Y Casgliad Plant

Lleolir y Casgliad Plant ar lawr isaf Llyfrgell Thomas Parry.

Bu llyfrgellyddiaeth plant yn ddewis poblogaidd yn yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth erioed a datblygwyd y casgliad er mwyn cefnogi’r gwaith dysgu sy’n digwydd gan fwyaf yn y llyfrgell ei hun. Gall myfyrwyr gael seminarau yn yr ystafell seminar sydd gerllaw a defnyddio’r deunyddiau o’r casgliad yn ystod y seminarau.

Mae’r casgliad yn cael ei ddosbarthu yn ôl fersiwn talfyredig o Dewey Decimal, a gellir dod o hyd i’r holl ddeunyddiau sydd yn y casgliad drwy ddefnyddio Primo. Mae deunyddiau yn y casgliad hwn yn dwyn y rhagddodiad CHI cyn y rhif dosbarth.

Gan mai casgliad ar gyfer dysgu ydyw yn bennaf, nid oes llawer o’r deunydd ar gael i’w fenthyca neu mae yna gyfyngiadau ar yr hyn y gellir ei fenthyca. Yn gyffredinol, gellir benthyca ffuglen, ond nid gweithiau ffeithiol. Wedi dweud hynny, mae ambell lyfr ffuglen a ddefnyddir ar gyfer dysgu wedi ei farcio â smotyn glas, sy’n golygu y gellir ei fenthyg am dri diwrnod yn unig.

Er mwyn gweld ai llyfr ffuglen neu lyfr ffeithiol ydyw, bydd angen ichi edrych ar y label ar feingefn y llyfr.

  • Ffuglen = label ar y meingefn sy’n cynnwys llythrennau yn unig, e.e. CHI F ROB
  • Ffeithiol = label ar y meingefn sy’n cynnwys rhifau a llythrennau, e.e. CHI 345.12 SPO