Ymwelwyr
Rydym yn croesawu unrhyw un o'r tu allan i'r Brifysgol sydd eisiau defnyddio casgliadau'r Llyfrgell. Gall pob ymwelydd edrych ar lyfrau a chyfnodolion ym mhob un o lyfrgelloedd y Brifysgol:
- Llyfrgell Hugh Owen
- Llyfrgell Thomas Parry
- Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol
- Llyfrgell Stapledon ym Mhlas Gogerddan
Adnoddau benthyca o'r Llyfrgelloedd
Efallai fod rhai ymwelwyr yn gymwys i wneud cais am gerdyn Darllenwr Cysylltiol i gael hawliau benthyca a rhai hawliau eraill yn y llyfrgelloedd.
Efallai y bydd modd i ymwelwyr eraill gael mynediad at gasgliadau'r llyfrgelloedd trwy un o'r cynlluniau mynediad sy'n golygu bod adnoddau llyfrgelloedd y Brifysgol ar gael i ddefnyddwyr o sefydliadau eraill neu aelodau o lyfrgelloedd eraill.
Adnoddau cyfeirio yn y Llyfrgelloedd
Gall ymwelwyr â'r Llyfrgelloedd nad oes ganddynt hawl i wneud cais am gerdyn Darllenwr Cysylltiol ac nad ydynt yn gallu cymryd rhan yn unrhyw un o gynlluniau mynediad y llyfrgelloedd gofrestru at ddibenion cyfeirio yn unig. Rhoddir tocynnau defnydd cyfeirio'n unig am hyd at un flwyddyn ac mae'n caniatáu i'r dalirwr ddefnyddio unrhyw ddeunydd a gedwir yn y llyfrgelloedd a gwneud c(yn amodol ar reoliadau hawlfraint). Gellir cael y tocynnau o'r prif ddesgiau ym mhob un o lyfrgelloedd y Brifysgol.
Adnoddau Cyfrifiadurol
Mae cyfrifiadur i ymwelwyr yn Llyfrgell Hugh Owen sydd wedi'i gadw i ymwelwyr â Phrifysgol Aberystwyth sydd angen pori'r Rhyngrwyd, mae hwn yn rhoi mynediad i'n rhwydwaith ymwelwyr. Noder fod cyfyngiadau trwydded yn golygu na all ymwelwyr â'r Llyfrgell ddefnyddio ein hadnoddau cyfrifiadurol rhwydweithiol sy'n cynnwys adnoddau penodol e.e. cronfeydd data a chyfnodolion electronig.
Os hoffech ddod â'ch gliniadur eich hun gyda chi, gallwch gysylltu hwn â'n rhwydwaith diwifr i ymwelwyr.
Adnoddau llungopïo ac argraffu
Dylai ymwelwyr sydd eisiau llungopïo ofyn ym mhrif ddesg pob llyfrgell a oes modd iddynt fenthyca cerdyn llungopïo. Codir ffi am y cerdyn ac ad-delir unrhyw arian nad ydych wedi'i ddefnydio pan fyddwch yn dychwelyd y cerdyn. Ar hyn o bryd rydym yn codi 5c ar gyfer llungopïo pob tudalen A4.
Os oes arnoch angen argraffu rhywbeth pan fyddwch ar y campws, gall y Gwasanaethau Cyfryngau ac Argraffu yn Llyfrgell Hugh Owen drefnu gwasanaeth argraffu o weddalennau ac o ddyfeisiau megis cofbinnau USB i ymwelwyr am ffi.