Cymorth a Hyfforddiant
System Rheoli Cynnwys
Mae Tîm y We yn rhoi cymorth a hyfforddiant i staff sy'n defnyddio'r System Rheoli Cynnwys (CMS).
Os byddwch angen hyfforddiant, neu os hoffech drefnu hyfforddiant i grŵp o ddefnyddwyr yn eich adran, cysylltwch â Suzy Shipman.
Ar gyfer defnyddwyr presennol CMS, mae gennym safle SharePoint lle gallwch ddod o hyd i'r dogfennau diweddaraf a rhagor o wybodaeth.
Os bydd gennych ymholiad, cysylltwch â ni trwy e-bost neu trwy ffonio (01970 621776)
Adolygiad Rheolaidd
Ar ôl i ni sicrhau bod holl wefannau'r Brifysgol wedi'u rhoi ar y safle CMS newydd, byddwn yn parhau i gynorthwyo adrannau i adolygu, cynnal a diweddaru eu gwefannau yn rheolaidd gan ddilyn rota adolygu gwefan. Clustnodwyd cyfnod i bob adran ar y rota adolygu a bydd Tîm y We yn canolbwyntio ar yr adrannau perthnasol yn ystod y cyfnodau hyn. Efallai y bydd adrannau eraill angen cymorth yn ystod y cyfnodau hyn, ond rhoddir blaenoriaeth i'r adrannau a glustnodwyd.
Blogio
Mae Tîm y We a Gwasanaethau Gwybodaeth (GG) yn darparu cefnogaeth ar y cyd i staff sy’n blogio ac sy’n defnyddio gwasanaeth blogio’r Brifysgol. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â blogging@aber.ac.uk.
Gweddalennau Personol
Mae'r Gwasanaethau Gwybodaeth (GG) yn rhoi cymorth i fyfyrwyr a staff sy'n cyhoeddi gweddalennau personol ar users.aber.ac.uk :
- Edrychwch ar dudalennau'r Cwestiynau Cyffredin i weld a yw eich cwestiwn wedi cael ei ateb eisoes
- Ewch i'r Ddesg Gwasanaeth Cwsmeriaid neu cysylltwch â GG trwy e-bost, ffôn (01970 622400) neu wibneges (is@aber.ac.uk)
BlackBoard
Mae GG yn rhoi cymorth i fyfyrwyr a staff sy'n creu a defnyddio gwybodaeth ar BlackBoard:
Ewch i wefan Nexus i gael arferion da ar gyfer gwella dysgu trwy ddefnyddio technoleg