Weminarau Croeso
Rheoli eich Arian yn Aberystwyth (Dydd Mercher 30 Awst)
Mae croeso i chi ymuno â'r weminar hon i glywed gan ein tîm Arian a Chyngor. Byddant yn trafod popeth o Fenthyciadau Myfyrwyr i wneud y gorau o'ch arian. Gobeithio y byddant yn cynnig rhywfaint o sicrwydd ichi, ac yn sicrhau eich bod yn gwybod at bwy i droi am gymorth a chefnogaeth os bydd eu hangen arnoch.
Dyddiad: Dydd Mercher 30 Awst
Amser: 2pm
Hygyrchedd a Chynhwysiant yn Aberystwyth (Dydd Gwener 1 Medi)
Cynhelir y weminar hon gan ein tîm Hygyrchedd a Chynhwysiant, sy’n gyfeillgar a gwych. Byddant yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys proses y Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA), beth yw addasiadau academaidd a sut i sicrhau eu bod ar gael, a sut y gallwch ddefnyddio adnoddau cynhwysol a thechnoleg gynorthwyol i gael y profiad gorau posibl yma yn Aber.
Dyddiad: Dydd Gwener 1 Medi
Amser: 2pm
Ymgartrefu – eich lles, a sut i wneud cysylltiadau gwych (Dydd Gwener 8 Medi)
Boed chi’n teimlo’n llawn cyffro, yn bryderus, neu gyfuniad o'r ddau o bosibl, dyma’r weminar ar eich cyfer chi. Byddwn yn treulio’r amser yn sôn am fywyd yn y brifysgol ac yn dweud wrthych am gymdeithasau, y Ganolfan Chwaraeon, Canolfan y Celfyddydau, ac agweddau eraill ar fywyd y brifysgol y gallwch ymwneud â hwy er mwyn cefnogi eich lles yn gyffredinol. Bydd y tîm yn rhannu awgrymiadau a chyngor gwych i'ch helpu wrth i chi gynllunio sut i addasu i astudio a byw yma ym Mhrifysgol Aberystwyth a byddwn yn esbonio ychydig am y rhan o Gymru y byddwch yn astudio ynddi (traethau, teithiau cerdded, mannau ffydd). Byddwn yn egluro sut y gallwch gael gafael ar ein gwasanaethau pan fydd pethau'n anodd, neu pan fyddwch chi'n sylwi nad yw pethau’n rhwydd ar un o’ch ffrindiau.
Dyddiad: Dydd Gwener 8 Medi
Amser: 3pm
Adnabod Eich Gradd a'r Sgiliau Byddwch Chi eu Hangen (Dydd Mawrth 12 Medi)
Bydd sesiwn yma yn eich helpu i adnabod a chynllunio ar gyfer y gwaith asesiedig ar y modiwlau byddwch chi'n eu dilyn. Mae'n edrych ar beth mae'n olygu i astudio yn Gymraeg/yn ddwyieithog, y mathau o fodiwlau cyfrwng Cymraeg/dwyieithog sydd ar gael, a'ch dewisiadau o ran iaith eich asesiadau. Mae hefyd yn ymdrin â ffyrdd o adnabod eich modiwlau, eu deilliannau dysgu a chynnwys, linciau i'r rhestrau darllen, a sut i adnabod eich aseiniadau. Yn ogystal, cewch gyngor ar arfer academaidd da (cyfeirnodi), traethodau, adroddiadau, cyflwyniadau, arholiadau a ble i gael mwy o wybodaeth, cyngor a chefnogaeth.
Dyddiad: Dydd Mawth 12 Medi
Amser: 10am
Dysgu'n Effeithiol drwy Ddysgu Gweithredol (Dydd Llun 18 Medi)
Mae dysgu gweithredol yn elfen allweddol o astudio yn y brifysgol, ond beth yw ystyr hynny yn ymarferol? Yn y sesiwn hon, byddwn yn rhannu syniadau ar sut y gallwch droi dysgu goddefol yn ddysgu gweithredol a manteisio i'r eithaf ar ddarlithoedd a gwaith darllen. Mae defnyddio strategaethau effeithiol yn eich galluogi i gofio mwy (mewn llai o amser) a chael marciau gwell.
Dyddiad: Llun 18 Medi
Amser: 10am