Y Casgliad Celtaidd
Mae’r Casgliad Celtaidd yn dwyn ynghyd ddeunyddiau sy’n ymwneud â Llydaw, Cernyw, Ynys Manaw, Iwerddon, Yr Alban a Chymru, ac yn cynnwys oddeutu 25,000 o lyfrau. Er bod y casgliad yn cynnwys deunyddiau ar bob pwnc sy’n ymwneud â’r gwledydd Celtaidd, hanes a llenyddiaeth yw’r ddwy gyfres fwyaf a geir yn y casgliad. Lleolir y casgliad yn Llyfrgell Hugh Owen, mewn ardal a ddynodwyd yn benodol iddo ar Lefel F. Mae’r rhagddodiad CELT wedi’i nodi ar feingefn y rhan fwyaf o’r eitemau yn y casgliad, ac eithrio dosbarthiadau DA (Hanes) a PB (Iaith a Llenyddiaeth). Gellir dod o hyd iddynt i gyd drwy Voyager.
Dosbarthu a threfnu deunyddiau print
Caiff deunyddiau eu dosbarthu gan ddefnyddio system Ddosbarthu Llyfrgell y Gyngres. Mae’r canlynol yn orolwg cyffredinol o rifau dosbarth y Casgliad Celtaidd:
| B | Crefyudd |
|---|---|
| C | Gwyddorau Cynorthwyol Hanes |
| D | Hanes DA670.C78 – 670 - Cernyw DA700 – 745 - Cymru DA750 – 890 - Yr Alban DA900 – 995 - Iwerddon DC611.B841 – 611.B9173 - Llydaw |
| E |
Hanes E184.I6 - Gwyddelod yn Unol Daleithiau America. E184.S3 - Albanwyr yn Unol Daleithiau America E184.W4 - – Cymru yn Unol Daleithiau America |
| F |
Hanes F1035 - Celtiaid yng Nghanada F2936 - Cymry yn Y Wladfa |
| G |
Daearyddiaeth/ Anthropoleg |
| H |
Gwyddorau Cymdeithasol |
| J |
Gwyddorau Gwleidyddol |
| K |
Cyfraith |
| L |
Addysg |
| M |
Cerddoriaeth |
| N |
Celfyddydau Cain |
| PA |
Astudiaethau Clasurol |
| PB |
Ieithoedd Celtiadd a'u Llenyddiaeth PB1201-1449 - Gwyddeleg PB 1501-1709 - Groeg PB1801-1888 - Manaweg PB2101-2499 - Cymraeg PB2501-2730 - Cernyweg PB2801-2970 - Llydaweg |
| Q |
Gwyddoniaeth |
| R |
Meddygaeth |
| T |
Technoleg |
| U-V |
Gwyddorau Milwrol a Morwrol |
| Z |
Llyfryddiaeth |
