Prosiect Ymchwil Creadigol
- Module Identifier
- TC36140
- Module Title
- Prosiect Ymchwil Creadigol
- Academic Year
- 2026/2027
- Semester
- Semester 2 Taught over 2 semesters
- Co-ordinator
- Dr Gareth Evans
- Reading List
- View on Aspire
- Other Staff
- Dr Ffion Jones
- Dr Gareth Evans
- Dr Lisa Richards
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Cynllun Ymchwil: 2500 o eiriau | 25% |
| Semester Assessment | Prif Aseiniad: Traethawd Hir (hyd at 10,000 gair) NEU Berfformiad Byw Unigol (hyd at 20 munud) a Phortffolio Adlewyrchol (cyfwerth â 2,000 gair) NEU Sgript (hyd at 45 munud o hyd) a Phortffolio Adlewyrchol (cyfwerth â 2,000 gair) NEU Ffilm (hyd at 10 munud o hyd) a Phortffolio Adlewyrchol (cyfwerth â 2,000 gair) | 75% |
| Supplementary Assessment | Prif Aseiniad: Traethawd Hir (hyd at 10,000 gair) NEU Berfformiad Byw Unigol (hyd at 20 munud) a Phortffolio Adlewyrchol (cyfwerth â 2,000 gair) NEU Sgript (hyd at 45 munud o hyd) a Phortffolio Adlewyrchol (cyfwerth â 2,000 gair) NEU Ffilm (hyd at 10 munud o hyd) a Phortffolio Adlewyrchol (cyfwerth â 2,000 gair) | 75% |
| Supplementary Assessment | Cynllun Ymchwil: 2500 o eiriau | 25% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Ffurfio cwestiwn ymchwil fel sail ar gyfer prosiect estynedig, gan sylweddoli wrth wneud hynny beth fydd yn rhaid cyflawni wrth geisio'i ateb.
- Datblygu sgiliau ymchwilio sy'n briodol i’r pwnc a’r allbwn a ddewiswyd ganddynt, a’u defnyddio wrth weithio’n annibynnol.
- Tafoli cyfres o weithiau beirniadol ac/neu astudiaethau achos perthnasol, a’u cymhwyso er mwyn goleuo'r drafodaeth ar y pwnc a ddewiswyd.
- Strwythuro a threfnu casgliadau’n glir mewn darn estynedig o waith ysgrifenedig; neu trwy sgript; neu trwy ffilm; neu trwy gyflwyniad byw; a gallu adlewyrchu ar y casgliadau ble fo’n briodol.
Brief description
Nod y modiwl hwn yw rhoi cyfle i fyfyrwyr ymgymryd â phrosiect ymchwil creadigol estynedig, ble mae ganddynt ryddid i ddewis ffurf yr aseiniad terfynol, yn unol ag anghenion a phriodoledd y cwestiwn ymchwil.
Yn ystod y semester cyntaf, bydd rhaid i bob myfyriwr gyflwyno cynllun ymchwil ysgrifenedig 2,500 o eiriau. Ar sail y cynllun ymchwil, bydd modd i’r myfyriwr ddatblygu’r prosiect ar gyfer creu un o’r allbynnau canlynol:
- traethawd hir ysgrifenedig hyd at 10,000 o eiriau.
- ffilm unigol, hyd at 10 munud o hyd, a phortffolio adlewyrchol cyfwerth â 2,000 o eiriau.
- perfformiad byw unigol, hyd at 20 munud o hyd, a phortffolio adlewyrchol cyfwerth â 2,000 o eiriau.
- sgript ar gyfer unrhyw gyfrwng, hyd at 45 munud o hyd, a phortffolio adlewyrchol cyfwerth â 2,000 o eiriau.
Amlygir y berthynas glos rhwng ymchwil â gwaith creadigol yn gyson yng nghynlluniau gradd yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu. Trwy roi rhyddid i fyfyrwyr ddewis ffurf eu prosiect ymchwil, bydd y modiwl yn rhoi cyfle i ddatblygu darn o waith creadigol sylweddol sy’n ymgorffori ac yn fynegiant o’r weledigaeth hon.
Yn ystod y semester cyntaf, bydd pob myfyriwr yn dilyn pump darlith/gweithdy, gan weithio tuag at gyflwyno cynnig ymchwil yn ystod yr Wythnos Ddarllen. Un unol â’ch allbwn dewisol, cynhelir un gweithdy grŵp ychwanegol, ac yna un sesiwn tiwtora unigol cyn diwedd y semester. Yn yr ail semester, cynhelir chwe sesiwn tiwtora unigol. Bydd cynnwys a strwythur y sesiynau hyn yn ddibynnol ar natur y prosiectau unigol.
Content
Cynnwys Mynegol ar gyfer y Darlithoedd/Gweithdai:
1. Diffinio Nodweddion Prosiect Ymchwil: Cwestiwn Ymchwil a Chynllun Gwaith
2. Llunio Cwestiwn Ymchwil
3. Ymarfer fel Ymchwil
4. Arolwg Llenyddiaeth a Chanfod Ffynonellau
5. Ffurfio Cynllun Ymchwil
6. Sesiwn Grŵp Llai: Methodolegau Ymchwil
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Communication | Cyfrannu at drafodaethau seminar, ysgrifennu ar gyfer gwaith a asesir; ac o bosib cyflwyno’r gwaith trwy gyfrwng cyflwyniad cyhoeddus. |
| Improving own Learning and Performance | O ganlyniad i gyflwyno cynnig ymchwil, fe fydd cyfle i fyfyrwyr drafod eu prosesau dysgu gyda’u cyd fyfyrwyr a’r tiwtor a derbyn adborth ffurfiol yn gynnar yn y broses ymchwil. Rhoddir adborth ar y prosiect yn anffurfiol trwy gyfrwng tiwtorialau, a rhoddir adborth manwl i waith ar y ffurflenni asesu terfynol. |
| Information Technology | Er nad yw'n cael ei asesu yn ffurfiol, disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio'r rhyngrwyd i ymchwilio, medru defnyddio pecynnau prosesu geiriau, ac unrhyw feddalwedd perthnasol eraill, yn unol ag anghenion eu prosiect. |
| Personal Development and Career planning | Datblygu ymwybyddiaeth o ddiddordeb a medrau personol, ac ychwanegu ar sgiliau sylfaenol. Bydd y modiwl hefyd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer dilyn cyrsiau ymchwil uwchraddedig. |
| Problem solving | Adnabod problemau wrth drafod pynciau, diffinio cwestiwn ymchwil ar gyfer ei ateb, a bod yn ymwybodol o’r heriau a chymhlethdodau sydd ynghlwm ag unrhyw broses ymchwil. |
| Research skills | Disgwylir i fyfyrwyr darllen, ymchwilio ac (os yn briodol) gwylio ystod eang o ffynonellau (llyfrau, cyfnodolion, perfformiadau) ar gyfer seminarau ac asesiadau. |
| Subject Specific Skills | Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau beirniadol a disgyblaethol, a bydd disgwyl i'r myfyrwyr ddatblygu dealltwriaeth eang a ddofn o'r llenyddiaeth sydd eisoes yn bodoli yn eu meysydd ymchwil. |
| Team work | Disgwylir i’r gwaith ar y modiwl gael ei gwblhau’n bennaf yn annibynnol. At hynny, ni roddir unrhyw bwyslais uniongyrchol ar ddatblygu sgiliau gwaith tîm yn ystod y modiwl. |
Notes
This module is at CQFW Level 6
Theatre, Film and Television Studies,Aberystwyth University, Parry-Williams Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622828 : +44 : +44 (0)1970 622021
tfts@aber.ac.uk: tfts@aber.ac.uk
