Newyddion

Mae deunyddiau o'r gynhadledd fer: niwroamrywiaeth bellach ar gael

21/04/2026

Cynhaliodd Taith y Myfyriwr a'r Adran Seicoleg gynhadledd fer ar Niwroamrywiaeth yn ddiweddar.

Mae deunyddiau o'r gynhadledd fer bellach ar gael - gweler ein blog am ragor o wybodaeth.   

Digwyddiad Cynnydd Gwobr Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr

09/04/2026

Y mis diwethaf, trefnodd Tîm Addysg Ddigidol ddigwyddiad arbennig hanner diwrnod i dderbynwyr y Grant Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr.

Nod y digwyddiad oedd rhoi ddiweddariad am gynnydd y pedwar prosiect. Gallwch ddarllen rhagor o wybodaeth amdano ar ein blog.

Enillwyr Gwobr Cwrs Eithriadol 2025-26

17/03/2026

Llongyfarchiadau i gydweithwyr o adrannau Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, ac Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu am eu llwyddiant yn y Wobr Cwrs Eithriadol yn ddiweddar.  Gweler ein blog am ragor o wybodaeth.    

Galwad am Gynigion: 14eg Gynhadledd Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr, 8-10 Medi 2026

10/03/2026

Derbynnir cynigion ar gyfer 14eg Gynhadledd Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr (8-10 Medi 2026), ac mae modd archebu lle nawr.

Gweler ein blog am thema'r gynhadledd a'r ddolen i'r ffurflen archebu.  

Sesiynau galw-heibio mathemateg ac ystadegau

28/01/2026

Eisiau ychydig o help ac arweiniad ar gwestiwn mathemateg neu ystadegau?

Ymwelwch â’r sesiwn galw-heibio wythnosol (yn ystod tymor):

  • Dydd Iau
  • 10:00-13:00
  • Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen (drws nesaf i’r man gwerthu)

Gallwch hefyd anfon e-bost i maths-help@aber.ac.uk gyda'ch ymholiad os na allwch wneud y sesiwn galw-heibio.

Eisiau gwella'ch sgiliau astudio'r semester hwn?

19/01/2026

Darganfyddwch pa sesiynau sgiliau sy’n digwydd a bwciwch eich lle yma: https://www.aber.ac.uk/cy/aberskills/skills-workshops/

Peidiwch â cholli allan! Tanysgrifiwch i’n e-bost wythnosol i gadw’n gyfredol gyda’r gweithdai sydd ar gael i chi: tanysgrifiwch yma.