Mae'r Stiwdio Ddylunio yn cynnal cystadleuaeth ffotograffiaeth lle gall yr enillwyr weld eu ffotograff wedi'i gyhoeddi ar y we ac yng nghyhoeddiadau'r Brifysgol megis y prosbectws i israddedigion neu uwchraddedigion.
Y thema bresennol yw 'Noson allan orau'. Mae'n rhaid i'r ffotograffau ddod i law erbyn 7 Chwefror 2011
Rheolau:
- Mae'n rhaid i'r holl ddelweddau a gyflwynir fod wedi'u tynnu yn Aberystwyth a'r cyffiniau
- Gallwch gyflwyno cymaint o luniau ag yr hoffech, gyda'r geiriau: Cystadleuaeth Ffoto Chwefror 11
- Rhaid e-bostio'r gwaith i design@aber.ac.uk
- Ni ddylai'r lluniau fod â hawlfraint a dylent fod ar gael at ddefnydd y Brifysgol
Enillwyr blaenorol
Tachwedd 2010 - Argraffiadau Cyntaf o Aberystwyth