Module Information

Cod y Modiwl
CY32520
Teitl y Modiwl
Hanes a Hanfodion Beirniadaeth Lenyddol
Blwyddyn Academaidd
2021/2022
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

O ganlyniad i Covid-19 dylai myfyrwyr gyfeirio at y tudalennau modiwlau BwrddDu ar gyfer manylion yr asesiadau

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   60%
Arholiad Semester 2 Awr   60%
Asesiad Ailsefyll Dau draethawd  (2x1,500 o eiriau)  40%
Asesiad Semester Dau draethawd  (2x 1,500 o eiriau)  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Dod yn gyfarwydd â thirwedd wleidyddol, ddiwylliannol a llenyddol y cyfnod o safbwynt beirniadaeth lenyddol;

2. Ymateb yn feirniadol ac yn gynyddol soffistigedig i ystod eang o destunau gosod a gwirfoddol;

3. Gwerthfawrogi ar sail testunau a ddewiswyd yn annibynnol y gellir trafod llenyddiaeth o safbwynt awdur, darllenydd, testun ac ideoleg, gan ategu’r ddealltwriaeth honno drwy gyfeirio at destunau perthnasol.

Disgrifiad cryno

Cyflwyniad i brif theorïau beirniadaeth lenyddol gyfoes a hanesyddol.

Cynnwys

1. Chwarae gyda thestun 1

2. Beirniadaeth seicoddadansoddol (psychoanalytical criticism)

3.Beirniadaeth ymateb y darllenydd (reader-response criticism)

4.Beirniadaeth dderbyniad (reception criticism)

5.Marcsiaeth, hanesyddiaeth newydd a materoliaeth ddiwylliannol (Marxism, new historicism and cultural materialism)

6.Ffeminyddiaeth (feminism)

7.Beirniadaeth ôl-drefedigaethol (postcolonial criticism)

8.Ecofeirniadaeth (ecocriticism)

9.Dirfodaeth (existentialism)

10. Ffurfiolaeth, y Feirniadaeth Newydd (Formalism, the New Criticism)

11.Seminarau 1

12.Seminarau 2

13.Lleisiau Cymraeg – cynghanedd

14.Lleisiau Cymraeg – eisteddfod

15. Lleisiau Cymraeg - traddodiad

16.John Morris-Jones

17.Saunders Lewis

18.Alan Llwyd

19.John Rowlands

20. Chwarae gyda thestun 2.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Anogir myfyrwyr i fynegi eu syniadau yn glir ac yn argyhoeddiadol yn yr aseiniadau ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir sgiliau hanfodol (megis paratoi a thraddodi papur ycmhwil annidbynnol) tua chanol y modiwl.
Datrys Problemau Trwy ymwneud yn feirniadol, ar lafar ac ar bapur, â chysyniadau deallusol sy’n codi o’r cyd-destun hanesyddol ac o destunau llenyddol penodol.
Gwaith Tim Trwy gyfrannu at drafodaethau grŵp ynghylch y testunau a’r cysyniadau allweddol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Trwy ymchwil annibynnol; adborth eu twtoriaid ar waith ysgrifenedig a chyfraniadau llafar; ymwneud â chymheiriaid yn ystod trafodaethau grŵp; datblygu sgiliau trefnu amser/gwaith; myfyrio ar sgiliau cyflwyno a gwaith ysgrifenedig arall.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Trwy feithrin gallu myfyrwyr i ddarllen a deall testunau, a thrwy hynny ddysgu mwy am ddatblygiad ymateb llenorion i Gymru a’r byd.
Sgiliau ymchwil Trwy gyfrwng ymchwil annibynnol ar gyfer aseiniadau ysgrifenedig (dau draethawd) a chyfraniadau i drafodaethau grŵp. Hefyd, trwy ddefnyddio ymchwil electronig ac adnoddau electronig a llyfryddol.
Technoleg Gwybodaeth At ddibenion ymchwil (aseiniad a thrafodaethau); prosesu geiriau. Defnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol; cael mynediad i adnoddau’r modiwl ar y BwrddDu.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6