Gwybodaeth Modiwlau

Cod y Modiwl
BG18040
Teitl y Modiwl
Rheolaeth Cnydau, Glaswelltir, Priddoedd a Thir Amaethyddol
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 1.5 Awr   Arholiad Priddoedd  1.5 Awr  20%
Arholiad Ailsefyll 1.5 Awr   Arholiad MCQ  Cwestiynnau aml-ddewis 1.5 Awr  40%
Arholiad Semester 1.5 Awr   Arholiad MCQ  Cwestiynnau aml-ddewis diwedd semester 2 1.5 Awr  40%
Arholiad Semester 1.5 Awr   Arholiad Priddoedd  1.5 Awr  20%
Asesiad Ailsefyll Cynllunio Glaswelltir  Adroddiad gan y myfyrwyr o sut i wella perfformiad caeau o laswellt. 1500 o eiriau  20%
Asesiad Ailsefyll Adroddiad Cnydau  Adroddiad ar reolaeth plotiau o wenith a barlys mae'r myfyrwyr wedi eu gofalu yn ystod ymweliadau cnydau. 2000 o eiriau  20%
Asesiad Semester Adroddiad Cnydau  ar reolaeth plotiau o wenith a barlys mae'r myfyrwyr wedi eu gofalu yn ystod ymweliadau cnydau. 2000 o eiriau  20%
Asesiad Semester Cynllunio Glaswelltir  Adroddiad gan y myfyrwyr o sut i wella perfformiad caeau o laswellt. 1500 o eiriau  20%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Arddangos gwybodaeth mewn cof o adeiladwaith, swyddogaeth, nodweddion a phwysigrwydd glaswelltir, porthiant, grawnfwydydd a chnydau âr nad ydynt yn rawn ym myd amaeth y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang.

Adnabod dylanwad gwaith rheoli a’r amgylchedd ar gyfansoddiad porfa a chynllunio rhaglen rheoli porfa at ddefnydd amrywiol.

Adnabod nodweddion mathau o gnydau grawn a rhywogaethau porthiant, disgrifio sut maen nhw'n bodloni gofynion y farchnad.

Cynllunio, cloriannu a gweithredu gofynion tail a gwarchod cnwd grawn a phorthiant, gan roi ystyriaeth ddigonol i’w heffaith bosib ar yr amgylchedd.

Arddangos gwybodaeth mewn cof o wahanol gydrannau pridd a'u prosesau, a sôn am bryderon amgylcheddol ehangach, amodau a phrosesau pridd allweddol gan gynnwys effaith lleithder a chylchdroi maetholion.

Cymhwyso dealltwriaeth am nodweddion ffisegol pridd i dechnegau rheoli tir ymarferol, gan gynnwys draenio a thrin y tir.

Adnabod gwerth cadwraeth, statws a sut y rheolir amrywiaeth o gynefinoedd fferm ar hyn o bryd.

Disgrifiad cryno

Trwy raglen integredig o ddarlithoedd, sesiynau arddangos, sesiynau ymarferol ac ymweliadau, bydd myfyrwyr yn cael gwybod am union ofynion rheoli glaswelltir amaethyddol a chnydau grawn, yn ogystal â'r ffactorau sy'n sail i ystod o strategaethau cynhyrchu cnwd. Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i gyfansoddiad pridd a phrosesau pridd allweddol, gan roi pwyslais ar sut mae'r rhain yn amrywio rhwng gwahanol fathau o bridd. Ar ôl i'r pethau elfennol hyn gael eu cyflwyno, bydd y modiwl yn canolbwyntio ar eu goblygiadau o ran rheoli tir a gwarchod yr amgylchedd.

Nod

1. Arddangos gwybodaeth mewn cof o adeiladwaith, swyddogaeth, nodweddion a phwysigrwydd glaswelltir, porthiant, grawnfwydydd a chnydau âr nad ydynt yn rawn ym myd amaeth y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang.
2. Adnabod dylanwad gwaith rheoli a’r amgylchedd ar gyfansoddiad porfa a chynllunio rhaglen rheoli porfa at ddefnydd amrywiol.
3. Adnabod nodweddion mathau o gnydau grawn a rhywogaethau porthiant, disgrifio sut maen nhw'n bodloni gofynion y farchnad.
4. Cynllunio, cloriannu a gweithredu gofynion tail a gwarchod cnwd grawn a phorthiant, gan roi ystyriaeth ddigonol i’w heffaith bosib ar yr amgylchedd.
5. Arddangos gwybodaeth mewn cof o wahanol gydrannau pridd a'u prosesau, a sôn am bryderon amgylcheddol ehangach, amodau a phrosesau pridd allweddol gan gynnwys effaith lleithder a chylchdroi maetholion.
6. Cymhwyso dealltwriaeth am nodweddion ffisegol pridd i dechnegau rheoli tir ymarferol, gan gynnwys draenio a thrin y tir.
7. Adnabod gwerth cadwraeth, statws a sut y rheolir amrywiaeth o gynefinoedd fferm ar hyn o bryd.

Cynnwys

Rhennir y modiwl hwn yn sawl adran i gwmpasu gwahanol agweddau ar reoli tir amaethyddol.
Cyflwynir gwyddor pridd, gan ganolbwyntio ar adeiladwaith, gweadedd a lleithder pridd. Mae'n archwilio cylchdroi a rheoli maetholion ar gyfer iechyd pridd.
Trafodir pwysigrwydd glaswelltiroedd y Deyrnas Unedig, gan gynnwys rhywogaethau porfa a mathau o lystyfiant. Bydd y gweithdai ar gymysgeddau hadau a rhaglenni maetholion yn gysylltiedig â’r adrannau am gydrannau pridd.
Bydd treialon maes yn sail i'r adran ar gnydau. Nod y darlithoedd, y gweithdai a'r dosbarthiadau ymarferol yw dilyn cylch bywyd y cnwd ac arwain penderfyniadau ar reoli cnydau. Ymhlith y pynciau dan sylw mae: cynnyrch, dewis mathau, gwarchod cnydau a chynllunio maetholion.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cydlynu ag erail Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau wrth reoli eu plotiau cnydau.
Cyfathrebu proffesiynol Bydd yr adroddiadau cnydau a glaswelltiroedd yn gofyn I’r myfyrwyr greu adroddiad mewn dull penodol.
Datrys Problemau Creadigol Bydd holl aseiniadau'r modiwl hwn yn cynnwys adnabod problemau wedi eu cysylltu â thyfiant planhigion neu rheolaeth priddoedd yn y maes. Yn ogystal, disgwylir i'r myfyrwyr greu strategaeth rheolaeth i ymateb i hyn.
Gallu digidol Bydd gofyn i'r myfyrwyr ddefnyddio'r we yn gyson i ganfod gwybodaeth ar gyfer gwaith i'w asesu.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Bydd gofyn i'r myfyrwyr i gyfirfo amrywiaeth o gyfrifiadau er enghraifft, cyfradd hau, poblogaeth planhigion a chynnyrch y planhigyn.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4