Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 10 lectures x 2 hours |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr AILSEFYLL ARHOLIAD Fformat yn union yr un peth ir arholiad semestr. | 100% |
Arholiad Semester | 2 Awr ARHOLIAD YSGRIFENEDIG ateb 2 gwestiwn allan o 4. | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Disgrifio ac esbonio prosesau erydiad, cludiant a dyddodi sydd yn gweithredu ar lethrau ac mewn sianel afon.
Disgrifio ac esbonio sut y mae newidiadau mewn llif a chyflymder yn effeithio gweithrediad prosesau afonol a sut y maent yn effeithio geometreg y sianel a phatrymau sianeli afon.
Trafod y datrysiadau rheolaeth a ellid eu cymhwyso er mwyn datrys problemau sefydlogrwydd llethr a phroblemau erydiad/dyddodiad mewn sianeli afon.
Disgrifiad cryno
Amcan y modiwl yw i ddarparu gwerthusiad manwl o'r prosesau sydd yn gweithredu o fewn y basn afon cyfoes. Yn gyntaf, ystyrir system y llethr, lle mae prosesau mas symudiad a phrosesau creu sianeli yn bwysig. Mae gweddill y cwrs yn canolbwyntio ar brosesau sydd yn weithredol o fewn system y sianel. Ymhob darlith, cefnogir theori sianel gan enghreifftiau o astudiaethau achos, gan roi sylw penodol i goblygiadau prosesau geomorffolegol naturiol ar reolaeth afon.
Cynnwys
- Egwyddorion geomorffoleg, cyfundrefnau gweithgarwch, trothwyon.
- Methiant / erydiad ar lethrau
- Prosesau pen-y-nant a datblygiad rhwydweithiau.
- Prosesau'r sianel: dw^r a gwaddod.
- Geometreg hydrolig.
- Erydiad glan a gwely.
- Patrymau sianel a chyfraddau newid.
- Rheoli sianeli.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Dim |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Dim |
Datrys Problemau | Dim |
Gwaith Tim | Dim |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Gwneir hyn trwy ddarllen yn annibynnol ac fe'I asesir trwy safon y gyfeiriadaeth yn yr arholiad ysgrifenedig. |
Rhifedd | Dim |
Sgiliau pwnc penodol | Dim |
Sgiliau ymchwil | Gwneir hyn trwy ddarllen yn annibynnol ac fe'I asesir trwy safon y gyfeiriadaeth yn yr arholiad ysgrifenedig. |
Technoleg Gwybodaeth | Dim |
Rhestr Ddarllen
Testun A ArgymhellwydBrookes, A. (1988) Channellised Rivers: Perspectives for environmental management Chwilio Primo Downs, P.W. and Gregory, K.J. (2004) River Channel Management Arnold Chwilio Primo Knighton, D. (1998) Fluvial Forms and Processes Arnold Chwilio Primo Petts, G. and Foster, I. (1985) Rivers and Landscape Arnold Chwilio Primo Robert, A. (2003) River Processes Arnold Chwilio Primo Selby, M.J. (1993) Hillslope Materials and Processes 2nd Edition Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5