Module Information

Cod y Modiwl
CT12220
Teitl y Modiwl
Cyflwyniad i Droseddeg
Blwyddyn Academaidd
2022/2023
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Pre-Requisite
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 1.5 Awr   Arholiad ar lein  Arholiad na welir ymlaen llaw 1.5 Awr  50%
Arholiad Semester 1.5 Awr   Arholiad Ar Lein  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  1500 o eiriau  50%
Asesiad Semester Traethawd  1500 o eiriau  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth ddatblygedig o ddamcaniaethau troseddegol craidd;

Nodi sail ontolegol ac epistemolegol ystod eang o ddamcaniaethau ym maes troseddeg

Deall sut mae datblygiadau mewn theori yn esblygu;

Deall sut mae troseddeg ddamcaniaethol wedi helpu i siapio’r system a’r prosesau cyfiawnder troseddol cyfoes;

Nodi’r cryfderau a’r cyfyngiadau o ran potensial esboniadol theori

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl hwn yn ystyried safbwyntiau damcaniaethol allweddol sy’n helpu i esbonio troseddu ac anrhefn gymdeithasol mewn cymdeithas. Mae’n lleoli safbwyntiau troseddegol yn eu cyd-destunau cymdeithasol a gwleidyddol gan ystyried eu perthnasedd a’u cymhwysiad yn y gymdeithas gyfoes a sut maent wedi llywio systemau a phrosesau cyfiawnder troseddol

Cynnwys

Bydd y prif themâu a ystyrir yn cynnwys:

Cyflwyniad i Droseddeg
Troseddeg Glasurol a Dewis Rhesymegol
Troseddeg Fiolegol a’r Ysgol Bositifaidd
Troseddeg Gymdeithasegol
Durkheim a Ffwythiannaeth Strwythurol
Damcaniaethau Straen Cymdeithasol
Ecoleg Gymdeithasol ac Anhrefn Gymdeithasol
Troseddeg Is-ddiwylliannol
Damcaniaeth Rheolaeth Gymdeithasol
Labelu
Troseddeg Feirniadol

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Llafar: Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu llafar trwy gymryd rhan mewn trafodaethau seminar. Byddant yn dysgu i fod yn glir ac yn uniongyrchol wrth drafod. (Dim asesiad) Ysgrifenedig: Bydd disgwyl i'r myfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi’i eirbrosesu ac asesir eu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ar sail eu gallu i fynegi syniadau’n effeithiol, sgiliau iaith da a dadl resymegol
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Gwell gallu i feddwl yn annibynnol ac yn feirniadol. Sgiliau rheoli amser da wrth baratoi ar gyfer seminarau a chyflwyno gwaith yn brydlon
Datrys Problemau Bydd cymathu ystod o ddamcaniaethau cymhleth yn datblygu gallu myfyrwyr i ddatrys problemau, a bydd ystod o ymarferion rhyngweithiol yn y darlithoedd, seminarau a'r aseiniad yn annog meddwl ochrol
Gwaith Tim Bydd gweithio mewn grwpiau bach a seminarau grŵp o fewn y seminarau yn meithrin sgiliau gweithio mewn tîm.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd darlithoedd a seminarau rhyngweithiol yn annog myfyrwyr i feddwl yn feirniadol ac yn ochrol, gydag ymarferion a gynlluniwyd i ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu cysyniadau haniaethol, a chaniatáu i fyfyrwyr fyfyrio ynghylch eu dysgu eu hunain
Rhifedd Bydd deall a chloriannu data ymchwil meintiol perthnasol yn elfen bwysig o’r modiwl
Sgiliau pwnc penodol Mae’r modiwl hwn yn darparu cyfle i’r myfyrwyr nodi, dadansoddi, cloriannu ac ymarfer cyfres o sgiliau yn ymwneud â deall theori troseddegol.
Sgiliau ymchwil Bydd sgiliau ymchwil yn cael eu datblygu trwy ddod o hyd i lenyddiaeth ar wahanol ddamcaniaethau troseddegol a’u dadansoddi’n feirniadol er mwyn llunio a chyflwyno trafodaeth wybodus ar gyfer yr asesiadau. Bydd y myfyrwyr hefyd yn datblygu sgiliau ymchwil wrth baratoi ar gyfer y seminarau, fel unigolion ac fel grŵp
Technoleg Gwybodaeth Bydd paratoi ar gyfer seminarau, yr aseiniadau a’r arholiad oll yn golygu bod angen defnyddio cronfeydd data’r llyfrgell a chronfeydd data electronig eraill

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4