Bachelor of Arts

5 : Programme title
Cymraeg / Creu (Perfformio / Cyfryngau)

6 : UCAS code
QW52

7 : QAA Subject Benchmark


Information provided by Department of Welsh:

Datganiad Meincnodi’r Gymraeg gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch.


Information provided by Department of Theatre, Film and Television Studies:

Dawns, Drama ac Astudiaethau Perfformio



8 : Date of publication


Information provided by Department of Welsh:

Medi 2023


Information provided by Department of Theatre, Film and Television Studies:

Mawrth 2022



9 : Educational aims of the programme


Information provided by Department of Welsh:

  • Rhoi i’r myfyrwyr y cyfle i astudio’r iaith Gymraeg a’i llenyddiaeth ar wastad academaidd uchel, gan roi iddynt y moddion i’w deall, eu dadansoddi a’u gwerthfawrogi fel rhan ganolog o hanes meddwl, dychymyg a mynegiant y Cymry.

  • Meithrin mewn myfyrwyr y gallu i adnabod teithi’r iaith Gymraeg, a’u galluogi  i’w mynegi eu hunain ynddi, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn hyderus, yn rhugl ac  yn gywir

  • Cynorthwyo myfyrwyr i ddeall ac i werthfawrogi grym mynegiannol iaith.

  • Meithrin dealltwriaeth o’r broses greadigol ac o werth gweithiau llenyddol.

  • Meithrin mewn myfyrwyr y gallu i feddwl drostynt eu hunain, i feithrin barn feirniadol a golygwedd hanesyddol, a, lle bo’n berthnasol, i feithrin eu doniau llenyddol.

  • Ennyn mewn myfyrwyr frwdfrydedd tuag at y pwnc.

  • Darparu profiad cyffrous a boddhaus o ran dysgu ac addysgu.

  • Meithrin sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn berthnasol i ddatblygiad personol y myfyrwyr ac a fydd yn gaffaeliad iddynt pan gyflogir hwy maes o law.

  • Paratoi myfyrwyr ar gyfer ymateb i ofynion cyflogwyr mewn gyrfaoedd lle byddant yn arddel cymhwyster yn y Gymraeg a lle disgwylir iddynt ddefnyddio’r iaith yn gyson ar wastad uchel.

  • Gosod sylfaen ar gyfer astudio pellach o fewn cwmpas y pwnc ei hun ac o fewn meysydd perthynol.

Y mae’r amcanion uchod yn gyson â Datganiad Meincnodi’r Gymraeg a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch.

 

 


Information provided by Department of Theatre, Film and Television Studies:

Mae prif nodau’r cynllun gradd hwn fel a ganlyn:

Cyflwyno a datblygu dulliau o ddadansoddi, dyfeisio ac ymarfer ar draws rhychwant o ffurfiau, gan gynnwys theatr, ffilm, teledu, cyfryngau digidol a deunydd amlgyfrwng

Ymestyn cwmpas y cwricwlwm, o safbwynt trafod, dehongli a chyd-destunoli gweithiau, artistiaid ac egwyddorion ymarfer a dadansoddi, y tu hwnt i draddodiadau a chanonau Ewropeaidd ac Americanaidd

Cyflwyno a datblygu cyfres o sgiliau arbenigol (technegol, dehongliadol, beirniadol academaidd, cyfathrebol a chreadigol) o ran perfformio, cyflwyno, cyfarwyddo, cynhyrchu a sgriptio

Hwyluso cyflogadwyedd y myfyrwyr trwy hybu gwybodaeth am y diwydiannau creadigol cyfoes a datblygu sgiliau deallusol ac ymarferol sy'n sail ar gyfer gyrfa

Datblygu ac arddel sgiliau ymchwil, gan greu strategaethau ar gyfer ymchwil damcaniaethol, deallusol ac ymarferol ar draws rhychwant o wahanol ffurfiau, gan gynnwys theatr, ffilm, teledu, cyfryngau digidol a deunydd amlgyfrwng

Datblygu gallu cynyddol i weithio’n annibynnol yn ystod cyfnod yr astudiaeth, gan greu sail ar gyfer creadigrwydd, deallusrwydd ymchwilgar ac entrepreneuriaeth



10 : Intended learning outcomes


Information provided by Department of Welsh:

Canlyniadau Dysgu arfaethedig - mae’r rhaglen yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu a dangos gwybodaeth a dealltwriaeth, sgiliau, doniau a nodweddion eraill yn y meysydd canlynol:


Information provided by Department of Theatre, Film and Television Studies:

Mae canlyniadau dysgu'r rhaglen hon wedi'u cynllunio i fodloni disgwyliadau'r Datganiadau Meincnodi ar gyfer Perfformio a’r Cyfryngau a nodir gan y paneli Dawns, Drama ac Astudiaethau Perfformio, a Chyfathrebu, y Cyfryngau, Ffilm ac Astudiaethau Diwylliant. Gall y cynllun Anrhydedd Cyfun hwn roi cryn hyblygrwydd i'r myfyriwr i ddilyn llwybr arbenigol, neu fel arall i fudo ar draws ffiniau disgyblaethol traddodiadol o ran Theatr, Ffilm a Theledu (gydag arweiniad academaidd priodol gan arweinwyr y cynllun).



10.1 : Knowledge and understanding


Information provided by Department of Welsh:

  • A1. Gwybodaeth drylwyr o deithi’r iaith Gymraeg.

  • A2. Gwybod sut i ddisgrifio a dadansoddi iaith gan ddefnyddio’r eirfa dechnegol briodol.

  • A3. Ymwybyddiaeth gyffredinol o ddatblygiad yr iaith Gymraeg drwy’r oesoedd ac o brif gyfnodau hanesyddol yr iaith.

  • A4. Gwybodaeth o lenyddiaeth Gymraeg hen a diweddar.

  • A5. Gwybodaeth ynghylch hanes llenyddiaeth Gymraeg ac o’r ffactorau hanesyddol, cymdeithasol a deallusol a ddylanwadodd arni drwy’r oesoedd.

  • A6. Gwybodaeth sut i drin gweithiau llenyddol yn feirniadol, gan ddefnyddio geirfa dechnegol lle bo hynny’n briodol.

  • A7. Adnabyddiaeth o wahanol ddulliau a genres llenyddol a’r teithi a’r nodweddion a berthyn iddynt.

  • A8. Ymwybyddiaeth o’r gwahanol ddulliau o astudio llenyddiaeth, gan gynnwys amgyffrediad o berthnasedd  cysyniadau beirniadol.

  • A9. Gwybodaeth ynghylch y cysylltiadau rhwng llenyddiaeth Gymraeg a llenyddiaeth mewn ieithoedd eraill ac o le testunau llenyddol Cymraeg o fewn patrymau diwylliannol rhyngwladol.

  • A10. Ymwybyddiaeth o swyddogaeth iaith a llenyddiaeth mewn perthynas â meithrin, cynnal a datblygu’r hunaniaeth genedlaethol Gymreig.

  • A11. Ymwybyddiaeth o sefyllfa gymdeithasol bresennol yr iaith ac o’r dulliau a ddefnyddir i’w hyrwyddo a’i hadfer.

  • A12. Cynefindra â ffynonellau cyfeirio safonol yn ymwneud â’r Gymraeg a’i diwylliant, ar ffurf brintiedig ac electronig.

Y mae’r elfennau a nodir uchod yn gyson â Datganiad Meincnodi’r Gymraeg a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch.

Y dulliau dysgu, addysgu ac asesu a ddefnyddir i gyflawni a dangos y canlyniadau dysgu yr anelir atynt:

Darlithoedd; darllen dan gyfarwyddyd; seminarau; dosbarthiadau tiwtorial; dosbarthiadau iaith; dosbarthiadau darllen testun; gweithdai; paratoi ac ysgrifennu traethodau; gweithio ar draethawd hir neu brosiect; rhoi cyflwyniadau a thrafod cyflwyniadau myfyrwyr eraill; gwaith maes.

Dull asesu:

Arholiadau ysgrifenedig; profion llafar; gwaith cwrs (yn bennaf, traethodau); gwaith prosiect; profion iaith; traethawd estynedig; gwaith ffolio (gan gynnwys ysgrifennu creadigol, ymarferion iaith).


Information provided by Department of Theatre, Film and Television Studies:

Bwriedir i fyfyrwyr ddatblygu a dangos gwybodaeth, dealltwriaeth a dirnadaeth:

o'r methodolegau ar gyfer dadansoddi a chyd-destunoli testunau, cynyrchiadau a digwyddiadau theatr, ffilm, teledu, y cyfryngau digidol a deunydd amlgyfrwng fel moddau o gynrychioli ac o ddeall a dehongli’r byd

o'r methodolegau ar gyfer dadansoddi, deall a chymhwyso beirniadaeth gyfredol a hanesyddol sy’n berthnasol i theatr, ffilm, teledu, y cyfryngau digidol a deunydd amlgyfrwng

o'r methodolegau ar gyfer dadansoddi, llunio a chyflwyno deunydd sy’n dogfennu gwaith theatr, ffilm, teledu, cyfryngau digidol a deunydd amlgyfrwng

Erbyn diwedd eu rhaglen, disgwylir i'r holl fyfyrwyr allu dangos gwybodaeth:

A1 o’r cysyniadau a’r damcaniaethau allweddol wrth astudio a dadansoddi cynnyrch y diwydiannau creadigol, gan gynnwys theatr, ffilm, teledu, cyfryngau digidol a deunydd amlgyfrwng

A2 o elfennau creiddiol cynyrchiadau yn y diwydiannau creadigol: gan gynnwys gofod, mise-en-scène, dulliau perfformio a chyflwyno, cyfarwyddo a chyfryngu, a chyfranogi cynulleidfaol

A3 o’r strwythurau a’r prosesau sydd ynghlwm â chreu cynnyrch ymarferol yn y cyfryw ddiwydiannau

A4 o ddadleuon cyfredol ynglŷn â swyddogaeth drama a’r cyfryngau mewn cyd-destun diwylliannol, cymdeithasol a gwleidyddol

A5 o hanes a thraddodiadau yn y diwydiannau creadigol ynghyd â dulliau newydd a chyfredol o greu a chynhyrchu yn y diwydiannau creadigol, yng Nghymru a thu hwnt

A6 o brosesau, arferion, rheolau a phroblemau a geir wrth greu cynnyrch a chyflwyniadau mewn grŵp a/neu fesul unigolyn

A7 o’u cryfderau cynhenid eu hunain fel bodau creadigol ac/neu ymchwilwyr wrth iddynt ymwneud â chreu yn y diwydiannau creadigol

Dysgu ac Addysgu

Cyflawnir y canlyniadau dysgu (gwybodaeth a sgiliau) trwy raglen integredig o ddarlithoedd, darlithoedd fideo, seminarau, gweithdai ymarferol, gwaith grŵp a gwaith annibynnol. Fe fydd y darlithoedd a’r darlithoedd fideo yn cyflwyno meysydd eang o theori a gwybodaeth, y bydd y myfyrwyr wedyn yn adeiladu arnynt wrth baratoi ar gyfer seminarau. Fe rydd y seminarau hyn gyfle i fyfyrwyr ddysgu sut i fyfyrio ar y deunydd a gyflwynir iddynt, ei gyd-destunoli a’i feirniadu, mewn amgylchedd dysgu cefnogol. Gallant dynnu ar y profiad hwn wrth gwblhau aseiniadau, megis traethodau a chyflwyniadau ymarferol. Yn y seminarau, fe fydd y myfyrwyr hefyd yn dysgu sut i ddarllen a dehongli testunau ysgrifenedig a gweledol, deunydd ymchwil a chynyrchiadau byw. Wrth gyflwyno eu haseiniadau, rhoddir meini prawf marcio i fyfyrwyr a fydd yn caniatáu iddynt ganolbwyntio eu hymdrechion ar y lefel a'r math o gyflawniadau sy'n angenrheidiol ar gyfer llwyddiant. Fe'u cefnogir yn eu dysgu trwy gyfarfodydd cynnydd academaidd gyda'u tiwtoriaid pwnc; fe ellir derbyn adborth a chyngor cyffredinol hefyd gan diwtoriaid personol. Fe fydd yr adborth a dderbynnir wedi cyflwyno’r aseiniadau hyn, ynghyd â’r system tiwtoriaid personol, yn helpu myfyrwyr i gynllunio eu hastudiaethau ac (ynghyd â'r Gwasanaeth Gyrfaoedd) i ganolbwyntio ar amcanion gyrfa yn y dyfodol.

Strategaethau a Dulliau Asesu

Profir gwybodaeth a dealltwriaeth (A1-A7) trwy gyfuniad o draethodau ysgrifenedig; traethodau fideo; cyflwyno deunydd paratoadol ac ymchwil tuag at aseiniadau ysgrifenedig a fideo terfynol; asesu cyflwyniadau grŵp; cyfraniad ymarferol at gynyrchiadau byw.



10.2 : Skills and other attributes


Information provided by Department of Welsh:

  • B1. Sgiliau ieithyddol ymarferol a fydd yn cynnwys y gallu i drafod pynciau cymhleth yn raenus, yn ysgrifenedig ac ar lafar.

  • B2. Medrau dadansoddi iaith a’r defnydd ohoni mewn amrywiol sefyllfaoedd.

  • B3. Y gallu i gynnull ac i gyfleu gwybodaeth ynghylch testunau llenyddol ac i ymdrin â hwy yn feirniadol yn ysgrifenedig ac ar lafar.

  • B4. Y gallu i ymateb yn briodol i’r defnydd o iaith ac o’r dychymyg mewn llenyddiaeth.

  • B5. Y gallu i ystyried llenyddiaeth yn ei chyd-destun hanesyddol, cymdeithasol a syniadol.

  • B6. Y gallu i adnabod confensiynau llenyddol ac i werthfawrogi eu defnydd a’u swyddogaeth mewn perthynas â genres  llenyddol arbennig.

  • B7. Llunio llyfryddiaethau a chyfeirio mewn modd safonol a chyson at ffynonellau.        

   

Y mae’r elfennau a nodir uchod yn gyson â Datganiad Meincnodi’r Gymraeg a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch. 

Y dulliau dysgu, addysgu ac asesu a ddefnyddir i gyflawni a dangos y canlyniadau dysgu yr anelir atynt:

Darlithoedd; darllen dan gyfarwyddyd; seminarau; dosbarthiadau tiwtorial; dosbarthiadau iaith; dosbarthiadau darllen testun; gweithdai; paratoi ac ysgrifennu traethodau; gweithio ar draethawd hir neu brosiect; rhoi cyflwyniadau a thrafod cyflwyniadau myfyrwyr eraill; gwaith maes.

Dull asesu:

Arholiadau ysgrifenedig; profion llafar; gwaith cwrs (yn bennaf, traethodau); gwaith prosiect; profion iaith; traethawd estynedig; gwaith ffolio (gan gynnwys ysgrifennu creadigol, ymarferion iaith).


Information provided by Department of Theatre, Film and Television Studies:

10.2.1 Sgiliau Deallusol

Bydd sgiliau deallusol yn cael eu datblygu trwy gydol y cwrs o ran datrys problemau; sgiliau cyrchu, dehongli a chymhwyso gwaith ymchwil; ac ar ddatrys problemau deallusol a chreadigol. Mae’r cwrs gradd wedi’i ganoli ar feithrin sgiliau cyfathrebu effeithiol trwy ddulliau ysgrifenedig, perfformio a chyflwyno byw a thrwy gyfrwng y cyfryngau.

Erbyn diwedd eu rhaglen, disgwylir i'r holl fyfyrwyr allu dangos sgiliau deallusol:

B1 wrth ddehongli testunau dramataidd fel mynegiant o ddigwyddiad byw neu gyfryngol;

B2 wrth ddatblygu’r gallu i drafod testunau, cysyniadau a chynyrchiadau allweddol i lefel briodol, boed hynny ar bapur neu ar lafar;

B3 wrth ddehongli a gwerthuso testunau, cynyrchiadau byw a chyfryngol o wahanol safbwyntiau beirniadol;

B4 wrth ddadansoddi’r math o ddewisiadau a wneir pan yn cyflwyno cynhyrchiad ym maes y theatr, ffilm, teledu, ac yn y cyfryngau digidol;

B5 wrth arsylwi ac adlewyrchu ar waith ymarferol creadigol a gyflawnir mewn gwahanol fathau o gynyrchiadau byw a chyfryngol, fel unigolyn ac fel rhan o grŵp;

B6 wrth ddethol a thynnu ar ystod eang o ffynonellau gwybodaeth pan yn cyflawni gwaith ymchwil annibynnol;

B7 wrth nodi a dogfennu’r prosesau a gyflwynir iddynt mewn gweithdai ac wrth greu cynyrchiadau.

Dysgu ac Addysgu

Datblygir sgiliau deallusol wrth i’r myfyrwyr ymgysylltu â'r pwnc trwy weithio yn unigol ac annibynnol ac thrwy ryngweithio ag eraill yn y gymuned ddysgu ddeallusol: gwneir hyn trwy drafod (mewn seminarau, lle mae tiwtoriaid yn ceisio arwain a datblygu sgiliau deallusol), trwy weithredu’n ymarferol wrth gyfrannu at a llunio cynyrchiadau, a thrwy ddarllen ac ysgrifennu nodiadau ar gyfer aseiniadau eraill. Fe fydd myfyrwyr hefyd yn caffael sgiliau deallusol trwy dderbyn ac ymateb i adborth, boed hynny mewn seminarau, sesiynau ymarferol neu wrth asesu gwaith ysgrifenedig.

Strategaethau a Dulliau Asesu

Asesir sgiliau deallusol (B1-7) trwy gyfuniad o draethodau ysgrifenedig; traethodau fideo; cyflwyno deunydd paratoadol ac ymchwil tuag at aseiniadau ysgrifenedig a fideo terfynol; asesu cyflwyniadau grŵp; cyfraniad ymarferol at gynyrchiadau byw. Mae'r meini prawf asesu cyhoeddedig yn adlewyrchu'r sgiliau deallusol hyn sydd, yn eu tro, yn cael eu hadlewyrchu yn yr adborth i fyfyrwyr. Gall myfyrwyr asesu eu perfformiad eu hunain trwy fesur cyfradd eu cynnydd o gymharu â chyfraddau eu cyfoedion, ac yng ngoleuni sylwadau'r tiwtor. Fe fydd y myfyrwyr yn rhydd i drafod datblygiad ac asesiad anffurfiol sgiliau o'r fath gydag aelodau staff. Fe allant wella eu dysgu personol hefyd trwy ymgysylltu â'r system Diwtorial Personol a phroses y Rhaglen Datblygu Gyrfaoedd.

10.2.2 Sgiliau proffesiynol ymarferol / Sgiliau penodol i ddisgyblaeth

Erbyn diwedd eu rhaglen, disgwylir i'r holl fyfyrwyr allu dangos:

C1 gallu i fyfyrio ac adfyfyrio ar natur ac effeithiolrwydd gwahanol ddulliau cyflwyno, cynhyrchu ac ymchwil, yn ymarferol, yn ysgrifenedig, ar lafar a thrwy gyfrwng deunydd fideo

C2 gallu i adlewyrchu'n feirniadol a hunan-feirniadol ar waith ymarferol, gan gynnwys gweithgarwch timau creu a chynhyrchu a chyfraniadau unigol i’r gweithgarwch hwnnw

C3 gallu i gyfansoddi, trin a golygu deunydd storïol mewn ffordd sy’n amlygu dealltwriaeth o nodweddion dramatwrgaidd y deunydd ac o brofiad cynulleidfa

C4 gallu i berfformio’n effeithiol a/neu i drin a chymhwyso perfformiadau ar lwyfan theatr fyw, ar sgrîn ac mewn safleoedd penodol

C5 gallu i ddefnyddio ac i gymhwyso effeithiau offer a chyfryngau technegol o ran theatr, ffilm a theledu gan gynnwys offer goleuo a sain, camerâu, meddalwedd golygu a chynhyrchu

Dysgu ac Addysgu

Mae pob modiwl, ac yn arbennig y modiwlau craidd, yn cynnwys elfennau sy'n fodd i ddatblygu sgiliau proffesiynol ymarferol neu sgiliau penodol i ddisgyblaeth (C1-5). Mae’r cynllun gradd drwyddi draw yn cydbwyso triniaeth o elfennau theoretig, hanesyddol a chymdeithasol, ac ymarferol; ac fe fydd y myfyrwyr yn dysgu trwy ddamcaniaethu, trwy greu’n ymarferol a thrwy adfyfyrio ar eu gwaith. Fe fydd tiwtoriaid ar y cynllun yn cyflwyno profiadau dysgu trwy gyfrwng darlithoedd a seminarau (C1-2), gweithdai ymarferol (C1-5), a chynyrchiadau ymarferol (C1-5). Rhydd y profiadau hyn gyfle i’r myfyrwyr i weithredu ac adlewyrchu ar eu gwaith eu hunain ac ar waith cwmnïau, timau ac unigolion eraill. Fe fydd pwyslais pendant trwy gydol y cynllun gradd ar ddatblygu’r gallu i gymhwyso ac arfer y sgiliau uchod yn annibynnol, i reoli a eu gwaith eu hunain, ac i ddatblygu’r gallu i adfyfyrio ar eu cyrhaeddiad mewn cyd-destun cynyddol fanwl ac effro (C1-5).

Strategaethau a Dulliau Asesu

Mae pob modiwl yn cynnwys ffurfiau o asesiad sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â datblygu sgiliau proffesiynol ymarferol neu sgiliau penodol i ddisgyblaeth (C1-5). Mae’r rhain yn cynnwys traethodau ac aseiniadau ysgrifenedig, traethodau fideo, cyflwyniadau a chynyrchiadau ymarferol (C1-5).



10.3 : Transferable/Key skills


Information provided by Department of Welsh:

  • D1. Gallu mynegiant graenus yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig.

  • D2. Gallu i gyfleu dadleuon yn gydlynus ac yn groyw ac mewn modd argyhoeddiadol.

  • D3. Gallu i feddwl yn annibynnol.

  • D4. Gallu i ymagweddu’n feirniadol ac i ddadansoddi a chrynhoi dadleuon a safbwyntiau a gyflwynir gan eraill.

  • D5. Gallu i weithio’n annibynnol ac i gywain gwybodaeth yn drefnus a phwrpasol o amryw ffynonellau, i’w chloriannu’n feirniadol gan ddethol elfennau arwyddocaol a dilys, a’i chyflwyno i eraill ar ffurf gydlynus ac ystyrlon.

  • D6. Gallu i ddeall ac i ddatblygu cysyniadau cymhleth ac i ymdrin â hwynt yn feirniadol ac yn ddadansoddol.

  • D7. Gallu i weithio yn fanwl ac yn drylwyr.

  • D8. Medrau trefniadol mewn perthynas â thasgau gosodedig, gan gynnwys rheoli amser yn effeithiol.

  • D9. Sgiliau technoleg gwybodaeth sylfaenol, gan gynnwys prosesu geiriau, a’r gallu i gywain gwybodaeth o ffynonellau electronig.

  • D10. Golygu gwaith cyn ei gyflwyno mewn diwyg clir a graenus.

  • D11. Gallu i ddeall hanfodion deunydd a luniwyd mewn iaith arall/ieithoedd eraill ac i’w gyfieithu i’r Gymraeg neu ei ailfynegi yn y Gymraeg.

Y mae’r elfennau a nodir uchod yn gyson â Datganiad Meincnodi’r Gymraeg a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch. 

Y dulliau dysgu, addysgu ac asesu a ddefnyddir i gyflawni a dangos y canlyniadau dysgu yr anelir atynt:

Yn gyffredinol dysgir sgiliau trosglwyddadwy/allweddol drwy ddilyn y modiwlau a astudir, hynny yw, y mae eu meithrin yn gysylltiedig â dulliau dysgu’r modiwlau.    

Ymhlith y dulliau hynny y mae darlithiau, darllen dan gyfarwyddyd, seminarau, dosbarthiadau tiwtorial, paratoi ac ysgrifennu traethodau, a rhoi cyflwyniadau.

Asesir y sgiliau hyn mewn arholiadau ffurfiol, profion iaith, gwaith cwrs, ac asesu llafar.

Y mae mesur gallu’r myfyrwyr i’w mynegi eu hunain yn raenus yn y Gymraeg yn rhan o asesu pob modiwl. 


Information provided by Department of Theatre, Film and Television Studies:

Erbyn diwedd eu rhaglen, disgwylir i'r holl fyfyrwyr allu dangos:

D1 gallu i strwythuro a chyfathrebu syniadau’n effeithiol ar lafar, yn ysgrifenedig, yn ymarferol a/neu yn glyweledol

D2 gallu i gasglu gwybodaeth, ymchwilio, dethol a threfnu deunydd deallusol a chreadigol

D3 gallu i ddatrys problemau deallusol, creadigol, ac ymarferol mewn ystod eang o sefyllfaoedd theoretig ac ymarferol

D4 gallu i weithredu a chwblhau prosiectau fesul unigolyn ac mewn grŵp, gan reoli pwysedd gwaith yn effeithiol

D5 gallu i ddarllen, dadansoddi a gwerthuso ffynonellau gwybodaeth

D6 gallu i ymateb yn gadarnhaol i adborth a beirniadaeth adeiladol a bod yn sensitif wrth gynnig adborth a beirniadaeth i eraill

D7 gallu i ddefnyddio ystod o sgiliau ac adnoddau technoleg gwybodaeth yn y cyd-destunau priodol

D8 gallu i weithio’n annibynnol, cyfrifol a diogel, gan werthuso eu sgiliau academaidd, creadigol ac ymarferol eu hunain

Dysgu ac Addysgu

Mae’r cynllun ar ei hyd yn meithrin a hyrwyddo ymwybyddiaeth a chymhwysedd y myfyrwyr o ran sgiliau trosglwyddadwy allweddol. Mae’r rhain (D1-8) yn rhan annatod o weithgareddau dysgu ac addysgu ar draws y rhaglen. Un o egwyddorion sylfaenol y rhaglen yw bod y sesiynau dysgu a’r dulliau asesu yn caniatáu i’r myfyrwyr ddysgu’n ddeallusol ac ymarferol ar yr un pryd, ac felly mae’r holl sgiliau a restrir uchod (D1-8) yn gysylltiedig â phob un o’r dulliau dysgu ac asesu i ryw raddau. Mae’r rhain yn cynnwys darlithoedd a seminarau, gweithdai ymarferol a chynyrchiadau ymarferol a moddau dysgu sy’n gymysgedd o’r rhain (D1-8). Fe fydd y cymhwyso cyson hwn o sgiliau trosglwyddadwy yn allweddol bwysig wrth gyflawni cenadwri’r cynllun gradd o safbwynt hybu dysg, creadigrwydd a chyflogadwyedd.

Strategaethau a Dulliau Asesu

Mae’r sgiliau trosglwyddadwy a nodir uchod (D1-8) yn ganolog i'r meini prawf a ddefnyddir wrth werthuso cyrhaeddiad y myfyrwyr yn eu haseiniadau. Mae’r rhain yn cynnwys traethodau ac aseiniadau ysgrifenedig, traethodau fideo, cyflwyniadau a chynyrchiadau ymarferol (D1-8).



11 : Program Structures and requirements, levels, modules, credits and awards



BA Cymraeg / Creu (Perfformio / Cyfryngau) [QW52]

Academic Year: 2023/2024Joint Honours scheme - available from 2022/2023

Duration (studying Full-Time): 3 years

Part 1 Rules

Year 1 Core (20 Credits)

Compulsory module(s).

Semester 2
TC10820

Cydweithio Ensemble

Year 1 Timetable Core/Student Option

Rhaid i bob myfyriwr iaith gyntaf gymryd y modiwlau hyn:

Semester 1
CY11400

Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar

CY13120

Sgiliau Astudio Iaith a Llên

Semester 2
CY11420

Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar

Year 1 Timetable Core/Student Option

Rhaid i bob myfyriwr ail iaith gymryd y modiwlau hyn:

Semester 1
CY10900

Trafod y Byd Cyfoes twy'r Gymraeg

CY11700

Ysgrifennu Cymraeg Graenus

Semester 2
CY10920

Trafod y Byd Cyfoes twy'r Gymraeg

CY11720

Ysgrifennu Cymraeg Graenus

Year 1 Timetable Core/Student Option

Rhaid i bob myfyriwr iaith gyntaf ddewis modiwlau gwerth 20 credyd o blith y canlynol:

Semester 1
CY11120

Themau a Ffigurau Llen c.550-1900

Semester 2
CY11220

Beirdd a Llenorion o 1900 hyd heddiw

Year 1 Timetable Core/Student Option

Rhaid i bob myfyriwr ail iaith astudio 20 credyd o blith y modiwlau canlynol:

Semester 1
CY11500

Llenyddiaeth Gymraeg: cyfoes a hanesyddol

CY13120

Sgiliau Astudio Iaith a Llên

Semester 2
CY11520

Llenyddiaeth Gymraeg: cyfoes a hanesyddol

Year 1 Options

Rhaid i fyfyrwyr Creu (Perfformio / Cyfryngau) (Anrhydedd Cyfun) ddewis UN o'r ddau fodiwl canlynol:

Semester 1
TC10520

Creu Ffilm

TC11220

Sylfeini Perfformio: Corff, Cymeriad a Thestun

Semester 2

Year 1 Options

Rhaid i fyfyrwyr Creu (Perfformio / Cyfryngau) (Anrhydedd Cyfun) ddewis UN o'r modiwlau canlynol:

Semester 1
TC10520

Creu Ffilm

TC11220

Sylfeini Perfformio: Corff, Cymeriad a Thestun

TC11320

Creu Cynyrchiadau Amlgyfrwng

Semester 2
TC10620

Gweithio yn y Diwydiannau Creadigol

TC10720

Gweithio ar Gamera

Part 2 Rules

Year 2 Timetable Core/Student Option

Mae Gloywi Iaith yn orfodol i fyfyrwyr Iaith Gyntaf yn eu hail flwyddyn:

Semester 1
CY20100

Gloywi Iaith

Semester 2
CY20120

Gloywi Iaith

Year 2 Timetable Core/Student Option

Mae CY20520 a CY21420 yn orfodol i fyfyrwyr Ail Iaith yn eu hail flwyddyn:

Semester 1
CY20520

Cymraeg y Gweithle Proffesiynol

CY21400

Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar

Semester 2
CY21420

Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar

Year 2 Options

Rhaid i fyfyrwyr Creu (Perfformio / Cyfryngau) (Anrhydedd Cyfun) ddewis un o'r modiwlau canlynol:

Semester 1
TC21020

Ymarfer Cynhyrchu 1: Perfformio

TC21120

Ymarfer Cynhyrchu 1: Cyfryngau

Semester 2

Year 2 Options

Gall myfyrwyr Creu (Perfformio / Cyfrynagu) (Anrhydedd Cyfun) ddewis gweddill eu modiwlau o blith y canlynol:

Semester 1
TC20320

Sylfeini Hunan-Gyflwyno

TC21220

Ymarfer Cynhyrchu: Gorffen

Semester 2
TC20620

Theatr a Ffilm Gyfoes: Cymru a'r Byd

TC21420

Ymchwil Creadigol Ymarferol

TC27020

'Arwyr': Dogfennu Gyrfaoedd yn y Diwydiannau Creadigol

TC29920

Ffilm a Theatr Americanaidd

Year 2 Options

Dewiswch rhwng 20 a 40 o gredydau o blith modiwlau Lefel 2 yr Adran / Choose between 20 and 40 credits of Level 2 modules in the Department

Final Year Timetable Core/Student Option

Mae'r modiwl yma yn orfodol i fyfyrwyr Ail Iaith yn eu blwyddyn olaf:

Semester 1
CY31100

Gloywi Iaith yr Ail Iaith

Semester 2
CY31120

Gloywi Iaith yr Ail Iaith

Final Year Options

Gall myfyrwyr Creu Perfformio a Chyfryngau (Anrhydedd Cyfun) ddewis UN o'r modiwlau canlynol:

Semester 1
TC31020

Ymarfer Cynhyrchu 2: Perfformio

TC31120

Ymarfer Cynhyrchu 2: Cyfryngau

Semester 2

Final Year Options

Gall myfyrwyr Creu Perfformio a Chyfryngau (Anrhydedd Cyfun) ddewis gweddill eu modiwlau o blith y canlynol:

Semester 1
TC31220

Ymarfer Cynhyrchu 2: Gorffen

TC36100

Prosiect Ymchwil Creadigol

Semester 2
TC30620

Theatr a Ffilm Gyfoes: Cymru a'r Byd

TC36140

Prosiect Ymchwil Creadigol

TC39920

Ffilm a Theatr Americanaidd

Final Year Options

Dewiswch rhwng 40 a 60 o gredydau o blith modiwlau Lefel 3 yr Adran / Choose between 40 and 60 credits of Level 3 modules in the Department


12 : Support for students and their learning
Every student is allocated a Personal Tutor. Personal Tutors have an important role within the overall framework for supporting students and their personal development at the University. The role is crucial in helping students to identify where they might find support, how and where to seek advice and how to approach support to maximise their student experience. Further support for students and their learning is provided by Information Services and Student Support and Careers Services.

13 : Entry Requirements
Details of entry requirements for the scheme can be found at http://courses.aber.ac.uk

14 : Methods for evaluating and improving the quality and standards of teaching and learning
All taught study schemes are subject to annual monitoring and periodic review, which provide the University with assurance that schemes are meeting their aims, and also identify areas of good practice and disseminate this information in order to enhance the provision.

15 : Regulation of Assessment
Academic Regulations are published as Appendix 2 of the Academic Quality Handbook: https://www.aber.ac.uk/en/aqro/handbook/app-2/.

15.1 : External Examiners
External Examiners fulfill an essential part of the University’s Quality Assurance. Annual reports by External Examiners are considered by Faculties and Academic Board at university level.

16 : Indicators of quality and standards
The Department Quality Audit questionnaire serves as a checklist about the current requirements of the University’s Academic Quality Handbook. The periodic Department Reviews provide an opportunity to evaluate the effectiveness of quality assurance processes and for the University to assure itself that management of quality and standards which are the responsibility of the University as a whole are being delivered successfully.