Skip logo, search and navigation. Go straight to the main content.

Polisi Cwci

Cyflwyniad

Darn bach o wybodaeth yw 'cwci' ar ffurf ffeil destun, sy'n cael ei hanfon gan weinyddydd gwe a'i storio ar gyfrifiadur y sawl sy'n ymweld â gwefan. Gall y gweinyddydd wedyn ei ddarllen yn ôl yn nes ymlaen pan fo angen. Mae defnyddio cwci yn ffordd gyfleus i'r cyfrifiadur gofio gwybodaeth benodol sy'n gysylltiedig â gwefan.

Sut ydym ni'n defnyddio Cwci

Mae gwefan ganolog Prifysgol Aberystwyth* yn defnyddio cwci mewn dwy ffordd;

  1. I gadw dewis iaith a theip defnyddiwr fel y'u diffinnir ar y dudalen Dewisiadau
  2. I gasglu data manwl ynghylch y defnydd a wneir o wefannau

Am ragor o wybodaeth am y modd y cesglir ac y dadansoddir y data ynghylch y defnydd a wneir o wefannau, ewch i dudalen we Web Site Data Analysis.

Gwrthod Cwci

Gallwch ddewis peidio â derbyn cwci a pharhau i ddefnyddio gwefan ganolog Prifysgol Aberystwyth, ond o wneud hynny byddwch yn colli elfen o weithredu nad yw'n hanfodol. Er enghraifft, ni ellir cofio dewisiadau'r defnyddiwr os nad yw'r cwci ar waith. Cewch y wybodaeth am sut i analluogi cwci o'r dogfennau cymorth ym meddalwedd eich porwr.

Ar wefan ganolog Prifysgol Aberystwyth mae modd gosod eich dewisiadau er mwyn gwrthod y cwci a ddefnyddiwyd i gasglu data manwl ynghylch y defnydd a wneir o wefannau. Am ragor o wybodaeth ewch i dudalen we Web Site Data Analysis.

* Gellir gwahaniaethu tudalennau gwe ar wefan ganolog Prifysgol Aberystwyth gyda chyfeiriadau sy'n dechrau â http://www.aber.ac.uk/en/ neu http://www.aber.ac.uk/cy/. Un eithriad i hyn yw'r dudalen dewis iaith sydd â'r cyfeiriad http://www.aber.ac.uk/