Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
CY25220
Teitl y Modiwl
Barddoniaeth Gymraeg Ddiweddar, 1979-
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad  2 Awr  60%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad  2 Awr  60%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  2000 o eiriau  40%
Asesiad Semester Traethawd  2000 o eiriau  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Cyd-destunoli testunau barddonol yn nhirwedd wleidyddol, ddiwylliannol a llenyddol y cyfnod, a thrafod y cyd-destun syniadol/ideolegol hwnnw’n feirniadol, ar lafar ac yn ysgrifenedig;



Trafod yn feirniadol destunau barddonol o'r cyfnod dan sylw mewn perthynas â safonau beirniadaeth lenyddol berthnasol, eu crefft a’u strwythur;



Trafod yn feirniadol destunau barddonol o safbwynt eu perthynas â'r traddodiad llenyddol Cymraeg ac â mudiadau llenyddol rhyngwladol perthnasol;



Trafod y testunau yn feirniadol o safbwynt awdur, darllenydd, testun ac ideoleg.

Disgrifiad cryno

Cyflwyniad i brif theorïau beirniadaeth lenyddol gyfoes a hanesyddol. Dyma fodiwl go heriol i fyfyrwyr Lefel 2, a bydd natur y cwestiynau a osodir yn yr arholiad yn adlewyrchu hynny.

Cynnwys

1.Cymru’r 1980au
2.Parhad a dyfalbarhad: Dic Jones
3.Parhad a dyfalbarhad: Alan Llwyd
4.Donald Evans
5.Cymru’r 1990au
6.Lleisiau newydd: Myrddin ap Dafydd
7.Lleisiau newydd: Twm Morys
8.Lleisiau newydd: Emyr Lewis
9. Lleisiau newydd: Meirion MacIntyre Hughes
10.Lleisiau newydd: Mihangel Morgan
11.Lleisiau newydd: Iwan Llwyd
12.Lleisiau newydd: Ifor ap Glyn
13.Lleisiau benywaidd: Gwyneth Lewis
14. Cymru’r Ail Fileniwm
15. Lleisiau diweddar: Grahame Davies
16.Lleisiau diweddar: Karen Owen
17.Lleisiau diweddar: Mererid Hopwood
18.Lleisiau diweddar: Rhys Iorwerth
19. Lleisiau diweddar: Christine James
20.Golwg yn ôl ac ymlaen

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Anogir myfyrwyr i fynegi eu syniadau yn glir ac yn argyhoeddiadol yn yr aseiniad.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir sgiliau hanfodol (megis paratoi a thraddodi papur ycmhwil annidbynnol) tua chanol y modiwl.
Datrys Problemau Trwy ymwneud yn feirniadol, ar lafar ac ar bapur, â chysyniadau deallusol sy’n codi o destunau llenyddol penodol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Trwy ymchwil annibynnol; adborth ysgrifenedig a chyfraniadau llafar; datblygu sgiliau trefnu amser/gwaith; myfyrio ar sgiliau cyflwyno a gwaith ysgrifenedig arall.
Sgiliau pwnc penodol Trwy feithrin gallu myfyrwyr i ddarllen a deall testunau, a thrwy hynny ddysgu mwy am ddatblygiad ymateb llenorion i Gymru a’r byd.
Sgiliau ymchwil Trwy gyfrwng ymchwil annibynnol (dan gyfarwyddyd) ar gyfer yr aseiniad ysgrifenedig. Hefyd, trwy ddefnyddio ymchwil electronig ac adnoddau electronig a llyfryddol.
Technoleg Gwybodaeth At ddibenion ymchwil (aseiniad a thrafodaethau); prosesu geiriau. Defnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol; cael mynediad i adnoddau’r modiwl ar y BwrddDu.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5