Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 18 x 1 awr |
Seminarau / Tiwtorialau | 10 seminars a dosbarthiadau tiwtorial unigol |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 3 Awr ARHOLIAD YSGRIFENEDIG | 60% |
Asesiad Ailsefyll | 3 Awr ARHOLIAD AC UNRHYW WAITH YSGRIFENEDIG HEB EI GWBLHAU | 100% |
Asesiad Semester | 2 X TRAETHAWD O 2,500 O EIRIAU | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
Deall ac ystyried datblygiadau diweddar ynglyn a'r berthynas rhwng gwyddoniaeth, crefydd a chred.
Gwerthfawrogi agweddau cyffredinol datblygiad gwyddoniaeth ers a cyfnod modern cynnar yng nghyswllt y berthynas a mathau eraill o gred boblogaidd.
Deall cyd-destun diwylliannol gwyddoniaeth a mathau eraill o gred.
Adnabod a defnyddio mathau priodol o dystiolaeth hanesyddol er mwyn deall y berthynas rhwng gwyddoniaeth a mathau eraill o gred.
Disgrifiad cryno
Rydym fel rheol yn meddwl am wyddoniaeth fel petai ar wahan i systemau cred eraill. Rydym hefyd yn dueddol o feddwl am y berthynas rhwng gwyddoniaeth a chrefydd mewn termau o wrthdaro. Bydd y modiwl hwn yn dangos fod y berthynas rhwng gwyddoniaeth ac elfennau eraill o gred yn llawer mwy cymhleth na'r farn boblogaidd. Am y rhan fwyaf o'i hanes roedd gwyddoniaeth ac ystyriaethau crefyddol, er engraifft, yn annatod. Daw'n amlwg nad oes modd gwerthfawrogi datblygiad hanesyddol unrhyw system gred heb gymryd eu perthynas a systemau cred eraill i ystyriaeth. Drwy ymchwilio cysylltiadau fel hyn medrwn ddeall llawer mwy ynglyn a datblygiad gwyddoniaeth a'i rol yn natblygiad diwylliant gorllewinol modern.
Nod
Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno'r berthynas rhwng gwyddoniaeth, crefydd a mathau eraill o gredoau poblogaidd rhwng y cyfnod modern cynnar a'r cyfnod modern. Drwy arddangos y berthynas rhwng gwahanol systemau cred bydd y modiwl yn fodd i gyflwyno datblygiadau diweddar o fewn hanesyddiaeth gwyddoniaeth.
Cynnwys
2. Hud a'r Byd Naturiol
3. Prawf Galileo
4. Gwyddoniaeth Brotestannaidd
5. Sectau a Sectyddwyr
6. Newton yr Heretic
7. Duw a'r Ymoleuo
8. Joseph Priestley ac Economi'r Nefoedd
9. Mesmereiddio'r Chwyldro
10. Diwinyddiaeth Natur
11. Radicaliaeth Drydanol
12. Mesur Pen - Mesur Cymdeithas
13. Esblygiad a Chynnydd
14. Mesmeriaeth a'r Corff Gwleidyddol
15. Darwin, Duw a Diwygiaeth
16. Ffiseg y Byd Ysbrydol
17. Bydoedd Eraill
18. Casgliadau
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando'n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. |
Datrys Problemau | Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem. |
Gwaith Tim | Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu'n effeithiol at gynllunio gweithgareddau grwp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad personol |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a'r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitor cynnydd, gan adolygu'r cynllun gweithredu fel bo'n briodol, i wella perfformiad cyffredinol. |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygu gwybodaeth ac adnabyddiaeth ffynonellau ynglyn â datblygiad gwyddoniaeth, crefydd a chred; datblygu'r gallu i ddefnyddio offer ymchwil hanesyddol addas. |
Sgiliau ymchwil | Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio rhyngrwyd yn briodol ac yn effeithiol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6