Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
ADM2320
Teitl y Modiwl
Iechyd Emosiynol, Iechyd Meddwl a Lles
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad; Sylwebaeth ddadansoddol i gefnogi’r cyflwyniad,  1. Cyflwyniad i weithwyr addysg proffesiynol yng nghyd-destun y myfyriwr ei hun, sy’n canolbwyntio ar gefnogi iechyd a lles emosiynol a meddwl. 2. Sylwebaeth ddadansoddol i gefnogi’r cyflwyniad, gan ei seilio ar ffynonellau damcaniaethol perthnasol, tystiolaeth ymchwil a dogfennau polisi. 4000 Words  100%
Asesiad Semester Cyflwyniad; Sylwebaeth ddadansoddol i gefnogi’r cyflwyniad,  1. Cyflwyniad i weithwyr addysg proffesiynol yng nghyd-destun y myfyriwr ei hun, sy’n canolbwyntio ar gefnogi iechyd a lles emosiynol a meddwl. 2. Sylwebaeth ddadansoddol i gefnogi’r cyflwyniad, gan ei seilio ar ffynonellau damcaniaethol perthnasol, tystiolaeth ymchwil a dogfennau polisi. 4000 Words  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Gwerthuso’n feirniadol amrywiaeth o ddamcaniaethau sy’n ymwneud â materion lles mewn addysg a’r gydberthynas sy’n effeithio’n negyddol ar les plant.

Archwilio’n feirniadol ddeddfwriaeth, polisi ac arfer presennol sy’n ymwneud â modelau iechyd a lles, hapusrwydd, cadernid a hawliau plant, a’r dystiolaeth ymchwil sy’n eu cefnogi, gan ddefnyddio modelau rhyngwladol a ddewiswyd i gymharu a rhoi cyd-destun.

Archwilio’n feirniadol yr ymchwil rhyngwladol ar iechyd emosiynol, iechyd meddwl a lles i gael persbectifau lluosog.

Gwerthuso’n feirniadol amryw o ymyriadau cynnar mewn cysylltiad â hyrwyddo ac amddiffyn iechyd meddwl a lles plentyn/person ifanc, wrth asesu hefyd y dystiolaeth sy’n ymwneud ag effeithiolrwydd ystod o gamau atal.

Gwerthuso’n feirniadol a chymhwyso (pan fo’n briodol) eu gwybodaeth am ddamcaniaethau a thystiolaeth ryngwladol (sy’n ymwneud ag iechyd emosiynol, iechyd meddwl a lles) i’w cyd-destun personol /proffesiynol.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar iechyd emosiynol, iechyd meddwl a lles mewn lleoliadau addysgol. Bydd yn archwilio’n feirniadol yr ymchwil rhyngwladol ar iechyd emosiynol, iechyd meddwl a lles er mwyn archwilio’r sylfaen dystiolaeth o sawl safbwynt ac o wahanol gyd-destunau. Bydd myfyrwyr yn archwilio ffactorau sy’n effeithio ar iechyd emosiynol, iechyd meddwl a lles, a byddant yn gwerthuso’n feirniadol ystod o ymyriadau cynnar mewn cysylltiad â hyrwyddo ac amddiffyn iechyd meddwl a lles plant / pobl ifanc, wrth archwilio hefyd y dystiolaeth ryngwladol o effeithiolrwydd ystod o fesurau ataliol. Bydd y modiwl yn galluogi myfyrwyr i ymestyn, dyfnhau, gwerthuso a chymhwyso (pan fo’n briodol) eu gwybodaeth am ddamcaniaethau ac ymchwil sy’n ymwneud ag iechyd emosiynol, iechyd meddwl a lles i’w cyd-destunau personol/proffesiynol.

Nod

Nod y modiwl hwn yw archwilio’n feirniadol yr ymchwil rhyngwladol ar iechyd emosiynol, iechyd meddwl a lles er mwyn archwilio’r sylfaen dystiolaeth hon o sawl safbwynt ac o wahanol gyd-destunau. Nod y modiwl yw ymestyn a dyfnhau gwybodaeth a dealltwriaeth myfyrwyr, ond bydd hefyd yn caniatáu i fyfyrwyr arfarnu gwahanol ddulliau o ymdrin ag iechyd emosiynol, iechyd meddwl a lles a allai fod yn berthnasol i’w cyd-destun neu leoliad proffesiynol.

Cynnwys

  • Y polisïau a’r confensiynau cenedlaethol a rhyngwladol allweddol sy’n cefnogi hawliau a lles plant a phobl ifanc.
  • Y materion emosiynol a lles allweddol i blant a phobl ifanc a’r ymchwil rhyngwladol sy’n ymwneud â nhw.
  • Y ffactorau biolegol, seicolegol a chymdeithasol sy’n gysylltiedig ag iechyd a lles emosiynol a meddwl.
  • Swyddogaeth y gweithiwr addysg proffesiynol o ran gwella iechyd emosiynol, iechyd meddwl a lles, a sut y gellir cymhwyso hyn yng nghyd-destun y myfyriwr ei hun.
  • Ymyriadau a phrosesau mewn ysgolion, a’r partneriaethau cydweithredol ehangach, a ddefnyddir i gefnogi iechyd a lles emosiynol a meddwl.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Addasrwydd a gwydnwch Parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, a datblygu sgiliau newydd i safon uchel. Bwriad holl gynnwys y modiwl yw herio myfyrwyr i ailystyried yr hyn y maent yn credu eu bod yn ei wybod, mabwysiadu meddylfryd beirniadol a bod yn barod i addasu’r hyn y maent yn ei wneud yng ngoleuni’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth newydd y maent yn eu cael yn ystod y modiwl.
Cyfathrebu proffesiynol Ymdrin â materion cymhleth mewn modd systematig a chreadigol, llunio barn gadarn heb ddata cyflawn, a chyfleu eu casgliadau’n glir i gynulleidfaoedd arbenigol a rhai nad ydynt yn arbenigol.
Datrys Problemau Creadigol Arddangos hunangymhelliant a gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a’u datrys a gweithredu’n annibynnol wrth gynllunio a chyflawni tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfatebol.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Dealltwriaeth gysyniadol sy’n galluogi’r myfyriwr: - i werthuso’n feirniadol ymchwil ac ysgolheictod uwch presennol yn y ddisgyblaeth - i werthuso dulliau, datblygu beirniadaethau ohonynt, a phan fo’n briodol, cynnig damcaniaethau newydd.
Sgiliau Pwnc-benodol Dealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu ddirnadaeth newydd, gyda llawer o hyn yn waith blaengar yn eu disgyblaeth academaidd, maes astudio neu faes ymarfer proffesiynol, neu’n cael ei lywio gan hynny. Caiff myfyrwyr eu hasesu am eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth feirniadol yn ymwneud â phwnc y modiwl. Bydd disgwyl i bob myfyriwr gysylltu hyn â’u harfer eu hunain.
Synnwyr byd go iawn Bydd gan y rhai sydd â’r cymhwyster y rhinweddau a’r sgiliau trosglwyddadwy sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth sy’n gofyn am y canlynol: - cymhelliant a chyfrifoldeb personol - y gallu i wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy - y gallu sydd ei angen i ddysgu’n annibynnol

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7