Cynhyrchiad Annibynnol

Module Identifier
TC31320
Module Title
Cynhyrchiad Annibynnol
Academic Year
2026/2027
Semester
Semester 2
Co-ordinator
Dr Gareth Evans
Reading List
View on Aspire
Other Staff
Dr Margaret Ames
Dr Ffion Jones
Dr Gareth Evans

Assessment

Assessment Type

Assessment details

Assessment length

Proportion

Semester Assessment Cyflwyniad - 'Pitch' i'r prosiect fesul grwp cynhyrchu (10 munud) 25%
Semester Assessment Cyflwyniad llafar fesul grwp cynhyrchu 25%
Semester Assessment Perfformiad - mewn cynhyrchiad grwp (25-30 munud) 50%
Supplementary Assessment Cyflwyniad - 'Pitch' unigol (10 munud) 25%
Supplementary Assessment Cyflwyniad llafar unigol 25%
Supplementary Assessment Perfformiad - unigol (25-30 munud) 50%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

  1. 1. Dyfeisio, cynllunio, a llwyfannu perfformiad yn annibynnol, gan fynegi gweledigaeth greadigol eglur.
  2. 2. Cyd-destunoli eu gwaith o fewn maes ymarfer perfformio cyfoes trwy gyfrwng digwyddiad sydd o safon briodol ar gyfer ei gyflwyno’n gyhoeddus. 
  3. 3. Mynegi eu gweledigaeth ar lafar ac yn ysgrifenedig mewn modd proffesiynol a phriodol ar gyfer y diwydiannau creadigol. 
  4. 4. Adlewyrchu’n feirniadol ar y broses o greu ac o gyflwyno gwaith perfformio mewn modd sydd yn dreiddgar a deallusol, gan leoli’r gwaith o fewn cyd-destun theatraidd a diwylliannol penodol. 

Brief description

Nod y modiwl hwn fydd cynnig profiad llawn o weithio gyda grwp ensemble o gyd-fyfyrwyr ar gynhyrchiad byw neu amlgyfrwng tua 30 munud o hyd. Fe fydd y modiwl yn rhoi cyfrifoldeb creadigol ac ymarferol llawn ar y myfyrwyr Lefel 3 i lunio a thywys eu cyd-fyfyrwyr Lefel 2 (ar y modiwl Perfformio Ensemble) trwy broses gynhyrchu gyfan, gytbwys a chyraeddadwy. Fe fydd proses greadigol ac ymarferol y myfyrwyr Lefel 3 yn cael ei oruchwylio gan aelod o staff, ac fe geir cyfleon yn ystod y modiwl i gynnal sesiynau tiwtorial a fydd yn dadansoddi cynnydd ymarferol y myfyrwyr a chynnig cyngor iddynt o ran datblygiad pellach y prosiect.

Os nad fydd myfyrwyr a gael yn yr ail flwyddyn i gymryd y modiwl cyfatebol, gellir llunio ensemble o blith myfyrwyr sy’n gwirfoddoli, neu gyflwyno prosiect unigol.

Content

Bydd y gweithdai wythnosol yn taro golwg ar y pynciau a’r meysydd canlynol:

Technegau a phrosesau ar gyfer dyfeisio deunydd perfformio annibynnol

Technegau a phrosesau ar gyfer strwythuro deunydd perfformio

Dogfennu a chofnodi proses

Dramatwrgiaeth

Technegau hyfforddi penodol a gwaith byrfyfyr

Ysgrifennu perfformiadol

Ysgrifennu ar gyfer perfformio

Lleoli perfformio

Gweithio gyda’r geiriol, y gweledol, a’r gofod perfformio

Ysgrifennu datganiad artist

Cynhelir sesiynau tiwtora unigol ar gyfer pob grŵp/cyflwyniad er mwyn gallu cyflwyno a chynnal cyfres o dasgau dyfeisio, a derbyn adborth, a sicrhau bod gwaith annibynnol yn cael ei fonitro’n ddigonol ar hyd y semester.

Erbyn diwedd y modiwl, fe fydd pob grŵp/unigolyn sy’n cyflwyno wedi creu perfformiad unigol o 30 munud o hyd. Bwriedir i’r gwaith terfynol fod o safon a fyddai’n ei wneud yn briodol ar gyfer ei berfformio i gynulleidfaoedd cyhoeddus mewn cyd-destun a fyddai’n briodol ar gyfer artistiaid ifanc. Y nod yw sicrhau bod y gwaith terfynol yn fodd i gynorthwyo’r myfyrwyr i ddatblygu’n ymarferwyr mwy proffesiynol neu i gyrchu tuag at ymchwil ymarferol academaidd pellach.

Module skills

Skills type

Skills details

Application of Number Ni ddatblygir sgiliau gwybodaeth rifyddol yn ystod y modiwl.
Communication Mae datblygu ac ymestyn sgiliau cyfathrebu yn allweddol bwysig ar gyfer pob agwedd ar greu gwaith ymarferol, boed hynny'n cyfathrebu a'r gynulleidfa drwy berfformio, cyflwyno gweledigaeth o gynnwys golygfa wrth gyfarwyddo neu gyfathrebu ag aelodau tîm dylunio wrth weithio'n dechnegol.
Improving own Learning and Performance Fe gedwir golwg ar ddatblygiad y myfyrwyr yn ystod y broses ymarfer gan y Tiwtor a ddosrannir iddynt, a gofynnir iddynt adfyfyrio ar eu cyfraniad i'r prosiect wrth iddo ddatblygu. Fe fydd y Cyflwyniad Ymarfer-fel-Ymchwil yn rhoi cyfle iddynt adfyfyrio ar eu cynnydd yn ystod y modiwl yn fwy ffurfiol, ac i werthuso rhai o ganlyniadau'r gwaith ymarferol ar y Prosiect.
Information Technology Fe all myfyrwyr ganfod a defnyddio deunyddiau ar-lein wrth ymchwilio, paratoi a chyflwyno'r prosiect hwn; ond nid asesir y sgiliau hyn yn uniongyrchol.
Personal Development and Career planning Ni cheir unrhyw ymrwymiad ffurfiol na swyddogol i ddatblygiad personol a chynllunio gyrfa yn y modiwl; fodd bynnag, gellir trosglwyddo nifer fawr o'r sgiliau cyffredinol ac arbenigol a feithrinir yn ystod y prosiect hwn a'u cynhwyso ar gyfer nifer o amgylchiadau gwahanol, gan gynnwys rhai gyrfaol. Gobeithir y bydd y gwaith hwn, ac unrhyw ddogfennaeth ohono, yn gweithredu fel 'showcase' ar gyfer gwaith y myfyriwr, ac yn fodd iddynt gyflwyno’u hunain i gyflogwyr.
Problem solving Fe ddatblygir y sgiliau hyn wrth i'r myfyrwyr ymateb i'r gwahanol fathau o her a gyfyd yn ystod y broses baratoi, ymarfer a chyflwyno ar gyfer y prosiect ymarferol. Fe fydd y broses o greu gwaith creadigol annibynnol a'i drin a'i ddiffinio ar yr un pryd fel prosiect ymchwil yn her sylfaenol ac yn gofyn i'r myfyrwyr werthuso manteision ac anfanteision sawl gwahanol fath o atebion posibl.
Research skills Fe ddatblygir sgiliau ymchwil wrth baratoi ar gyfer ymarferion y prosiect; fe asesir y sgiliau hyn yn uniongyrchol trwy gyfrwng y Cyflwyniad Llafar ar derfyn y prosiect.
Subject Specific Skills Bydd y modiwl yn ystyried pob myfyriwr fel artist annibynnol, a bydd disgwyl i’r myfyrwyr ymateb yn briodol i'r cyfrifoldebau sydd ynghlwm a hynny. Bydd pwyslais ar gyflogadwyedd a chreu cysylltiadau gyda’r sector broffesiynol, gyda’r bwriad bydd y myfyrwyr yn gallu defnyddio’u gwaith fel enghraifft o’u gallu ymarferol a gweledigaeth artistig ac yn ei arddangos mewn cyd-destunau cyhoeddus.
Team work Mae'r gallu i weithio fel aelod o dîm creadigol yn allweddol bwysig ar gyfer pob agwedd ar waith cynhyrchu. Hyd yn oed pan fydd y myfyriwr yn gweithio yn annibynnol ac unigol, fe fydd yn rhaid iddynt drafod a rhesymoli anghenion eu Prosiect mewn perthynas â chyflenwad adnoddau'r Adran.

Notes

This module is at CQFW Level 6