George Powell

Rhoddodd George Powell o Nanteos (1842-1882) gasgliad o lyfrau, llawysgrifau a gwrthrychau celfyddydol i Brifysgol Aberystwyth rhwng 1879 a 1882. Mae’r rhodd unigryw hon yn cynnwys tua 2,500 o lyfrau printiedig sy'n ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau. Mae’r casgliad yn arbennig o gryf o ran llenyddiaeth Saesneg a Ffrangeg, gyda chasgliadau diddorol o lyfrau yn ymwneud â’r celfyddydau cain, Gwlad yr Iâ, llenyddiaeth gerddorol a theithio. Mae’r llenyddiaeth am Wlad yr Iâ yn cynnwys rhai o’r testunau printiedig cyntaf  o chwedlau Gwlad yr Iâ. Hefyd yn rhan o’r casgliad ceir cyhoeddiadau amrywiol gan A.C. Swinburne, cyfaill agos i Powell, wedi’u harysgrifennu i George Powell gan yr awdur, a rhai llyfrau a gyhoeddwyd gan John Camden Hotten, cyhoeddwr o Lundain. Eitem o ddiddordeb arbennig yw cyfres o wyth cyfrol o argraffiad William Warbuton o Shakespeare, a gyhoeddwyd yn Llundain ym 1747. Dr. Samuel Johnson oedd perchennog blaenorol y copi hwn a chafodd ei ddefnyddio ganddo wrth baratoi ei ‘Eiriadur’ a’i argraffiad ei hun o Shakespeare; mae’n cynnwys ei nodiadau ar yr ymylon. Mae’r chweched gyfrol wedi cael ei hamnewid am gyfrol o gyfres arall, a anodwyd gan Styan Thirlby, ysgolhaig arall o’r ddeunawfed ganrif. Tua 2,300 o lyfrau.

Gallwch chwilio’r casgliad drwy Primo.

Yn ogystal â llyfrau printiedig, mae Casgliad Powell hefyd yn cynnwys nifer fawr o ddeunydd sydd heb ei argraffu a gedwir yn archifau'r Brifysgol. Mae'r deunydd hwn yn cynnwys llawysgrifau, llythyron ac arteffactau. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Archives Hub.