Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | Darlithiau 10 x 2 awr |
Sesiwn Ymarferol | Gweithdai Ymarferol 10 x 2 awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Nod
Fe fydd y modiwl hwn, trwy ddulliau ymarferol a theoretig, yn caniatau i'r myfyrwyr ddarganfod ac archwilio'r technegau a'r methodolegau arbenigol sy'n berthnasol i'r gangen hon o Astudiaethau Theatr. Fe fydd y myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i hanes Theatr-mewn-Addysg, o'i ddechreubwynt fel amrawf yng Nghofentri yn y 1960au hyd at y presennol. Fe fydd y modiwl yn olrhain achau gwahanol fathau o Theatr-mewn-Addysg ac yn galluogi myfyrwyr, trwy gyfres o ddarlithoedd, seminarau a gweithdai, i archwilio'r strwythurau a'r cyd-destunau amrywiol sy'n berthnasol i'r pwnc. Er mwyn hyrwyddo a datblygu'r astudiaethau hyn, disgwylir i'r myfyrwyr ymweld a chwmniau Theatr-mewn-Addysg er mwyn arsylwi ar eu gwaith ac i fynychu'r dangosiadau DVD/fideo a ddarperir er mwyn deall y cymhlethdodau a'r man-wahaniaethau a geir o fewn y math hwn ar theatr (er enghraifft, wrth weithio yn y sector iechyd mewn carchardai neu gyda'r gwasanaeth prawf).
Cynnwys
Darlithoedd (10 i gyd)
1. Hanes a Theori ThMA
2. Swyddogaeth yr Hyrwyddwr a'r Perfformiwr mewn ThMA
3. ThMA Cyfranogol ('Participatory')
4. ThMA yng Nghymru, Prydain a thu hwnt
5. Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol mewn ThMA
6. Materion cyfredol mewn ThMA: yr Awdurdodau Lleol, cwricwlwm a phrofion addysg
7. ThMA a datblygiad y plentyn
8. Y cwricwlwm Cenedlaethol a'i effaith ar ThMA
9. Rhedeg cwmni ThMA a theithio i ysgolion
10. Canghennau ymarferol cysylltiedig: theatr yn y sector iechyd, mewn carchardai ac yn y gwasanaeth prawf
Gweithdai (10 i gyd)
1. Diffiniadau a Chyd-destunau: ThMA fel cyfrwng addysgu a'r ysgol fel lleoliad perfformio
2. Y broses ddyfeisio a sgriptio, gweithio fel cwmni a thechnegau gweithdy (1)
3. Y broses ddyfeisio a sgriptio, gweithio fel cwmni a thechnegau gweithdy (2)
4. Y broses ddyfeisio a sgriptio, gweithio fel cwmni a thechnegau gweithdy (3)
5. Y gynulleidfa a'r gofod
6. Technegau Ymchwil
7. Technegau Ymchwil
8. Gwerthuso rhaglenni ThMA (1)
9. Gwerthuso rhaglenni ThMA (2)
10. Delwedd a iaith mewn perfformiadau ar gyfer plant a phobl ifainc
Disgrifiad cryno
Fe fydd y modiwl yn trafod hanes a theori Theatr-mewn-Addysg rhwng 1960 a 2004. Gan ddefnyddio elfen ymarferol gref er mwyn hyrwyddo datblygiad a dealltwriaeth academaidd, bwriad y modiwl fyth paratoi'r myfyrwyr ar gyfer y profiad ymarferol estynedig o Theatr-mewn-Addysg a geir yn y drydedd flwyddyn; at hynny, bwriedir gosod sail gadarn i bob myfyriwr yn egwyddorion ac ymarfer Theatr-mewn-Addysg; a'i berthynas a theatr, addysg ac Astudiaethau Theatr.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Mae'r medrau hyn yn ran allweddol o'r gwaith theoretig ac ymarferol, ac yn rhan gynhenid o weithgarwch ThMA: fe'u harddangosir, eu datblygu a'u hasesu'n barhaol yn ystod y modiwl. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Fe ystyrir hyfforddiant a datblygiad proffesiynol fel rhan o'r modiwl. Fe fydd cyd-destunau addysgiadol a therapiwtig a archwilir ar y cwrs yn galluogi'r myfyrwyr i fod yn fwy ymwybodol o opsiynau gyrfaol. |
Datrys Problemau | Disgwylir i'r myfyrwyr ddadansoddi a chyfrannu i'r broses o ddatrys problemau, gan ragweld ac ol-fyfyrio ar y profiad yn ystod y gweithdai, y sesiynau ymarferol a'r ymarferion dyfeisio ar gyfer y modiwl. Mae'r gallu i ystyried ac archwilio problemau yn ddyfais addysgiadol allweddol bwysig o'r broses ThMA, a astudir yn ddwys yn ystod y modiwl. |
Gwaith Tim | Trafodir y medrau hyn yn uniongyrchol ar y modiwl ac fe'u gwerthusir a'u hasesir mewn perthynas a'u cyfraniad tuag at y gwaith dosbarth a chreu'r dernyn ThMA ymarferol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Fel rhan o fethodoleg ThMA, a methodau addysgiadol darganfyddol y mae'n eu hyrwyddo, fe fydd y myfyrwyr yn gwerthuso eu proses a'u perfformiad eu hunain fel tystiolaeth o'u dealltwriaeth o'r modiwl. |
Rhifedd | Fe gyfeirir yn benodol at gyllido prosiectau ThMA fel rhan o'r modiwl, ond nid asesir y medrau hyn yn uniongyrchol. |
Sgiliau pwnc penodol | Fe fydd Theatr-mewn-Addysg: Rhan 1 yn codi ymwybyddiaeth ar ran y myfyrwyr o ffurf cyfoes ar y theatr ac Astudiaethau Theatr gyda chysylltiadau cryf o safbwynt cenedlaethol a rhyngwladol. Fe fydd y broses o hyrwyddo gwaith theoretig ac ymarferol gan fyfyrwyr yn y maes hwn yn creu profiad sy'n cwmpasu dadansoddi, theori ac ymarfer. Fe fydd y myfyrwyr sy'n cymryd y modiwl hwn yn gwerthuso'r cymhlethdodau, y cysylltiadau a'r cymhariaethau rhwng theatr ac addysg. |
Sgiliau ymchwil | Datblygir y medrau hyn wrth baratoi ar gyfer darlithoedd, gweithdai a gwaith ymarferol, ac fel canlyniad i'r ysgogiadau creadigol a geir yn y sesiynau hyn hefyd. Asesie y medrau hyn fel rhan o'r traethawd a'r dernyn ymarferol. |
Technoleg Gwybodaeth | Ni ddysgir y medrau hyn yn uniongyrchol ar y modiwl; fodd bynnag, fe ddatblygir y sgiliau hyn yn anffurfiol gan y myfyrwyr wrth iddynt ymchwilio, casglu a threfnu gwybodaeth a chysylltu a ffynonellau ac adnoddau priodol. Disgwylir y bydd y myfyrwyr yn gwneud defnydd helaeth o'r rhyngrwyd yn ystod y modiwl i'r perwyl hwn. |
Rhestr Ddarllen
HanfodolBoal, A., Games for Actors and Non-Actors Routledge (1992) Chwilio Primo Jackson, T., Learning Through Theatre Routledge (1993) Chwilio Primo Oddey, A., Devising Theatre Routledge (2004) Chwilio Primo Testun A Argymhellwyd
Casdagli, P., Gobey, F., gyda Griffin C., Only Playing Miss! Trentham Books (1990) Chwilio Primo Edwards, D., The Shakespeare Factory, Moon River: The Deal, David Seren (1998) Chwilio Primo Friere, P., Pedagogy of the Oppressed Penguin (1972) Chwilio Primo Johnson, L. & O'Neill, C., (goln.) Dorothy Heathcote: Collected Writings on Education and Drama Hutchinson (1984) Chwilio Primo O'Toole, J., The Process of Drama: Negotiating Art and Meaning Routledge (1992) Chwilio Primo O'Toole, J., Theatre in Education: New Objectives for Theatre - new techniques in education Unibooks (1976) Chwilio Primo Redington, C., Can Theatre Teach? Pergamon (1983) Chwilio Primo Robinson, K., Exploring Theatre and Education Heinemann (1980) Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5