Gwasg Breifat

Llyfrau o Weisg Preifat

Mae gan y Llyfrgell gasgliad o lyfrau a gynhyrchwyd gan weisg preifat yn ystod yr Ugeinfed Ganrif.

Gwasg Gregynog

Gwasg Gregynog (1922-1940) oedd un o’r gweisg preifat mwyaf blaenllaw yn y cyfnod cyn y rhyfel. Mae gan y Brifysgol gasgliad cynhwysfawr o lyfrau a gynhyrchwyd gan y wasg, gan gynnwys enghreifftiau o rai argraffiadau cyfyngedig iawn a gyhoeddwyd mewn rhwymiadau arbennig.

Ailsefydlwyd y wasg gan Brifysgol Cymru yn 1978 o dan ei henw Cymraeg, Gwasg Gregynog. Mae’r Wasg yn parhau i gynhyrchu llyfrau, printiadau ac effemera mewn argraffiadau cyfyngedig, ac mae’r Brifysgol yn anelu at gaffael y llyfrau wrth iddynt gael eu cyhoeddi.

Cedwir y rhan fwyaf o lyfrau Gregynog Press a Gwasg Gregynog o dan amodau lle y rheolir y tymheredd a’r lleithder, yn yr Ysgol Gelf, Buarth Mawr, Aberystwyth. Os hoffech eu gweld cysylltwch â’r Ysgol yn uniongyrchol ar 01970 622460.

The Golden Cockerel Press

Mae’r casgliadau uchod yn cynnwys gwaith artistiaid megis Agnes Miller Parker, Gertrude Hermes, Eric Gill a Reynolds Stone.

Mae casgliadau’r Ysgol Gelf a’r Llyfrgell wedi’u rhestru yng nghatalog y llyfrgell Primo.