Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
TC31220
Teitl y Modiwl
Ymarfer Cynhyrchu 2: Gorffen
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhestr Ddarllen

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Portffolio  Portffolio o ddeunydd Damcaniaethol, Beirniadol a Dogfennol 1500 o eiriau  40%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  Traethawd neu Draethawd Fideo wedi'i olygu 4 munud o hyd 2000 o eiriau  60%
Asesiad Semester 1 Awr   Cyflwyniad Grŵp  Cyflwyniad grŵp 10 munud gydag elfen ysgrifenedig unigol i'w gyflwyno ar yr un dydd  40%
Asesiad Semester 80 Awr   Asesu Parhaus  Cyfraniad i ymarfer, cyflwyno a/neu ddogfennu cynhyrchiad amlgyfrwng (tua 90-120 munud) 80 Awr  60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Arddangos gallu datblygedig i ddeall nodau ac amcanion celfyddydol a thechnegol y cynhyrchiad a’r broses ddyfeisio trwy gynllunio a threfnu deunydd ymarferol.

Arddangos gallu ar lefel uwch i gymhwyso’r ddealltwriaeth honno yn ymarferol trwy gyflwyno a dogfennu cynhyrchiad amlgyfrwng.

Arddangos gallu i gyflwyno meistrolaeth o ystod o sgiliau ymarferol wrth berfformio gerbron cynulleidfa fyw.

Arddangos gallu i gymhwyso ac adfyfyrio’n ddwys a beirniadol ar eu dealltwriaeth o natur y deunydd a gynhyrchir, yn ymarferol, yn ysgrifenedig ac ar lafar.

Disgrifiad cryno

Fe fydd y modiwl hwn yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr i ymestyn, cymhwyso a phrofi’r sgiliau a’r gweithgareddau a ddatblygir yn y modiwlau TC31020 Ymarfer Cynhyrchu 2: Perfformio, TC31120 Ymarfer Cynhyrchu 2: Cyfryngau trwy gyflwyno deunydd byw a/neu gyfryngol ar gyfer cynhyrchiad amlgyfrwng.

Fe fydd y modiwl hwn yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr i roi gwedd ymarferol ar y gwaith damcaniaethol ac arbrofol a wneir yn y modiwlau uchod, gan ystyried cwestiynau a phroblemau creadigol cymhleth yn ymwneud â llwyfannu, amseru a saernïo deunydd gorffenedig ar gyfer y cynhyrchiad amlgyfrwng byw. Fe fydd briff sylfaenol y cynhyrchiad wedi’i gyflwyno i’r myfyrwyr gan aelod o staff yr Adran, ac fe fydd modd i’r myfyrwyr ddewis i gyfrannu i’r broses trwy sawl modd, gan gynnwys perfformio, cyflawni gwaith technegol wrth lwyfannu’r cynhyrchiad, darparu gwaith camera a/neu sain, creu cynllun a deunydd cyhoeddusrwydd, a dogfennu’r broses o baratoi a llwyfannu’r gwaith.

Prif nod y gwaith ymarferol ar y modiwl fydd dwyn y cynhyrchiad i ben yn llwyddiannus trwy ei lwyfannu gerbron cynulleidfa fyw tua diwedd y tymor dysgu. Fe fydd cyfleon i fyfyrwyr sy’n ymddiddori mewn datblygu rhaglen gyhoeddusrwydd ar gyfer y cynhyrchiad i lunio deunydd marchnata a chyrchu ffynonellau ar gyfer hysbysebu’r gwaith yn gyhoeddus. At hynny, fe fydd cyfle hefyd i fyfyrwyr sy’n ymddiddori neu arbenigo mewn gwaith fideo gwblhau dogfen am y gwaith o baratoi a llwyfannu’r cynhyrchiad amlgyfrwng fel prosiect ôl-gynhyrchu. Bydd disgwyl i’r myfyrwyr ganfod a diffinio ffyrdd o gyd-weithio a rhannu gwahanol gyfrifoldebau creadigol ac ymarferol tuag at nodau cyffredin hyn.

Ar ddiwedd y modiwl, gofynnir i’r myfyrwyr adfyfyrio ar y gwaith a gyflawnwyd ganddynt trwy greu Cyflwyniad Grŵp 10 munud o hyd a fydd yn gosod y gwaith yn ei gyd-destun ac yn manylu ar rai agweddau neilltuol o’r gwahanol brosesau cynhyrchu a chyflwyno. Fe gyflwynir 5 seminar 1 awr i’r grwpiau sy’n gysylltiedig â’r prosiect er mwyn trafod a chynnig cyngor ar baratoadau tuag at yr aseiniad hwn.

Cynnwys

Rhestr o weithgareddau nodweddiadol i’w cyflwyno yn y sesiynau ymarferol a’u trafod yn y seminarau:
Darllen y Ddrama
Creu gosodiad llwyfan ar gyfer y llwyfaniad byw
Creu dogfennaeth – ffilmio’r broses ymarfer a’r cynhyrchu
Creu dogfennaeth – creu trailer marchnata ar gyfer y cynhyrchiad
Cymryd rhan mewn rhediadau o’r cynhyrchiad gyfansawdd
Adolygu/ newid rhai elfennau o ganlyniad i rediadau byw
Cyflwyno i gynulleidfa fyw
Creu dogfennaeth –ffilmio byw yn ystod y sioe (yn ychwanegol at anghenion y sioe)
Creu dogfennaeth – fersiwn fideo wedi’i olygu o’r cynhyrchiad cyfan

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Addasrwydd a gwydnwch Fel unrhyw broses greadigol, fe fydd y modiwl hwn yn gofyn i’r myfyrwyr addasu a newid eu gweledigaeth wrth ymwneud â chyflwyno'r prosiect ymarferol. Fe fydd y profiad hwn o gydweithio ac ymateb i'r profiad o gyflwyno gerbron cynulleidfa fyw yn rhoi prawf go iawn ar greadigrwydd a gwytnwch y myfyrwyr.
Cydlynu ag erail Mae'r modiwl hwn wedi'i seilio ar brofiad dwys o waith ymarferol mewn grŵp yn y Prosiect Cynhyrchu amlgyfrwng. Fe fydd hefyd yn gofyn i’r myfyrwyr gydweithio’n agos gyda’u cyd-fyfyrwyr ym maes y cyfryngau; a rhydd y pethau hyn gyfle i'r myfyrwyr ddeall ac ymestyn ystod eang iawn o sgiliau gwaith tîm.
Cyfathrebu proffesiynol O raid, fe fydd cyfrannu i gynhyrchiad theatraidd byw yn helpu i ddatblygu sgiliau cyfathrebu'r myfyrwyr, os yn berfformiwr, cyfarwyddwr, neu'n gweithio trwy'r cyfryngau. Mae'r broses o baratoi a chyflwyno cynhyrchiad yn gofyn am mynegiant a gwrando gofalus a phwrpasol iawn. Fe fydd y modiwl hwn yn rhoi pwyslais arbennig iawn hefyd ar waith cyd-destunol a chefndirol, ac fe fydd darllen a thrafod natur y ddrama a'r cynhyrchiad yn rhan allweddol bwysig o'r seminarau.
Datrys Problemau Creadigol Datblygir y sgiliau hyn yn gyson drwy'r modiwl wrth i'r myfyrwyr gyflwyno a dogfennu prosiect amlgyfrwng. Fe fydd seminarau dysgu'r modiwl yn fodd o nodi nifer o broblemau sylfaenol y mae'n rhaid eu wynebu a cheisio'u goresgyn wrth gyflwyno cynhyrchiad theatraidd, yn enwedig y rheini sy'n codi wrth geisio trosglwyddo gweledigaeth dramodydd o'r dudalen i'r llwyfan cyfoes. Fe fyddant yn ffordd allweddol bwysig o helpu'r myfyrwyr i nodi ffactorau a allai effeithio ar y cynhyrchiad gorffenedig.
Gallu digidol Ni ddatblygir y sgiliau hyn yn uniongyrchol o ganlyniad i'r profiad dysgu, ond fe fydd yna sawl cyfle i'r myfyrwyr ymestyn eu gallu i ddeall a defnyddio offer technegol digidol wrth gyflwyno eu gwaith ymarferol, ac wrth gysylltu â'i gilydd yn ystod y broses waith.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Fe fydd yr gwaith ysgrifenedig a gweledol a gyflwynir yn ymarferol yn codi allan o waith a drafodir ac a gyflwynir yn y seminarau, a chan hynny fe fydd yn gofyn datblygu sgiliau dadansoddiadol er mwyn eu cwblhau. Fe fydd y seminarau hefyd yn trafod y gwaith a fydd wedi'i gyflawni gan y cyfarwyddwr ac yn gosod y gwaith hwnnw mewn cyd-destun ehangach yn seiliedig ar ddehongliad sylfaenol o waith y dramodydd.
Myfyrdod Fe fydd y modiwl hwn yn cael ei gyflwyno trwy gyfrwng nifer o wahanol dulliau dysgu, ac fe fydd yr ystod hwn o brofiadau yn helpu i'r myfyrwyr ddod yn fwy ymwybodol o'u profiad dysgu a'u anghenion personol mewn perthynas â'u cryfder wrth ymateb i rai a'r rhwystrau a all godi wrth greu gwaith creadigol.
Synnwyr byd go iawn Fe fydd y profiad o weithio ar gynhyrchiad ymarferol ac ymateb yn ymarferol i gynulleidfa fyw yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr ddatblygu sgiliau ymarferol wrth drin testun dramataidd. Fe fydd hyn yn rhoi cyfle iddynt arbenigo mewn maes o'u dewis hwy (perfformio neu gyfryngau), i ddatblygu ymwybyddiaeth o'u medrau personol, ac o'r safbwyntiau a nodweddion personol hynny a all fod o ddefnydd iddynt wrth gynllunio gyrfa.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6