Traethodau Ymchwil

Ar hyn o bryd mae Llyfrgelloedd y Brifysgol a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cael y canlynol gan adrannau academaidd y Brifysgol:

  • pob traethawd ymchwil llwyddiannus
  • pob traethawd estynedig Meistr ar bwnc Cymraeg
  • pob traethawd estynedig Meistr sy'n cael rhagoriaeth

Gallwch ddefnyddio'r chwiliad allweddair syml ar Primo i chwilio am unrhyw draethawd ymchwil PA: e.e. traethawd ymchwil Gwyddeleg. Caiff yr holl draethodau ymchwil eu cadw yn y storfa a gellir gwneud cais amdanynt yn y Ddesg Ymholiadau Benthyca. Ni cheir mynd â hwy allan o'r llyfrgell.

Gallwch fenthyca traethodau ymchwil o brifysgolion eraill y tu allan i Gymru trwy'r gwasanaeth Benthyciadau rhwng llyfrgelloedd. Mae'r Llyfrgell Brydeinig hefyd yn cynnig Gwasanaeth Traethodau Ymchwil Electronig Ar-lein sydd ar gael ar http://ethos.bl.uk/Home.do.

Hefyd, mae storfa ar-lein Prifysgol Aberystwyth - CADAIR - yn cynnwys fersiynau testun llawn electronig o draethodau ymchwil llwyddiannus, traethodau Meistr, MPhil ac MSc.

Mae gennym fynediad at y Mynegai i Draethodau Ymchwil a dderbyniwyd am raddau uwch gan Brifysgolion Prydain Fawr ac Iwerddon ar y we. I edrych ar y mynegai o unrhyw gyfrifiadur mewn ystafell gyfrifiaduron, defnyddiwch y cyfeiriad Rhyngrwyd uniongyrchol http://www.theses.com neu cysylltwch trwy'r "eLyfrgell" o Voyager:

Mae fersiwn priniedig o'r mynegai hwn ar gael yn y Storfa trwy wneud cais: Aslib Index to Theses accepted for higher degrees by the Universities of Great Britain and Ireland and the Council for National Academic Awards. Rydym yn cadw'r cyfrolau printiedig sy'n cynnwys y blynyddoedd 1950 - 1992, 1997 i 2006.

I weld traethodau ymchwil ar astudiaethau Celtaidd, neu draethodau ymchwil a ysgrifennwyd yn Gymraeg, gweler: Welsh language and Welsh dissertations, 1887-1996 : Traethodau ymchwil Cymraeg a Chmreig, 1887-1996 / Alun Eirug Davies. Ceir copi cyfeiriadol yn Llyfrgell Thomas Parry. Mae dwy fersiwn gynharach o'r gwaith hwn, sy'n ymdrin â 1887-1971 a 1972-1980, hefyd ar gael yn Llyfrgell Hugh Owen yn Z2081.D2.

Traethodau ymchwil eraill o Brifysgolion Cymru

Caiff y rhain eu cadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a gellir edrych ar y gronfa ddata o draethodau ymchwil ar-lein.