Gwybodaeth Modiwlau
Cod y Modiwl
GW32320
Teitl y Modiwl
DAMCANIAETHAU CLASUROL AM GYSYLLTIADAU RHYNGWLADOL
Blwyddyn Academaidd
2011/2012
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminarau / Tiwtorialau | 11 Hours. 11 x 2 awr (Seminarau yn Gymraeg) |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Perfformiad Seminar | 10% |
Asesiad Semester | Traethawd 2,000 o eiriau | 30% |
Arholiad Semester | 2 Awr (1 x arholiad 2 awr) (Gall myfyrwyr, gyda chaniatad y Gyfadran, gael y cyfle i ailsefyll y modiwl hwn, yn ystod cyfnod yr arholiadau ychwanegol fel arfer. Am eglurhad pellach, cysyllter ar Gweinyddydd Academaidd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.) | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Nod y modiwl hwn yw dysgu'r myfyrwyr i gloriannu awduron gweithiau clasurol ym maes damcaniaethau gwleidyddiaeth ac i benderfynu drostynt eu hunain ynghylch y materion sydd yn cael eu codi gan yr awdurdon hynny.
10 credydau ECTS
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn ystyried gwaith y meddylwyr clasurol ym maes cysylltiadau rhyngwladol o safbwynt problemau rhyngwladol cyfoes. Bydd y damcaniaethwyr a drafodir yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, ond gallent gynnwys Hobbes, Kant, Marx, Locke, Gramsci a Lenin. Ym 2000/01 bydd y pwyslais ar "Perpetual Peace" gan Kant, a Lefiathan Hobbes a damcaniaeth Lenin ar imperialaeth.
Nod
Amcanion y modiwl hwn yw:
- Meithrin ymwybyddiaeth y myfyrwyr o hanes y dadleuon cyfoes ym maes cysylltiadau rhyngwladol.
- Meithrin deallwriaeth o gyfraniad syniadaeth wleidyddol glasurol i ddealltwriaeth o wleidyddiaeth wladol a gwleidyddiaeth ryngwladol.
- Cyflwyno i'r myfyrwyr astudiaeth o syniadaeth wleidyddol.
Cynnwys
1. Natur athroniaeth wleidyddol
2. Trafod y Lefiathan
3. Sofraniaeth
4. Athroniaeth Kant
5. Cosmopolitaniaeth
6. Imperialaeth
2. Trafod y Lefiathan
3. Sofraniaeth
4. Athroniaeth Kant
5. Cosmopolitaniaeth
6. Imperialaeth
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6