Y Post Brenhinol a Gwasanaethau Eraill

Post Brenhinol

Mae'r gwasanaethau canlynol ar gael gan y Post Brenhinol:

Dosbarthiad a Gofnodwyd

Ar gyfer eitemau sydd angen llofnod i brofi bod yr eitem wedi'i dosbarthu, ond nad oes iddi werth masnachol. (Nid yw'r gwasanaeth yn gwarantu dosbarthiad y diwrnod canlynol).

Dosbarthiad Arbennig

Mae'r gwasanaeth hwn bellach wedi cael ei addasu i gymryd lle'r dosbarthiad Cofrestredig a Chofrestredig Ychwanegol. Caiff ei ddefnyddio ar gyfer eitemau sydd angen cael eu dosbarthu erbyn hanner dydd y diwrnod canlynol. Mae tri band o iawndal ar gyfer colled neu ddifrod ôl-ddilynol; £250, £1000 neu £2500. Mae hon yn ffordd ddelfrydol o anfon deunydd gwerthfawr trwy'r Post Brenhinol.

Swift Air

Mae'r gwasanaeth hwn fel rheol yn gyflymach na'r post awyr arferol, ond nid oes gwarant o'r dyddiad dosbarthu. Mae dau wasanaeth arbennig o fewn y gwasanaeth hwn; Swift Air Cofnodedig a Swift Air Cofrestredig.

Swp-lythyrau

Mae'r Ystafell Bost wrthi'n trafod contract swp-lythyrau â'r Post Brenhinol. Bydd hyn yn hynod o fanteisiol i adrannau sy'n prosesu post mawr, megis swp-lythyrau, ac yn galluogi i'r Brifysgol gael gostyngiadau sylweddol a gaiff eu pasio ymlaen i'r adran.

Rhadbost â Chod Bar

Gall adrannau archebu amlenni rhadbost gan yr Ystafell Bost a chaiff y rhain eu hargraffu fel bod y cyfeiriad yn cynnwys cod bar. Mae hyn yn lleihau costau'r gwasanaeth o hanner ceiniog am bob eitem a ddychwelir. Mae hwn yn ddewis delfrydol os bydd arnoch angen anfon holiaduron, oherwydd dim ond am yr eitemau a ddychwelir y byddwch yn talu. Caiff cofnodion eu cadw yn yr Ystafell Bost, a chaiff yr adrannau eu bilio bob mis.

PPI

Mae'r gwasanaeth hwn yn ddelfrydol ar gyfer anfon llawer iawn o becynnau (dros 60 gram) o bwysau tebyg neu wahanol, gyda chryn arbedion ar gyfraddau dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth. Caiff amlenni eu harchebu o'r Ystafell Bost a chânt eu hargraffu gyda'r gwasanaeth gofynnol, yn ogystal â rhif trwydded.

Tywyswyr Parseli

Mae'r Brifysgol wedi rhesymoli ei gwasanaethau i dri phrif gwmni. O ganlyniad i'r nifer o barseli a anfonir gan y Brifysgol trwy'r cwmnïau hyn, rydym wedi sicrhau gostyngiadau sylweddol. Gall pob parsel a anfonir gael ei ddilyn a'i olrhain o Ystafell Bost y Brifysgol.

City Link

Mae City Link yn cynnig gwasanaeth dosbarthu dros nos yn unig, ond mae tri band o ran pwysau:

  • Llythyr Link hyd at 1kg  
  • Pecyn City hyd at a chan gynnwys 5kg  
  • Gwasanaeth Parseli hyd at 10kg gyda chost am bob cilogram wedi hynny

Ceir hefyd ddosbarthiadau amserol: cyn 7.30yb, 9yb, 10.30yb, 12yp a chyn 10yb ar ddydd Sadwrn. Mae gan y gwasanaethau arbennig hyn gost ychwanegol ar ben y costau dosbarthu dros nos arferol. Mae gan y cwmni hwn wasanaeth gwerth chweil, ac mae'n cwrdd â'n hamser casglu o 4.30yp bob diwrnod gwaith.

DS: Os rhoddir rhif ffôn cyswllt bydd y tywysydd yn cysylltu â'r sawl sydd i fod i dderbyn y parsel rhag ofn na fydd modd ei ddosbarthu (h.y. neb adref).

Mae yna hefyd wasanaethau arbenigol i ymdrin â llwythi mawr a thrwm. Mae manylion ar gael trwy wneud cais.

DHL

Y cwmni hwn sy'n cynnig y ffordd gyflymaf, mwyaf dibynadwy a chost effeithiol o anfon dogfennau brys a pharseli dramor. Mae casgliad dyddiol o'r Ystafell Bost am hanner dydd. Mae adnodd dilyn ac olrhain dibynadwy ar gael, sydd hefyd yn cynnwys prawf o ddosbarthiad trwy ffacs heb unrhyw gostau ychwanegol. Trwy ddefnyddio'r cwmni hwn ceir cyfraddau rhatach am ddogfennau (dogfennau a argraffwyd), ond dylech sicrhau mai dim ond dogfennau a argraffwyd sy'n cael eu cynnwys ac nad yw'n cynnwys disg hyblyg hyd yn oed. Er bod hyn yn swnio'n wirion, mae wedi digwydd yn y gorffennol a bydd yn peri oediad yn nosbarthiad y pecyn.

Yswiriant: mae hyd at £75 am bob llwyth yn rhad ac am ddim, £75 i £750 = £7.50, £750 i £15000 = 1% o'r gwerth

DS: Mae'r tywysydd angen rhestr o gynnwys, gwerth a naill ai rhif ffôn neu rif ffacs.