Defnyddio llyfrgelloedd eraill

 

Defnyddio llyfrgelloedd Sefydliadau Addysg Uwch eraill

Mae 'SCONUL Access' yn wasanaeth sy'n cynnwys y rhan fwyaf o lyfrgelloedd addysg uwch gwledydd Prydain ac Iwerddon yn cydweithio â'i gilydd. Mae Prifysgol Aberystwyth yn aelod o'r cynllun hwn, sy'n golygu bod rhai mathau o ddefnyddwyr yn cael defnyddio llyfrgelloedd mewn sefydliadau addysg uwch eraill. Dyma'r categorïau perthnasol o ddefnyddwyr:

  • staff a myfyrwyr ymchwil
  • myfyrwyr rhan-amser, dysgu o bell, a myfyrwyr ar leoliadau
  • uwchraddedigion a ddysgir drwy gwrs

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am y cynllun ar wefan Sconul: http://www.access.sconul.ac.uk/

Mae ffurflen gais ar gael yma : http://ww.access.sconul.ac.uk/users_info/application_html

Darllenwyr Cysylltiol ac aelodau Mynediad Sconul

Mae gennym ryngwyneb newydd i gatalog y llyfrgell trwy gyfrwng Primo http://primo.aber.ac.uk. Ar ôl Ionawr 2012, ni fydd modd cael mynediad i’r catalog trwy Voyager. I'r rheini ohonoch sydd yn y categori Darllenwyr Cysylltiol, ac a oedd yn arfer mewnbynnu i'ch cyfrif defnyddiwr ar Voyager i adnewyddu eich benthyciadau, nodwch os gwelwch yn dda nad yw hynny'n bosib ar ôl Ionawr 2012. Ar ôl Ionawr os ydych am adnewyddu eich benthyciadau neu wneud cais am eitemau, os gwelwch yn dda e-bostiwch lenstaff@aber.ac.uk neu ffoniwch 01970 62 2400 (neu ewch i'r llyfrgell - gweler oriau agor ar gyfer pob llyfrgell ar http://www.aber.ac.uk/cy/is/library/).

Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra a achosir i chwi drwy ebostio'r ceisiadau hyn i ni yn hytrach na chwblhau ceisiadau ar lein eich hun ond yn ystod oriau gwaith byddwn yn ymateb i’r ceisiadau a ddaw i law trwy gyfrwng e-bost neu alwadau ffôn yn unionsyth. Ein horiau staffio yw 8:30am-5:30pm.

 

Llyfrgell Genedlathol Cymru

Mae ymgeiswyr 16 oed neu'n hŷn yn cael gwneud cais am docyn darllenwr i gael defnyddio casgliad y Llyfrgell. Sylwer mai dim ond gweld y deunydd yn yr ystafelloedd darllen y cewch chi - ni chewch fynd â deunydd allan o'r Llyfrgell Genedlaethol.

Cewch wneud cais am docyn ar y we o'r ddolen hon http://psr.llgc.org.uk/psr/psr/register/cy/personal. Gwnewch gofnod o rif eich tocyn a mynd ag ef gyda chi pan ddewch i'r Llyfrgell, lle y caiff y tocyn ei brosesu'n llawn. Cewch hefyd gofrestru ar-lein yn y Dderbynfa pan gyrhaeddwch y Llyfrgell. Mae cofrestru ar-lein hefyd yn golygu y gallwch gofrestru i ddefnyddio'r adnoddau electronig sydd ar gael drwy Athens. Ticiwch y blwch ar y ffurflen hunan gofrestru sy'n dweud eich bod am gael cyfrif personol Athens. Rhaid cynnwys cyfeiriad ebost ar eich ffurflen gais i gofrestru am y gwasanaeth hwn, gan mai drwy'r ebsot y cewch y manylion cofrestru ag Athens yn uniongyrchol oddi wrth Weinyddwr Athens.

Rhaid dod â dwy ddogfen yn rhoi prawf o bwy ydych chi, un ohonynt yn dangos eich cyfeiriad presennol. Ni cheir rhoi tocyn heb gael prawf digonol o bwy ydych chi.

 

Cadwyn y Canolbarth

Cynllun cydweithredol yw Cadwyn y Canolbarth sy'n cynnwys llyfrgelloedd y Canolbarth, yn rhoi modd i chi gael defnyddio 1 miliwn o lyfrau, o ffuglen i werslyfrau, yn ogystal â llawer o ffynonellau o wyboaeth sydd ar gael yn eich bro chi a ledled Cymru.

Mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan Lyfrgelloedd Cyhoeddus Ceredigion, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Cymru Llanbedr-Pot-Steffan, llyfrgell Ysbyty Bronglais, Llyfrgelloedd Cyhoeddus Powys a Choleg Powys, gyda chymorth Llywodraeth y Cynulliad, dwy law CYMAL.

Mae Cadwyn y Canolbarth ar gael i bawb sy'n byw yn y dalgylch. Bydd angen tocyn llyfrgell un o'r llyfrgelloedd perthnasol er mwyn cael defnyddio rhai o'r gwasanaethau.