Cyhoeddiadau Ystadegol

Mae casgliad o ddeunyddiau ystadegol, a gyhoeddir gan lywodraethau Prydain a thramor, cyrff rhynglywodraethol a chyhoeddwyr masnachol, ar silffoedd mewn cyfres ystadegol ar wahân yn Llyfrgell y Gyfraith. Rhestrir y gwahanol gyfresi yng nghatalog y llyfrgell (Primo). Dosberthir pob cyhoeddiad yn ôl ei gwmpas daearyddol a’i bwnc. Felly, gellir dod o hyd i gyfrifiad Prydain yn STAT 41 (Prydain) /H (Demograffeg) a ffigyrau allforio Canada yn 71 (Canada) /B (Masnach Ryngwladol). 

Dylech nodi mai yng nghyfres y Papurau Gorchymyn y cedwir yr ychydig gyfresi ystadegol Prydeinig, e.e. ystadegau troseddol, a gyhoeddir fel Papurau Gorchymyn. 

Ceir sawl canllaw i ffynonellau ystadegol. Y canllaw mwyaf defnyddiol ar gyfer Prydain yw’r Guide to Official Statistics a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Ganolog (REF Z7554.G7.G7). 

Ers 1996, mae nifer y cyfresi ystadegol wedi cynyddu’n sylweddol oherwydd sefydlu’r Ganolfan Dogfennau Ewropeaidd, sydd ym mhen pellaf Llyfrgell y Gyfraith. Mae’r casgliad hwn yn cynnwys ystod eang o gyfresi ystadegol a gyhoeddir gan Eurstat, Swyddfa Ystadegau’r Cymunedau Ewropeaidd. Mae’n ymwneud â phynciau fel economi a chyllid, poblogaeth ac amgylchiadau cymdeithasol, masnach allanol, yr amgylchedd ac ymchwil a datblygu. 

Gweler y wefan ganlynol am fanylion pellach: Canolfan Dogfennau Ewropeaidd