Gwybodaeth Modiwlau
Cod y Modiwl
FGM5010
Teitl y Modiwl
TRAETHAWD PROSIECT
Blwyddyn Academaidd
2011/2012
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhagofynion
Cwblhau Blwyddyn 3 o'r cynllun MPhys yn llwyddiannus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Fel bennir gan y Bwrdd Arholwyr Adrannol | 100% |
Asesiad Semester | Arholiad Llafar (yn Gymraeg) | 20% |
Asesiad Semester | Traethawd (yn Saesneg, ond gall unigolyn gyflwyno'i adroddiad yn Gymraeg pe byddai'n dymuno) | 80% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr allu:
• Ddangos dealltwriaeth fanwl o Ffiseg eu testun astudio.
• Adolygu datblygiadau diweddar yn y maes ymchwil o ddiddordeb a gofnodir yn y llenyddiaeth.
• Cyflwyno eu gwaith ar lafar ac mewn adroddiad ffurfiol.
Disgrifiad cryno
Mae pob myfyriwr yn adolygu testun o ddiddordeb i grwp ymchwil yn y Sefydliad o dan oruchwyliaeth aelod o'r staff academaidd. Byddant yn cyflwyno eu hadolygiad ar lafar ac mewn traethawd ffurfiol. Bydd y gwaith yn cynnwys y Ffiseg sy'n berthnasol i'r astudiaeth a datblygiadau diweddar yn y maes ymchwil fel gofnodir yn y llenyddiaeth.
Ar gyfer myfyrwyr sy'n cymryd y modiwl FGM5860, bydd y traethawd mewn paratoad ar gyfer y prosiect estynedig a weithredir yn semester 2.
Ar gyfer myfyrwyr sy'n cymryd y modiwl FGM5860, bydd y traethawd mewn paratoad ar gyfer y prosiect estynedig a weithredir yn semester 2.
Nod
Mae'r myfyriwr yn adolygu datblygiadau diweddar mewn maes ymchwil o ddiddordeb a gofnodir yn y llenyddiaeth a arfarnwyd. Cyflwynir yr adolygiad mewn traethawd ysgrifenedig a chaiff ei drafod ar lafar.
Cynnwys
Bydd y testun ymchwil yn wahanol ar gyfer pob prosiect.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Disgwylir i'r myfyrwyr gyflwyno traethawd ysgrifenedig a thrafod eu testun ymchwil ar lafar. |
Sgiliau ymchwil | Bydd angen i'r myfyrwyr ymgynghori â llyfrau amrywiol, deunydd electronig a chyfnodolion a arfarnwyd. |
Technoleg Gwybodaeth | Mae angen deunydd helaeth o'r rhyngrwyd er mwyn chwiliad llenyddiaeth. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7