Prosiect Hir
- Module Identifier
- CC39440
- Module Title
- Prosiect Hir
- Academic Year
- 2027/2028
- Semester
- Semester 2
- Co-ordinator
- Mr Neil Taylor
- Reading List
- View on Aspire
- Pre-Requisite
-
Rhaid i'r myfyrwyr fod wedi cofrestru yn yr Adran ar gynllun gradd anrhydedd sengl neu Brif Bwnc - Exclusive (Any Acad Year)
-
- Exclusive (Any Acad Year)
-
CS39440
Prif bynciau yn unig - Exclusive (Any Acad Year)
-
CC39620 or CS39620
- Other Staff
- Dr Fred Labrosse
- Mr Richard Shipman
- Dr Wayne Aubrey
- Professor Bernard Tiddeman
- Mr Malcolm Hutchison
Assessment
|
Assessment Type |
Assessment details |
Proportion |
|---|---|---|
| Semester Assessment | Adroddiad ysgrifenedig: a gwaith technegol cysylltiedig, arddangosiadau, a cham cyntaf. 12000 o eiriau | 100% |
| Supplementary Assessment | Adroddiad ysgrifenedig: a gwaith technegol cysylltiedig, arddangosiadau, a cham cyntaf. 12000 o eiriau | 100% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
- Arddangos gallu i ddadansoddi problem, datblygu modd o ymchwilio i’r broblem neu ei datrys, a chwblhau darn o waith dan gyfarwyddyd goruchwyliwr, ond gan ddangos hunanddisgyblaeth, trefniadaeth a menter.
- Arddangos gallu i ennill profiad mewn maes penodol, trwy astudio hunangyfeiriedig yn bennaf.
- Arddangos gallu i ddefnyddio’r prif bethau a gyflawnwyd ganddynt yn ystod eu hastudiaethau gradd yn annibynnol.
- Llunio arfarniad beirniadol ysgrifenedig a llafar o’u gwaith, gan werthuso pob agwedd ar eu dull o weithredu
Brief description
Rhaid i'r myfyrwyr gwblhau darn o waith technegol ac ysgrifenedig sylweddol, dan gyfarwyddyd goruchwyliwr, ond gan ddangos hunanddisgyblaeth, trefniadaeth a menter. Fel arfer, bydd y prosiectau yn cynnwys datblygu darn o feddalwedd o'r datganiad cychwynnol drwy'r camau manylu a chynllunio, i weithredu a phrofi'r gwaith yn llwyddiannus. Bydd myfyrwyr â'r cefndir priodol yn gallu cyflawni prosiect sy'n cynnwys elfen o galedwedd. Gall prosiectau eraill ymchwilio i feysydd technegol a datblygu meddalwedd a phrosesau i asesu'r meysydd hynny.
Trwy weithio ar y prosiect hwn, bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i gymhwyso a datblygu eu sgiliau wrth drafod problem benodol, cwblhau'r prosiect a dogfennu'r broses. Bydd y myfyrwyr yn datblygu cynnyrch gorffenedig o'r cam o fanylu ar y gofynion hyd at ddangos bod y cynnyrch yn bodloni'r gofynion hynny. Mae'r broses hon yn cynnwys llunio dogfennau priodol, gan gynnwys dogfennau sy’n trafod y penderfyniadau cynllunio a wnaethpwyd. Bydd prosiectau ymchwil hefyd yn pwysleisio'r broses ymchwil ac yn gwerthuso'r canlyniadau.
Aims
Cyflawni darn sylweddol o waith technegol sy'n tynnu'r holl sgiliau a ddatblygwyd yn ystod cwrs y myfyriwr at ei gilydd. Adrodd ynghylch y gwaith technegol ar ffurf arddangosiadau, trafodaethau ac adroddiad ysgrifenedig.
Content
Bydd hyd at 10 darlith yn gysylltiedig â'r posiect.
Darperir amryw ddeunyddiau ysgrifenedig, gan roi cyfarwyddyd ynghylch cyflawni'r prosiect, materion asesu, a chyflwyno'r prosiect. Disgwylir i fyfyrwyr drefnu eu hamser ar y prosiect bob wythnos a chyfarfod a^’u goruchwyliwr yn rheolaidd. Asesir y cwrs hwn ar sail cyflawni technegol, yn o^l tystiolaeth a gyflwynir drwy arddangosiadau, y gwaith technegol a'r canlyniadau, ynghyd ag adroddiad ysgrifenedig sylweddol.
Module skills
|
Skills type |
Skills details |
|---|---|
| Application of Number | Mae defnyddio gwybodaeth rifyddol yn elfen gynhenid o astudio Cyfrifadura. |
| Communication | Dylai'r modiwl hwn fod o fudd i'w sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig (traethawd estynedig) a llafar (arddangosiad). |
| Improving own Learning and Performance | Gofynnir i'r myfyriwr ystyried ei ddysgu a'i berfformiad ei hun. |
| Information Technology | Mae technoleg gwybodaeth yn elfen gynhenid o astudio Cyfrifiadura. |
| Personal Development and Career planning | Dylai'r modiwl hwn helpu myfyriwr i ddeall potensial eu gradd benodol ar gyfer sicrhau swydd, a darparu deunydd sylweddol ar gyfer eu portfolio. |
| Problem solving | Mae datrys problemau yn elfen gynhenid o weithredu systemau Cyfrifiadura. |
| Research skills | Bydd angen iddynt archwilio ac ysgrifennu ynghylch parth defnyddio systemau cyfrifiadura. |
| Subject Specific Skills | Datblygir mwy o wybodaeth fanwl mewn rhai sgiliau sy'n benodol i'r pwnc o ganlyniad i weithio ar y prosiect. Bydd sgiliau yn wahanol ar gyfer pob myfyriwr. |
| Team work | Amherthnasol. |
Notes
This module is at CQFW Level 6
Computer Science,Aberystwyth University, Llandinam Building, Penglais, Aberystwyth,
01970 622424 : +44 : +44 (0)1970 622021
cs-office@aber.ac.uk: cs-office@aber.ac.uk
