Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
BG22920
Teitl y Modiwl
ADNABOD PLANHIGION AC ECOLEG CYMUNEDOL
Blwyddyn Academaidd
2009/2010
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhagofynion
BS11810
Rhagofynion
BS10810
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 20 Hours.
Eraill Gwaith maes: 1 x cwrs maes 5 diwrnod
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Cyflwyno portffolio gwaith maes - i gael ei gyflwyno un wythnos ar ol diwrnod olaf y cwrs maes.  50%
Arholiad Semester 3 Awr   Un arholiad ysgrifenedig 3-awr  50%
Arholiad Ailsefyll 3 Awr   Un arholiad ysgrifenedig 3-awr, ac ailgyflwyno gwaith maes sydd wedi methu, neu ddarn cyfatebol.  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Nod

Archwilio natur cymuned planhigion a'r prosesau sy'r gweithredu rhwng cymunedau planhigion ac oddi mewn iddynt.

Cynnwys

Mae'r modiwl yn manylu ar themau modern yn ecoleg gymunedol planhigion. Mae rhan gyntaf y modiwl yn ymdrin a natur cymunedau planhigion a sut mae'r cymunedau yma'r perthyn a'r gilydd yng nghyd-destun y dirwedd. O fewn y dirwedd gellid meddwl am fatrics syml, a darnau o fathau gwahanol o gymuned oddi fewn iddo; neu gellir cael mosaig cymhleth. Mae'r ddau'r adlewyrchu patrwm yr adnoddau a'r cyfyngiadau a geir o fewn tirwedd benodol, yn nhermau amser a gofod. I bob diben, gall tirweddau ymddwyn fel `archsystemau?. Mae cysylltedd yn bwysig o ran sut mae tirweddau integredig yn gweithio, ac fe all poblogaethau o rywogaethau unigol, yn hytrach na bod wedi'r hynysu, ffurfio metapoblogaethau sy'r cyfrannu at eu sefydlogrwydd tymor hir.

Mae ail ran y modiwl yn ymdrin a newidiadau mewn poblogaethau dros amser. Nid ydynt yn aros yn llonydd, ond yn hytrach yn newid, a hynny yn aml mewn ffyrdd y mae modd (yn ol pob golwg) eu rhagweld. Gall y newidiadau gael eu gyrru gan ddilyniant y rhywogaethau sy'r bresennol (awtogenig) neu gan amodau amgylcheddol sy'r newid gydag amser (alogenig). Awgrymwyd y ddamcaniaeth `cymhareb adnoddau? fel peirianwaith ar gyfer llystyfiant uchafbwyntiol, ond gwelir diweddpwyntiau newid lluosol mewn llawer o ardaloedd.

Gall ffenomena dynol, a ffenomena naturiol, effeithio ar gymunedau planhigion. Gall anifeiliaid, wrth bori, ddangos lefel uchel o arbenigaeth wrth lunio cyfansoddiad cymunedau planhigion, tra bydd tan naturiol yn dileu biomas mewn llawer o dirweddau. Gall defnydd dynol olygu math syml o ddileu biomas, megis mewn systemau gwair; neu fel all fod yn ddetholus, gan ganolbwyntio ar rywogaethau penodol neu grwpiau penodol o unigolion (megis rhai sydd tua'r un maint a'r gilydd) ar gyfer rhyw ddefnydd arbennig, a thrwy hyn, bydd yn effeithio ar natur y gymuned.

Yn olaf, trafodir disgrifiadau o gymunedau planhigion a'r dosbarthiad gofodol, o ran dulliau rhifol (dosraniad a dosbarthiad) a dulliau llysgymdeithasegol disgrifiadol (wedi'r cynrychioli gan NVC).

Disgwylir i'r myfyrwyr ymgymryd a chwrs maes pum diwrnod i ddatblygu'r wybodaeth arbenigol ar gyfer adnabod rhywogaethau planhigion mewn ystod eang o gynefinoedd Cymreig gwahanol (e.e. twyni tywod, gwrychoedd, glaswelltiroedd mesotroffig a choetiroedd collddail). Disgwylir iddynt hefyd gwblhau darluniau gwyddonol manwl o wahanol rywogaethau a fydd yn cael eu casglu yn ystod y cwrs, gan amlygu nodweddion penodol a ddefnyddir ar gyfer dosbarthiad. Bydd y gwybodaeth a geid ynghylch dosbarthiad ym mhob safle yn cael ei datblygu ar ffurf arolygon ac yn cael ei dehongli yn ol y System Ddosbarthu Planhigion Genedlaethol. Yn ystod y ddau ddiwrnod olaf bydd myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau wrth gwblhau prosiect byr ym maes dosbarthiad / ecoleg planhigion.

Bydd y cwrs yn cael ei redeg mewn cydweithrediad a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Sir Gaerfyrddin (http://www.gardenofwales.org.uk) ac fe fydd yn cynnwys ymweliad a'r Ardd i ddysgu mwy am gymunedau planhigion yng Nghymru ac yn ardal Mor y Canoldir.

Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
Begon, M., Harper, J.L., & Townsend, C.R. (1996) Ecology 3rd Oxford: Blackwell Science Chwilio Primo Hansson, L., Fahrig, L & Merriam, G. (1995) Mosaic landscapes and ecological processes London: Chapman & Hall Chwilio Primo

Mae gwefan y modiwl yn cynnwys manylion pellach: http://www.aber.ac.uk/gwydd-cym/Planhigion

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5