Casglu a Dosbarthu Post i'r Adrannau
Mae'n rhaid i holl bost allanol y Brifysgol gael ei brosesu drwy'r peiriant ffrancio yn yr Hen Goleg. Mae hyn bellach yn un o amodau'r Rheoliadau Ariannol ac Archwiliad Mewnol. Mae post sydd i'w ddosbarthu gan y Post Brenhinol yn cael ei gasglu gan negesydd a phorthorion y Brifysgol, o'r adrannau ac yn cael ei gludo i'r Hen Goleg. Mae'r negesydd yn ymweld â phob adran o leiaf ddwywaith y dydd.
Er mwyn cynorthwyo adrannau rydym wedi trefnu casgliad ychwanegol ar gyfer diwedd y prynhawn. Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer casglu post allanol sydd angen ei ffrancio gan yr Ystafell Bost yn unig, ac nid yw ar gyfer dosbarthu neu gasglu post mewnol. Mae gan bob adran fag arbennig. Gwnewch yn siŵr eich bod yn eu defnyddio.
Noder mai'r prif fannau casglu ar gyfer y gwasanaeth hwn yw:
Campws Penglais
Swyddfa Wardeiniaid y Safle, Llandinam a Llyfrgell Hugh Owen
Campws Llanbadarn
Swyddfa Gyffredinol Astudiaethau Gwybodaeth
Amserlen Ddyddiol
| Rhediad | Ardaloedd | Amser yn Fras |
|---|---|---|
| Rhediad Cyntaf yn y Bore |
Wardeiniaid y Safle |
9.00yb |
| 2il Rediad y Bore | Yr Ysgol Gelf Caeau'r Ficerdy (Achlysurol) Plas Penglais a'r Porthordy (Achlysurol) Gerddi Botaneg (Achlysurol) Dosbarthu a Chasglu Campws Mawr Hafan (Achlysurol) Pentre Jane Morgan Parc Gwyddoniaeth (CPR, ICPL ac eraill) Brynamlwg (Achlysurol) Neuaddau Hunanarlwyo Penglais Gwasanaethau Preswyl Llyfrgell Genedlaethol Glenview (Achlysurol) Neuadd Carpenter |
11.00yb |
| Rhediad Cyntaf y Prynhawn | Wardeiniaid y Safle Adeilad Hugh Owen (Llyfrgell, y Gyfraith, Ieithoedd, Hanes, Saesneg) Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Adeilad Llandinam (SDGD, Cyfrifiadureg, Canolfan Iaith a Dysgu, Datblygu Staff, Gwasanaethau Gwybodaeth) Adeilad Cledwyn (Gwyddorau Biolegol, Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol, Deoniaid, Rheolaeth a Busnes, RIBS, Cymorth i Fyfyrwyr) Adeilad Gwyddorau Ffisegol (Ffiseg, Mathemateg) Adeilad Edward Llwyd (Gwyddorau Biolegol, Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Gyrfaoedd) Neuadd Chwaraeon Uned Gwyddorau'r Pridd Cynnal a chadw Adeilad Hugh Owen Yr Ysgol Gelf Astudiaethau Gwybodaeth Gwyddorau Gwledig |
2.00yp |
| Ail Rediad y Prynhawn | Wardeiniaid y Safle Adeilad Llandinam Adeilad Hugh Owen Astudiaethau Gwybodaeth Yr Ysgol Gelf |
3.30yp |