Datblygu Cymwysiadau Gwe
Beth yw Cymwysiadau Gwe?
Mae Cymwysiadau Gwe (a gyfeirir atynt weithiau fel 'apiau' gwe) fel rheol yn dudalennau rhyngweithiol sy'n ymdrin naill ai â chasglu data, dangos data, neu'r ddau.
Gallant fod mor syml â chymhwysiad i gasglu a phrosesu'r data y mae defnyddiwr yn ei gyflwyno trwy ffurflen ar y we, neu gallant fod yn dudalennau sy'n plygio i mewn i gefnogi systemau cronfa ddata swyddfa a chyflwyno data i'w ddangos ar y we.
Gallwn gynhyrchu systemau seiliedig ar y we pwrpasol sy'n gwella profiad y defnyddiwr. Gallwn hefyd gyfuno data lleol a thechnolegau a gwybodaeth trydydd parti.
Sut mae cael Cymhwysiad Gwe
Cysylltwch â ni gyntaf ac fe wnawn ein gorau i ddylunio system i fodloni eich gofynion. Rhowch ddigon o rybudd i ni, oherwydd gall cymwysiadau gymryd tipyn i'w dylunio, eu hadeiladu a'u profi. Mae hyn yn arbennig o wir pan fydd angen i gymhwysiad ar y we integreiddio â chronfeydd data a systemau presennol.
Os oes gennych gymhwysiad gwe eisoes, neu os ydych wedi comisiynu cwmni trydydd parti i ddatblygu un, gallwn eich cynorthwyo i integreiddio'r cymwysiadau hynny gyda'r CMS a sicrhau edrychiad a theimlad cyson â gweddill y safle. Os ydych chi'n ystyried comisiynu trydydd parti i ddatblygu cymhwysiad i chi, rhowch wybod iddynt bod gennym systemau templed sy'n cyd-fynd ag edrychiad a theimlad ein gwefan.
Technoleg
Rydym yn defnyddio PHP a JavaScript i wneud y rhan fwyaf o'n rhaglennu. Rydym yn defnyddio XML, XSLT, Sqlite, mySQL yn aml a sgriptio cragen pan fo'n briodol, os oes gennych dechnoleg penodol yr hoffech weithio â hi, siaradwch â ni, a gallwn weld beth allwn ni ei wneud.