Dogfennau Diplomyddol

Yn Llyfrgell Hugh Owen, ceir casgliadau mawr o ddeunyddiau sy’n ymwneud â Chysylltiadau Rhyngwladol. Lleolir y casgliad ar Lefel F wrth Risiau’r De. Ceir cyfresi helaeth o ddeunyddiau Cynghrair y Cenhedloedd a’r Cenhedloedd Unedig., gan gynnwys pob cyfres o Gynigion a basiwyd gan y Cynulliad Cyffredinol a’r Cyngor Diogelwch. Mae Blwyddlyfr y Cenhedloedd Unedig hefyd ar gael er 1946/47, gan roi gwybodaeth ffeithiol am y Cenhedloedd Unedig ac adroddiad o’i weithgareddau yn ystod y flwyddyn dan sylw (DIP JX 1977.A1.Y3). Ceir llawer mwy o gyfrolau o ohebiaeth ddiplomyddol sy’n ymwneud yn benodol â’r cefndir i’r Ddau Ryfel Byd. Mae casgliad mawr o destunau prif gytundebau’r byd hefyd ar gael o’r Storfa Allanol.