Sgiliau ar gyfer Biolegwyr

Module Identifier
BG16800
Module Title
Sgiliau ar gyfer Biolegwyr
Academic Year
2026/2027
Semester
Semester 1 Taught over 2 semesters
Co-ordinator
Dr Arwyn Edwards
Reading List
View on Aspire
Other Staff
Dr Ruth Wonfor
Dr Dylan Gwynn Jones
Dr Ifat Shah
Professor David Whitworth

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Proportion

Semester Assessment Cyflwyniad llafar grwp: 5 Munud 35%
Semester Assessment Adroddiad: 2000 o eiriau 65%
Supplementary Assessment Cyflwyniad llafar: 5 Munud 35%
Supplementary Assessment Adroddiad: 2000 o eiriau 65%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. Cyfleu gwybodaeth a syniadau ar ffurf cyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig.
  2. Datblygu dadl resymegol a herio rhagdybiaethau.
  3. Ffurfio damcaniaethau a chwestiynau ymchwil, ymgymryd â chasglu data, a llunio dadleuon academaidd.
  4. Adnabod ffynonellau data ac adnoddau gwybodaeth priodol.
  5. Meithrin ymddygiad academaidd priodol (e.e. osgoi arfer annerbyniol).
  6. Dehongli a defnyddio data.
  7. Arddangos llythrennedd cyfrifiadurol sylfaenol.
  8. Dilyn protocol arbrofol
  9. Cofnodi, dehongli ac adrodd ar ddata arbrofol yn briodol
  10. Cyflwyno data/cysyniadau trwy amrywiaeth o gyfryngau

Brief description

Bwriad y modiwl yw paratoi myfyrwyr gyda'r sgiliau allweddol angenrheidiol ar gyfer gyrfa academaidd a phroffesiynol lwyddiannus megis rheoli amser, meddwl yn feirniadol a dysgu myfyriol. Agwedd bwysig o'r modiwl yw i roi cyflwyniad i ystod o faterion ymchwil megis gwerthuso llenyddiaeth, asesu data ansoddol a meintiol a chyfathrebu llafar, gweledol ac ysgrifenedig. Cyflwynir cynnwys y modiwl drwy amrywiaeth o fformatau gan gynnwys darlithoedd, gweithdai, e-ddysgu a thiwtorialau. Yn semester 2 bydd myfyrwyr yn ymgymryd â chyfres o arbrofion cysylltiedig a fydd yn datblygu sgiliau ymarferol sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer ymchwil ar draws bioleg. Datblygir sgiliau gweithio mewn grŵp trwy diwtorialau, a fydd hefyd yn rhoi arweiniad ar gyflwyno/dehongli data arbrofol.

Aims

Trwy gyfuniad o ddarlithoedd rhagarweiniol ffurfiol, wedi'u hategu gan sesiynau tiwtorial gyda thiwtoriaid personol, nod y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i a gwella eu sgiliau astudio a chyfathrebu. Mae’r rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: Sgiliau ysgrifennu a chyflwyno, Gwerthuso ffynonellau gwybodaeth, Meddwl yn feirniadol, rhesymu anwythol a diddwythol, Moeseg ymchwil a Thrin a dadansoddi data

Mae angen cyflwyniad cynnar i set o sgiliau labordy moleciwlaidd sylfaenol ar fyfyrwyr sy'n astudio gwyddorau biolegol. Bydd y modiwl hwn hefyd yn defnyddio cyfres o arbrofion integredig i gyflwyno myfyrwyr i'r technegau sylfaenol hyn. Bydd sgiliau gweithio mewn grŵp yn cael eu datblygu trwy diwtorialau, a fydd hefyd yn darparu arweiniad ar gyfer cyflwyno/dehongli data arbrofol.

Content

Semester 1
x5 o ddarlithoedd 1 awr rhagarweiniol ffurfiol dros 5 wythnos gyntaf semester 1
6 sesiwn tiwtorial 2 awr ar draws y Semester (heb ei amserlennu'n ganolog)

Semester 2
6 sesiwn tiwtorial 2 awr ar draws y Semester (heb ei amserlennu'n ganolog)
Yn wythnos 1, bydd myfyrwyr yn mynychu cyfres o ddosbarthiadau labordy cysylltiedig bob prynhawn

Module skills

Skills type

Skills details

Adaptability and resilience Y tu allan i'r oriau cyswllt ffurfiol, bydd disgwyl i fyfyrwyr ymchwilio i ddeunyddiau, rheoli amser a chwrdd â therfynau amser. Bydd yr elfennau astudio dan gyfarwyddyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio eu harddulliau a'u hoffterau dysgu eu hunain a nodi eu hanghenion a'u rhwystrau i ddysgu. Bydd myfyrwyr yn gallu adolygu a monitro eu cynnydd a chynllunio ar gyfer gwella perfformiad personol.
Co-ordinating with others Gwneir yr ymchwil ar gyfer y prosiect mewn grwpiau tiwtor personol i gyflwyno myfyrwyr i'r cysyniadau o weithio mewn tîm, ac, yn seiliedig ar adborth gan y grŵp, mae'n ofynnol i diwtoriaid roi sylwadau ar gyfraniad aelodau unigol o'r grŵp tuag at gyflawni'r allbynnau grŵp gofynnol.
Creative Problem Solving Gellir cyflwyno myfyrwyr i gysyniadau datrys problemau wrth ddatblygu’r ddamcaniaeth i danategu eu prosiect ymchwil, ond ni fydd datrys problemau yn elfen bwysig o ddatblygu sgiliau yn y modiwl hwn.
Critical and analytical thinking Bydd gofyn i fyfyrwyr gynllunio a chyflawni prosiect ymchwil bach a chynhyrchu adroddiad academaidd briodol lle bydd disgwyl iddynt hefyd wneud sylwadau beirniadol ar y dulliau arbrofol a fabwysiadwyd.
Digital capability Ar draws yr aseiniadau amrywiol, mae gofyn i fyfyrwyr ddangos defnydd effeithiol o ystod o becynnau meddalwedd TG perthnasol (Word, Excel, PowerPoint).
Professional communication Mae'r traethawd ffurfiannol, adroddiad prosiect a chyflwyniad seminar, gyda'r adborth manwl a ddarperir gan diwtoriaid personol, wedi'u cynllunio i helpu i ddatblygu a gwella sgiliau cyfathrebu.
Subject Specific Skills Cymhwyso rhif: Casglu a chraffu ar ddata o ran ansawdd a swm. Dehongli data. Bydd cysyniadau pwnc-benodol yn ymwneud â biocemeg, geneteg a microbioleg yn cael eu datblygu. Bydd myfyrwyr yn gallu dangos dealltwriaeth o arbrofi mewn labordy, a defnyddio dulliau labordy cyffredin yn briodol.

Notes

This module is at CQFW Level 4