Thomas a Mair Jones

Mae Casgliad Thomas a Mair Jones yn gasgliad cyfeirio sydd ar gael yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.

Cafodd y casgliad ei roi'n rhodd gan ferched y diweddar Thomas Jones, cyn Athro Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'n cynnwys y rhan fwyaf o brif destunau academaidd Cymraeg, yn ogystal â nifer o gyfrolau Gwyddeleg a Llydaweg, a gweithiau hanesyddol o ddiddordeb Celtaidd. Ceir nifer fawr o gyfrolau sy'n ymwneud â'r Mabinogion, un o'r pynciau yr oedd yr Athro Jones yn ymwneud fwyaf ag ef.

I gael rhagor o wybodaeth am y Casgliad cysylltwch â'r Adran yn uniongyrchol https://www.aber.ac.uk/en/cymraeg/cysylltwch/.