Gwybodaeth Modiwlau
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 16 Hours. (16 x 1 awr) (yn Saesneg) |
Seminarau / Tiwtorialau | 7 Hours. (7 x 1 awr) (yn Gymraeg) |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Traethodau: 1 x 3,000 o eiriau | 50% |
Arholiad Semester | 2 Awr | 50% |
Arholiad Ailsefyll | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Erbyn diwedd y modiwl yr ydym yn disgwyl i fyfyrwyr fod wedi datblygu'r sgiliau canlynol:
1. Ymwybyddiaeth feirniadol o ddadleuon allweddol Damcaniaeth Gwleidyddiaeth Ryngwladol Heddiw
2. Dealltwriaeth gyffredinol o ddadleuon allweddol hanesyddiaeth Cysylltiadau Rhyngwladol
3. Y gallu i fyfyrio'r feirniadol ar ddamcaniaethau a chysyniadau allweddol gan ddefnyddio amryw o astudiaethau
achos mewn gwleidyddiaeth ryngwladol gyfoes
4. Dealltwriaeth gyffredinol o awduron blaenllaw a'r prif weithiau
5. Ymwybyddiaeth o Ddamcaniaeth Gwleidyddiaeth Ryngwladol Heddiw a thrafodaethau ym maes athroniaeth
gwyddor gymdeithasol
6. Adnabyddiaeth o amrediad eang o safbwyntiau damcaniaethol a'r gwahaniaethau rhyngddynt
7. Y gallu i fynegi mewn seminarau elfennau allweddol y gwahanol ddamcaniaethau yng nghyd-destun digwyddiadau
byd-eang cyfoes
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn cynnig hyfforddiant craidd yn nisgyblaeth theori gwleidyddiaeth. Mae'r gwneud hyn trwy ymdrin a'r holl safbwyntiau cystadleuol ar y pwnc.
Nod
Amcan y modiwl hwn yw adeiladu ar sail theori gwleidyddiaeth a gyflwynwyd yn Rhan 1, gan weithredu fel pont i ddewisiadau mwy arbenigol yn Rhan 2. Un o'r themau canolog sy'r gosod patrwm y modiwl yw pwysigrwydd cysylltu theori ag arfer: o'r personol i'r rhyngwladol, mae ein bywydau'r cael eu llunio a'u llywio trwy ymwneud a theori gwleidyddiaeth.
Cynnwys
Mae'r cwrs yn cychwyn trwy fwrw golwg yn oll dros brif draddodiadau damcaniaethu ar Gysylltiadau Rhyngwladol, megis rhyddfrydiaeth a realaeth glasurol. Mae'r symud yn gyflym i ganolbwyntio ar y ddadl a ysgogwyd gan Theory of International Politics Kenneth Waltz. Nid yn unig y cafodd realaeth fywyd newydd yn sgil y gwaith hwn, ond ysgogwyd hefyd amryw ymatebion beirniadol. Yr olaf o'r rhain oedd Social Theory of International Politics Alexander Wendt. O fewn y fframwaith hwn o 20 mlynedd cafwyd sawl datblygiad newydd mewn theori, gan gynnwys datblygiad theori feirniadol, theori ffeminyddol, ac ol-strwythuraeth.
Sgiliau trosglwyddadwy
10 credydau ECTS
Rhestr Ddarllen
HanfodolScott Burchill ac Andrew Linklater et al (2005) Theories of International Politics 2 Llundain: Palgrave Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6