Y Casgliad Ffuglen
Fe ddewch o hyd i nifer o lyfrau ffuglen gyfoes a chlasurol ym mhrif gasgliadau benthyca’r Brifysgol. At hyn, mae’r casgliadau ffuglen canlynol yn cael eu cadw ar wahân. Gellir chwilio amdanynt yng Nghatalog y Llyfrgell – Primo.
Ffuglen Gyfoes
Detholiad bychan o lyfrau a gyhoeddwyd ers 2000 yw’r Casgliad o Ffuglen Gyfoes. Mae’n cynnwys ymgeiswyr ac enillwyr gwobrau llenyddol cenedlaethol: e.e. Gwobr Man Booker, Orange Prize for Fiction, Costa (Whitbread) Book Awards a Llyfr y Flwyddyn yng Nghymru.
Lleolir y casgliad ar Lefel D (llawr isaf) Llyfrgell Hugh Owen wrth ymyl y papurau newydd a’r arddangosfa o lyfrau newydd.
Benthycir y llyfrau am 14 diwrnod a gellir eu hadnewyddu.