Data ac Adnoddau Cyfryngol Ar-lein

Mae'r dudalen hon yn cynnig arweiniad ar ganfod, agor a defnyddio gwasanaethau a chasgliadau data a chyfryngau digidol (deunydd nad yw'n destun) i'w defnyddio i waith dysgu, addysgu ac ymchwil.

eLyfrgell

Adnodd ar-lein newydd yw'r eLyfrgell fydd yn caniatáu i chi bori a chwilio drwy adnoddau pwnc perthnasol. Ymhlith yr adnoddau y gellir eu cyrchu drwy'r eLyfrgell mae adnoddau y mae Prifysgol Aberystwyth [PA] yn tanysgrifio iddynt, yn ogystal â detholiad o adnoddau pwysig sydd ar gael am ddim.

Pan fyddwch chi'n mewngofnodi am y tro cyntaf, fe fyddwch yn y maes 'News and Reference'. Drwy ddewis 'Multimedia', 'Statistics' neu 'Maps' (gweler y ddelwedd isod) fe welwch chi ddetholiad o adnoddau data a chyfryngol defnyddiol. Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol ar ddefnyddio adnoddau nad ydynt yn destun.

Dewisiadau Newyddion a Chyfeirio'r eLyfrgell

Adnoddau amlgyfrwng: Ffilm, Fideo, Teledu a Sain

Canfod deunydd - mynegeion a chatalogau ar-lein i raglenni teledu

Y cam cyntaf i gyrchu rhaglenni yw dynodi'n gywir pa ddeunyddiau sy'n berthnasol i ymchwil, addysgu neu astudio. Mae'r Brifysgol yn tanysgrifio i nifer o adnoddau a gwasanaethau ac mae ganddi fynediad at archifau rhaglenni teledu a radio a ffynonellau cyfryngau digidol eraill. Mae'r eLyfrgell yn cynnwys HERMES a TRILT sy'n fannau cychwyn defnyddiol; fodd bynnag gallai'r adnoddau canlynol (nad ydynt yn yr eLyfrgell) hefyd fod yn ddefnyddiol:

  • BUND (British Universities Newsreel Database). Cofnodion o gynhyrchu ffilmiau newyddion a dogfennau wedi'u digido. Ar gael am ddim i Sefydliadau Addysg Uwch [SAU]. Yn cynnwys 160,000 o gofnodion rhwng 1910 a 1983. Bellach yn gysylltiedig â ffilmiau newyddion Pathe.
  • Researcher's Guide Online (RGO). Cronfa ddata o gasgliadau ffilm, teledu, radio a dogfennau cysylltiedig. Ar gael am ddim i SAU. Manylion am yn agos i 550 o gasgliadau yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Mae'n cynnwys archifau cenedlaethol a rhanbarthol yn ogystal â llyfrgelloedd a chasgliadau lluniau stoc ym meddiant awdurdodau lleol, amgueddfeydd, sefydliadau addysg bellach ac uwch, cwmnïau diwydiannol ac unigolion preifat.
  • TVTiP: TVTimes Project 1955-1985. Archif ar-lein o fynegai amserlen TV Times o fis Medi 1955 i fis Mawrth 1985.
  • Gwelwch hefyd: Internet for Video and Moving Image Resources ac Internet Audio Resources

Recordio oddi ar yr awyr

Mae gan PA drwydded ERA ar gyfer recordiadau oddi ar yr awyr sy'n caniatáu i staff PA recordio rhai rhaglenni teledu a radio i'w defnyddio wrth ddysgu (yn ddarostyngedig i rai amodau). Mae Gwasanaethau Gwybodaeth [GG] hefyd yn darparu gwasanaeth recordio oddi ar yr awyr yn ganolog a gall gyflenwi recordiadau ar dâp fideo neu DVD. Gweler gweddalennau’r Gwasanaethau Cyfryngau i gael rhagor o wybodaeth (mae trwydded hefyd ar gael ar gyfer recordio'r Brifysgol Agored). Os collir recordiad, mae aelodaeth PC o BUFVC yn caniatáu i staff gael y recordiad coll hwnnw gan Wasanaeth Recordio oddi ar yr Awyr Wrth Gefn BUFVC. Mae'r gwasanaeth hwn yn cwmpasu rhaglenni teledu daearol ers 1 Mehefin 1998. Noder bod terfyn i'r nifer o raglenni y gellir gwneud cais amdanynt bob blwyddyn dan aelodaeth PA.

Archif Sgrin a Sain Genedlaethol Cymru

Mae Archif Sgrin a Sain Cymru wedi'i lleoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Mae'r casgliad yn cynnwys darllediadau radio a theledu, recordiadau sain a ffilmiau amatur, casetiau a chryno ddisgiau, ffilmiau masnachol a fideos ar amrywiaeth o bynciau gyda'r pwyslais ar ddiwylliant a bywyd Cymru a'r Cymry. Gellir gweld y catalog ffilm ar-lein fan hyn. Ceir adnoddau gwylio a gwrando ar y safle.

Hawlfraint a chyfyngiadau ar ddefnydd

Rheolir y defnydd o gyfryngau digidol gan gyfraith hawlfraint. Dylech bob amser sicrhau fod deunydd o'r fath a ddefnyddir mewn addysgu, dysgu ac ymchwil wedi'u clirio o ran hawlfraint ar gyfer defnydd addysgol ac ymchwil. Gweler hefyd Polisi Gwybodaeth PA ar Hawlfraint: sganio, y rhyngrwyd a storio electronig, Cynllun Trwyddedu'r Asiantaeth Recordio Addysgol (ERA), a Chyngor Ffilm a Fideo Prifysgolion Prydain.

Cymorth gan gyrff allanol

  • Mae JISC Digital Media yn bodoli i helpu cymunedau Addysg Bellach ac Addysg Uwch y DU i ddefnyddio ac uchafu'r defnydd o gyfryngau digidol. Yn ogystal â gwybodaeth ar eu gwefan, maen nhw'n trefnu cyrsiau ar bynciau amrywiol megis digido recordiadau fideo analog; metadata delwedd; ffotograffiaeth ddigidol; cynhyrchu sain; recordio darlithoedd, seminarau, cyfweliadau a phodlediadau; defnyddio cyfryngau digidol mewn amgylcheddau dysgu rhithiol; delweddau digidol a hawlfraint; ac adeiladu casgliadau delweddau adrannol.
  • Mae Cyngor Ffilm a Fideo Prifysgolion Prydain (BUFVC) hefyd yn trefnu cyrsiau ar bynciau megis amgodio fideo digidol ar gyfer ffrydio a chyflenwi ar rwydwaith; saethu gan ddefnyddio fideo diffiniad uchel; a chlirio hawlfraint ar gyfer cynhyrchu print, darlledu ac amlgyfrwng.
  • Mae'r dudalen Wiki hon (gan RSC West Midlands) yn cynnwys: ffrydio fideo (diffiniadau a dewisiadau), cyn-gynhyrchu (byrddau stori) ac ôl-gynhyrchu (meddalwedd saethu a golygu), tiwtorialau, cymwysiadau fideo ar gyfer dysgu, CODECau, hawlfraint ac adnoddau. Mae'n cynnwys llawer o awgrymiadau a dolenni defnyddiol.
  • Gwelwch hefyd: Internet for Video and Moving Image Resources ac Internet Audio Resources.

Delweddau

Cyngor ar ddefnyddio delweddau digidol:

Hawlfraint a chyfyngiadau defnydd

  • Mae'r mwyafrif o'r delweddau sydd ar gael dros y rhyngrwyd yn ddarostyngedig i rai cyfyngiadau defnydd a/neu rhaid rhoi rhyw fath o gydnabyddiaeth. Fel arfer bydd angen caniatâd y perchennog ar gyfer unrhyw ailddefnydd neu ailgyhoeddi delwedd (gan gynnwys y We, Mewnrwyd neu Amgylchedd Dysgu Rhithiol). Dylech bob amser wirio'r hawlfraint sy'n gysylltiedig â delwedd rhyngrwyd.
  • Casgliadau delweddau digidol: mae lawrlwytho delweddau o gronfa ddata delweddau neu gasgliad ar-lein yn ddarostyngedig i gyfraith hawlfraint ac i delerau ac amodau'r gwasanaeth hwnnw. Cyfeiriwch at y datganiad o Delerau ac Amodau ar gyfer pob casgliad.
  • Gweler hefyd Polisi Gwybodaeth Hawlfraint: sganio, y rhyngrwyd a storio electronig PC a Chwestiynau Cyffredin am Hawlfraint JISC Digital Media.

Dod o hyd i ddelweddau digidol

Yn ogystal â'r rhai isod gweler Adolygiad o Beiriannau Chwilio Delweddau JISC Digital Media, a thiwtorial Intute ar Chwilio am Ddelweddau ar y Rhyngrwyd.

Ceir nifer o ffynonellau o ddelweddau sy'n rhydd o hawlfraint, megis:

  • Flickr Creative Commons Search - Canfod delweddau Flickr sydd â thrwyddedau Creative Commons. Cliciwch ar y tab 'Flickr' i chwilio am ddelweddau Creative Commons.
  • morgueFile - archif gyhoeddus o ddelweddau.
  • stock.xchng - delweddau stoc - dros 350,000. Dim tâl, ond rhaid i chi greu cyfrif. Gallwch ddefnyddio'r delweddau ar wefannau, cyflwyniadau amlgyfrwng, ffilm a fideo i'w darlledu, mewn deunyddiau hyrwyddo wedi'u hargraffu, ar gardiau busnes, papurau llythyr, addurno ac ati.
  • Copyright Free Photos.com - ffotograffau o amrywiaeth o bynciau. Mae'r ffotograffau ar y safle hwn sy'n rhydd o hawlfraint (breindal) ar gael am ddim ar gyfer unrhyw gymhwysiad - dylunio gwe, graffeg, cefndir, delweddau wedi'u hargraffu, papur wal pen desg.
  • Open Clip Art Library - Clip art. Mae gan y Llyfrgell Open Clip Art gronfa ddata o ddelweddau i'w defnyddio'n ddi-dâl ac mae'n annog cyfraniad.
  • openphoto - Banc o ddelweddau stoc am ddim.

Hefyd ceir llawer o ffynonellau arbenigol o ddelweddau:

  • I'r rheini sydd â diddordeb mewn celfyddyd gain, mae llawer o orielau yn arddangos eu gweithiau ar-lein. Er enghraifft mae gan The National Gallery dros 2,000 o baentiadau ar ei safle. Hefyd ceir safleoedd megis Axis, sy'n cynnwys delweddau wedi'u digido o waith artistiaid Prydeinig cyfoes; a Visual Arts Data Service (VADS) sydd â llawer o gasgliadau.
  • Bydd y rheini sydd â diddordeb yng Nghymru yn dymuno defnyddio Casglu'r Tlysau - dros 30,000 o ddelweddau wedi'u digido o gasgliadau o lyfrgelloedd, archifau ac amgueddfeydd drwy Gymru gyfan. Hefyd ceir Drych Digidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru  - delweddau a ffotograffau o ddiddordeb Cymreig wedi'u digido.
  • Ceir hefyd llawer o safleoedd sy'n cynnwys delweddau ar un pwnc. Er enghraifft mae gan Freeze Frame dros 20,000 o ddelweddau pegynol hanesyddol o dros 150 o flynyddoedd o ymgyrchoedd pegynol.