Oliver Simon

Mae Casgliad Oliver Simon yn cynnwys rhan helaeth o lyfrgell Oliver Simon a fu’n gweithio fel teipograffydd Gwasg Curwen o ddechrau’r 1920au tan ei farwolaeth yn 1956.

O 1940 ef oedd cadeirydd y Cwmni. Deunydd a argraffwyd gan y Wasg yw elfen gryfaf y casgliad, ond mae hefyd yn cynnwys gweithiau diddorol yn ymwneud ag agweddau ar gynhyrchu llyfrau.

Mae rhai o’r rhain yn eitemau hanesyddol a gasglwyd gan Simon, mae eraill yn gopïau a gyflwynwyd gan deipograffwyr eraill, o Brydain ac Ewrop. Mae llawer o effemera yn ymwneud â’r Double Crown Club.

Mae’r deunydd wedi’i gategoreiddio drwy ddefnyddio cyfuniad o lythrennau a rhifau.

Dyma’r categorïau:

  • Deunydd yn ymwneud â Gwasg Curwen
  • Llyfrau a argraffwyd gan Wasg Curwen.
  • Cyfnodolion a argraffwyd gan Wasg Curwen.
  • Llyfrau Saesneg sy’n ymwneud â chelfyddyd llyfrau
  • Argraffiadau cain o’r DU ac UDA
  • Argraffiadau cain o wledydd Ewropeaidd a deunydd arall mewn ieithoedd tramor
  • Effemera amrywiol, llyfrau lloffion ac ati.

Mae pob un o’r llyfrau yn cynnwys labeli perchnogaeth Casgliad Oliver Simon.

Sefydlwyd Gwasg Curwen gan y Parchedig John Curwen yn 1863. Mae gwaith a gyhoeddwyd gan Robin Phillips o'r enw 'Oliver Simon at the Curwen Press' ar gael yn Llyfrgell Hugh Owen, rhif dosbarth Z232.C98.P5.

Mae fersiwn ar-lein o'r llyfryddiaeth wedi'i diweddaru ar gael yma: https://sinenomine.co.uk/curwen/