Graddio 2023 - Cynllunio eich Diwrnod

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi a’ch gwesteion i’r seremoni raddio. Isod ceir gwybodaeth ddefnyddiol i’ch helpu i gynllunio eich diwrnod. 

Wrth gynllunio eich dathliad, defnyddiwch yr amseroedd agor ar gyfer cofrestru a chasglu eich gwisg ar gyfer eich seremoni fel canllaw o ran yr adeg gynharaf y mae angen i chi fod ar y campws.  Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd yn ddigon cynnar er mwyn gallu cofrestru a chasglu eich gŵn heb orfod rhuthro. 

Pan fyddwch yn cyrraedd, bydd ein tîm parcio yn eich tywys i’r lle parcio i westeion. Noder, bydd parcio Bathodyn Glas ar gael yn agos i Ganolfan y Celfyddydau gyda mynediad gwastad i’r adeilad*. 

Mae croeso i ffrindiau a theulu ychwanegol nad oes ganddynt docyn i ddod i’r Neuadd Fawr ddod i wylio’r seremonïau drwy gyfrwng ein ffrydio byw yn Sinema Canolfan y Celfyddydau neu yn Undeb y Myfyrwyr. 

Mae gwybodaeth am agweddau ffurfiol a seremonïol y Graddio ar gael ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin.

Noder, os bydd nifer fach o docynnau sbâr yn dod i law ar gyfer mynediad i’r Neuadd Fawr, bydd y rhain yn cael eu clustnodi ar sail y cyntaf i’r felin wrth y ddesg gofrestru. Yn y sefyllfa hon, caiff y tocynnau eu rhyddhau ar ôl i’r cofrestru ar gyfer y seremoni dan sylw ddechrau  - bydd y tocynnau wedi’u cyfyngu i uchafswm o 2 i bob unigolyn sy’n graddio.

Campws Heb Arian Parod  - Nodwch bellach fod y campws yn gweithredu heb arian parod – rydym yn derbyn cardiau debit neu gredyd.

*Os oes gennych chi, neu aelod o’ch grŵp unrhyw ofynion ychwanegol nad ydych wedi rhoi gwybod i ni amdanynt eisoes, cysylltwch â graduation.office@aber.ac.uk er mwyn i ni allu gwneud trefniadau priodol i’ch helpu cymaint â phosibl ar y diwrnod.  Os ydych eisoes wedi rhoi gwybod am unrhyw ofynion ychwanegol, bydd ein Tîm Graddio yn cysylltu â chi ar wahân gyda gwybodaeth bellach.

Diweddarwyd 13/07/2023

Ar gyfer seremonïau’r bore am 10.00am

8.00am – 9.00am

Eich man galw cyntaf yw cofrestru a chasglu eich:

  • Cerdyn graddio sydd â’ch enw a rhif eich sedd
  • Tocynnau i westeion

Llyfrgell Hugh Owen,
Llawr Gwaelod, Llawr D

8.00am – 9.15am

Nesaf, casglwch eich gŵn, cap a chwfl. 

Cofiwch ddod â phrawf ffoto o bwy ydych (e.e. eich Cerdyn Aber) a chopi o’ch gwybodaeth archebu gŵn

Adeilad Parry Williams

O 8.00am

Bydd Ffotograffwyr Graddio Swyddogol y Brifysgol yn cynnig gwasanaeth galw heibio drwy gydol y dydd, ac nid oes angen archebu o flaen llaw.

Adeilad Parry Williams

O 9.00am 

Os oes gennych unrhyw bryderon am ynganiad eich enw, dewch i'r Neuadd Fawr am 9.00am i gwrdd â'ch Pennaeth Adran.

Neuadd Fawr,
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Mynediad drwy Ddrysau A a B ar y Llawr Gwaelod

Erbyn 9.20am

Ymarfer – Rhaid i’r graddedigion fod yn eu seddi yn y Neuadd Fawr 40 munud cyn i’r seremoni ddechrau.

Cynhelir ymarfer byr sy’n orfodol i’r holl fyfyrwyr sy’n graddio i wneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o drefn y seremonïau.  Noder, gofynnir i chi aros yn y neuadd rhwng yr ymarfer a’r seremoni, ac eithrio mewn amgylchiadau arbennig.

Neuadd Fawr,
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Mynediad drwy Ddrysau A a B ar y Llawr Gwaelod

O 9.30am

Drysau’n agor i’r gwesteion gael mynediad i galeri’r Neuadd Fawr

Gofynnir i westeion sydd ag amgylchiadau arbennig i fynd at y derbynfeydd Graddio ar y llawr gwaelod ger y mynediad i’r Neuadd Fawr (Drysau A a B).

Neuadd Fawr,
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Mynediad drwy Ddrysau C,D,E neu F ar y llawr cyntaf. 

10.00am

Seremoni Raddio’n dechrau ac yn para oddeutu 1 awr ac 20 munud.

Ar ôl y seremoni, bydd ffotograffau grŵp swyddogol yn cael eu tynnu ar risiau La Scala o flaen Canolfan y Celfyddydau.

Neuadd Fawr,
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dychwelyd eich gŵn erbyn yr amser a gytunwyd. 

Adeilad Parry Williams

Casglu Tystysgrifau - Gweler yr amseroedd sydd wedi'i nodi ar eich cerdyn adnabod a roddwyd ichi wrth gofrestru. Bydd man casglu'r tystysgrifau yn Llyfrgell Hugh Owen (Llawr D).

Ar gyfer seremonïau’r prynhawn am 1.30pm

10.30am - 12.30pm

Eich man galw cyntaf yw cofrestru a chasglu eich:

  • Cerdyn graddio sydd â’ch enw a rhif eich sedd
  • Tocynnau i westeion

Llyfrgell Hugh Owen,
Llawr Gwaelod, Llawr D

10.30am - 12.45pm

Nesaf, casglwch eich gŵn, cap a chwfl. 

Cofiwch ddod â phrawf ffoto o bwy ydych (e.e. eich Cerdyn Aber) a chopi o’ch gwybodaeth archebu gŵn

Adeilad Parry Williams

10.30am

Bydd Ffotograffwyr Graddio Swyddogol y Brifysgol yn cynnig gwasanaeth galw heibio drwy gydol y dydd, ac nid oes angen archebu o flaen llaw.

Adeilad Parry Williams

O 12.30pm

Os oes gennych unrhyw bryderon am ynganiad eich enw, dewch i'r Neuadd Fawr am 12.30pm i gwrdd â'ch Pennaeth Adran.

Neuadd Fawr
Canolfan Celfyddydau Aberystwyth.

Mynediad drwy Ddrysau A a B ar y Llawr Gwaelod

Erbyn 12.45pm

Ymarfer – Rhaid i’r graddedigion fod yn eu seddi yn y Neuadd Fawr 45 munud cyn i’r seremoni ddechrau.

Cynhelir ymarfer byr sy’n orfodol i’r holl fyfyrwyr sy’n graddio i wneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o drefn y seremonïau.  Noder, gofynnir i chi aros yn y neuadd rhwng yr ymarfer a’r seremoni, ac eithrio mewn amgylchiadau arbennig.

Neuadd Fawr
Canolfan Celfyddydau Aberystwyth.

Mynediad drwy Ddrysau A a B ar y Llawr Gwaelod

1.00pm

Drysau’n agor i’r gwesteion gael mynediad i galeri’r Neuadd Fawr

Gofynnir i westeion sydd ag amgylchiadau arbennig i fynd at y derbynfeydd Graddio ar y llawr gwaelod ger y mynediad i’r Neuadd Fawr (Drysau A a B).

Neuadd Fawr,
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Mynediad drwy Ddrysau C,D,E neu F ar y llawr cyntaf. 

1.30pm

Seremoni Raddio’n dechrau ac yn para oddeutu 1 awr ac 20 munud.

Ar ôl y seremoni, bydd ffotograffau grŵp swyddogol yn cael eu tynnu ar risiau La Scala o flaen Canolfan y Celfyddydau.

Neuadd Fawr,
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dychwelyd eich gŵn erbyn yr amser a gytunwyd. 

Adeilad Parry Williams

Casglu Tystysgrifau - Gweler yr amseroedd sydd wedi'i nodi ar eich cerdyn adnabod a roddwyd ichi wrth gofrestru. Bydd man casglu'r tystysgrifau yn Llyfrgell Hugh Owen (Llawr D).

Ar gyfer seremonïau’r prynhawn am 4.30pm

1.30pm - 3.45pm

Casglwch eich gŵn, cap a chwfl. 

Cofiwch ddod â phrawf ffoto o bwy ydych (e.e. eich Cerdyn Aber) a chopi o’ch gwybodaeth archebu gŵn

Adeilad Parry Williams

1.30pm - 3.30pm 

Cofrestru a chasglu eich:

  • Cerdyn graddio sydd â’ch enw a rhif eich sedd
  • Tocynnau i westeion
Llyfrgell Hugh Owen,
Llawr Gwaelod, Llawr D 

1.30pm

Bydd Ffotograffwyr Graddio Swyddogol y Brifysgol yn cynnig gwasanaeth galw heibio drwy gydol y dydd, ac nid oes angen archebu o flaen llaw.

Adeilad Parry Williams

O 3.30pm

Os oes gennych unrhyw bryderon am ynganiad eich enw, dewch i'r Neuadd Fawr am 3.30pm i gwrdd â'ch Pennaeth Adran.

Neuadd Fawr
Canolfan Celfyddydau Aberystwyth.

Mynediad drwy Ddrysau A a B ar y Llawr Gwaelod

Erbyn 3.45pm

Ymarfer – Rhaid i’r graddedigion fod yn eu seddi yn y Neuadd Fawr 45 munud cyn i’r seremoni ddechrau.

Cynhelir ymarfer byr sy’n orfodol i’r holl fyfyrwyr sy’n graddio i wneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o drefn y seremonïau.  Noder, gofynnir i chi aros yn y neuadd rhwng yr ymarfer a’r seremoni, ac eithrio mewn amgylchiadau arbennig.

Neuadd Fawr
Canolfan Celfyddydau Aberystwyth.

Mynediad drwy Ddrysau A a B ar y Llawr Gwaelod

O 4.00pm

Drysau’n agor i’r gwesteion gael mynediad i galeri’r Neuadd Fawr

Gofynnir i westeion sydd ag amgylchiadau arbennig i fynd at y derbynfeydd Graddio ar y llawr gwaelod ger y mynediad i’r Neuadd Fawr (Drysau A a B).

Neuadd Fawr,
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Mynediad drwy Ddrysau C,D,E neu F ar y llawr cyntaf. 

4.30pm