Amdanom Ni
Mae Ysgol y Graddedigion Prifysgol Aberystwyth yn lle unigryw i astudio. Mae tudalennau’r Ysgol i Raddedigion yma i chi gyfeirio atynt drwy gydol eich amser ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae’r Deon Astudiaethau Uwchraddedig yn gyfrifol am ddarparu hyfforddiant ymchwil drwy’r sefydliad cyfan, ac mae ganddo rôl cydlynydd yn ogystasl o ran datblygu polisi materion uwchraddedig; darparu adnoddau ar gyfer uwchraddedigion; a monitro cynnydd academaidd uwchraddedigion.
Mae Aberystwyth wedi ymrwymo i ddarparu lefel briodol o hyfforddiant ar gyfer uwchraddedigion ac wedi sefydlu Rhaglen Hyfforddiant Ymchwil a Datblygiad sydd ar gael i bob myfyriwr o’r tair Cyfadran, yn unol â’r gofynion hyfforddiant penodol a osodir gan y Cyfadrannau, yr Adrannau neu’r cyrff cyllido.
Staff Swyddfa'r Ysgol i Raddedigion
| Enw | Rôl | E-bost | Ffôn |
|---|---|---|---|
| Yr Athro Colin McInnes | Deon Astudiaethau Uwchraddedig | cjm@aber.ac.uk | (01970) 622219 |
| Yr Athro Reyer Zwiggelaar | Dirprwy Ddeon Astudiaethau Uwchraddedig | rrz@aber.ac.uk | (01970) 622219 |
| Dr Ian Archer | Swyddog Datblygu Sgiliau Ymchwilwyr Uwchraddedig ac Ôl-ddoethurol | ina@aber.ac.uk | (01970) 621618 |
| Mrs Jan Davies | Gweinyddydd | postgraduate.office@ac.uk | (01970) 622219 |