Cynlluniau Astudio
Hanes / Cysylltiadau Rhyngwladol
Information provided by Department of History and Welsh History
-
Information provided by Department of History and Welsh History
-
Datganiad Meincnodi Hanes gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch.
Information provided by Department of History and Welsh History
-
Medi 2023
Information provided by Department of History and Welsh History
-
Nod y Rhaglen yw datblygu diddordeb y sawl sy’n astudio Hanes, a meithrin ynddynt wybodaeth a dealltwriaeth ddyfnach o’r pwnc. Mae’r Rhaglen yn cynnig i fyfyrwyr ddewis eang o ran cyfnodau a themâu hanesyddol o’r oesoedd canol hyd heddiw, gan gynnwys cyfleoedd i astudio agweddau ar hanes gwleidyddol, cymdeithasol, diwylliannol neu economaidd, mewn mwy nag un wlad. Mae’r modiwlau craidd yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau ymchwilio hanes sylfaenol ac ar ddealltwriaeth o faterion hanesyddiaethol. Drwy hyn, nod y Rhaglen yw cynhyrchu graddedigion a fydd yn meddu ar sgiliau ymchwilio a dehongli o safon uchel, ac a fydd wedi cael blas ar werthfawrogi gwerth Hanes i gymdeithas, a fydd yn aros gyda hwy gydol eu hoes.
Information provided by Department of History and Welsh History
-
Mae’r rhaglen yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr ddatblygu a dangos gwybodaeth a dealltwriaeth, sgiliau, rhinweddau a phriodoleddau eraill yn y meysydd canlynol:
Information provided by Department of History and Welsh History
-
-
A1 Gwybodaeth a dealltwriaeth o gymdeithasau dynol yn y gorffennol drwy astudio ystod o gyfnodau a themâu hanesyddol mewn mwy nag un wlad, ac mewn sawl cyd-destun diwylliannol gwahanol.
-
A2 Y gallu i lunio cwestiynau hanesyddol, ac i chwilio a chanfod amryfal fathau o dystiolaeth eilaidd a gwreiddiol briodol, gan gynnwys y ffurf electronig.
-
A3 Y gallu i ddarllen a defnyddio ystod o destunau eilaidd a ffynonellau gwreiddiol yn feirniadol ac yn empathig.
-
A4 Gwerthfawrogi natur gymhleth ac amrywiol sefyllfaoedd, digwyddiadau a dulliau meddwl y gorffennol.
-
A5 Deall yr anawsterau cynhenid wrth ddehongli tystiolaeth hanesyddol, a’r modd y mae haneswyr yn ymdrin ag amwysedd, gwybodaeth annigonol a safbwyntiau gwahanol.
-
A6 Gwerthfawrogi sgiliau beirniadol sylfaenol yr hanesydd wrth bennu a defnyddio rheolau tystiolaeth ac wrth brofi dilysrwydd datganiadau drwy ddatblygu dealltwriaeth ymarferol o sut y defnyddir technegau ymchwilio a holi profedig i gynhyrchu a dehongli gwybodaeth hanesyddol.
-
A7 Annibyniaeth ddeallusol wrth osod a datrys problemau, dysgu sgiliau bywgraffyddiaethol, y gallu i gasglu, dewis, dethol, trefnu a chyfuno tystiolaeth hanesyddol, a’r gallu i lunio cwestiynau priodol ac i gynnig atebion iddynt gan ddefnyddio tystiolaeth a dadleuon dilys a pherthnasol.
-
A8 Ymwybyddiaeth atblygol a beirniadol o rymoedd newidiadau hanesyddol a’r ffyrdd y’u hesbonnir mewn dadleuon hanesyddiaethol.
-
A9 Trefnu dadleuon eglur a chydlynol ar lafar ac ar bapur, a’r gallu i wrando ac ymateb i ddadleuon eraill.
-
A10 Deall gwerth cymdeithasol Hanes, a meithrin mwynhad oesol ohono fel pwnc.
Dulliau a strategaethau dysgu/addysgu:
Dysgir 1 drwy ddarlithoedd, seminarau (sy’n cynnwys cyflwyniadau ffurfiol, trafodaethau gosod a thrafodaethau a arweinir gan fyfyrwyr), gwaith cwrs a asesir. Mae’r adnoddau a geir yn Llyfrgell y Brifysgol ac yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn rhoi cymorth ychwanegol. Dysgir 2-10 drwy gyfuniad o fodiwlau Dewis ac ystod o fodiwlau sgiliau a hanesyddiaethol. Drwy hyn oll, disgwylir i fyfyrwyr gadarnhau ac ymestyn eu gwybodaeth drwy ddarllen yn annibynnol.
Asesu:
Asesir yn ffurfiannol drwy waith cwrs (1-9) a chynigir adborth ar hyn i fyfyrwyr yn rheolaidd. Asesir yn gyfansymiol drwy gyfuniad o arholiadau amser-rhydd (1-4, 8, 9), prosiectau (2, 6). Gellir hefyd ymgymryd â thraethawd estynedig (1-9). Mae rhai modiwlau hefyd yn defnyddio dulliau asesu llafar (9).
Information provided by Department of History and Welsh History
-
-
B1 Arfer â natur gymhleth ac amrywiol y pwnc a chymharu mewn ffordd ddeallus ar draws ffiniau amser a lle
-
B2 Rhesymu yn feirniadol
-
B3 Defnyddio dulliau a chysyniadau hanesyddol
-
B4 Dangos annibyniaeth barn
-
B5 Lledaenu gwybodaeth a syniadau i eraill, ar lafar ac ar bapur
Dulliau a strategaethau dysgu/addysgu:
Datblygir sgiliau deallusol gydol y Rhaglen mewn amrywiol ffyrdd. Mae’r rhain yn cynnwys datblygu sgiliau gwrando mewn darlithoedd a sgiliau deall wrth ddarllen a chymryd nodiadau (1), seminarau, dosbarthiadau tiwtorial, a gwaith cwrs (1-5)
Asesu:
Mae pob un o’r dulliau asesu yn mesur gallu’r myfyriwr ym mhob un o’r sgiliau deallusol uchod drwy ymatebion ysgrifenedig mewn amryw ffurf. Nid yw cyflwyniadau llafar yn cael eu hasesu’n ffurfiol ar hyn o bryd, ond fe’u datblygir mewn gwaith seminar a thiwtorial.
Sgiliau ymarferol
-
C1 Chwilio, dewis, cymhathu a chyflwyno casgliadau o dystiolaeth hanesyddol o amryw ffynonellau
-
C2 Arddangos hunanddisgyblaeth wrth reoli amser a’r gallu i weithio yn annibynnol a chyda phobl eraill
-
C3 Darllen ffynonellau eilaidd yn feirniadol
-
C4 Dadansoddi ffynonellau gwreiddiol mewn ffyrdd cymhleth, gan gynnwys y gallu i olrhain eu tarddiad, i ddadansoddi eu cynnwys a’u hiaith, ac i’w croesgyfeirio â ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd eraill
Dulliau a strategaethau dysgu/addysgu:
Cyflwynir y sgiliau ymarferol hyn i bob myfyriwr drwy fodiwlau craidd Blwyddyn 1, ac fe’u datblygir ymhellach ym Mlynyddoedd 2 a 3 ym mhob modiwl. Mae llawlyfrau modiwlau ac Arweinlyfrau’r Flwyddyn yn cynnig arweiniad pellach, yn enwedig mewn perthynas ag ysgrifennu a pharatoi traethodau. Mae modiwlau sgiliau Blwyddyn 2 yn cyflwyno cyfres o sgiliau hanesyddol penodol, megis tystiolaeth lafar, TG, dadansoddi ystadegau, a’r defnydd o ystod eang o dystiolaeth o ganeuon i newyddiaduraeth. Caiff Sgiliau Asesu 1-3 eu hasesu’n bennaf drwy waith cwrs ac arholiadau, ac asesir 4, sy’n elfen bwysig wrth asesu pob modiwl, yn bennaf drwy draethodau, prosiectau ac arholiadau.
Information provided by Department of History and Welsh History
-
-
D1 Arddangos arweiniad ac ysgogiad, hunangyfeiriad a hunangymhelliant
-
D2 Arddangos hyblygrwydd ac annibyniaeth barn
-
D3 Arddangos sgiliau cyflwyno a chyfathrebu effeithiol, ar lafar ac ar bapur
-
D4 Rheoli amser a chadw at ddyddiadau cau
-
D5 Chwilio a chanfod gwybodaeth mewn amrywiaeth eang o ffynonellau
-
D6 Rhoi ffurfiau amrywiol o wybodaeth (sy’n aml yn anghyflawn) yn eu cyd-destun, eu gwerthuso a’u croesgyfeirio
-
D7 Gweithio’n adeiladol mewn grwpiau, ac asesu gwerth a pherthnasedd syniadau a dadleuon eraill.
Dulliau a strategaethau dysgu/addysgu
Mae’r Rhaglen yn datblygu’r rhinweddau hyn yn gynyddol, a thrwy nifer o ffyrdd. Dysgir 1 a 2 yn bennaf drwy baratoi traethodau a seminarau a thiwtorialau traethawd unigol a thrafodaethau seminar; dysgir 3 a 4 drwy ysgrifennu traethodau/prosiectau, a chyflwyno syniadau mewn seminarau. Datblygir 5 drwy bob ymarfer y gwneir gwaith ymchwil ar ei gyfer, o baratoi traethodau a seminarau i’r Traethawd Estynedig, os yn berthnasol. Mae 6-7 yn elfennau cryf ym mhob agwedd o’r Rhaglen.
Asesu
Mae meini prawf marcio’r Rhaglen yn gwobrwyo safon a ddangosir drwy 1-3 a 5 a 6 yn ffurfiannol ac yn gyfansymiol. Nid asesir 4 yn ffurfiol, ond cosbir gwaith cwrs a gyflwynir ar ôl y dyddiad cyflwyno a gytunwyd. Nid asesir 7 yn ffurfiol.
BA Hanes / Cysylltiadau Rhyngwladol [2DLV]
Blwyddyn Academaidd: 2023/2024Cynllun Anrhydedd Cyfun - ar gael ers 2021/2022
Hyd (astudio Llawn Amser): 3 blwyddynExploring the International 1: Central Concepts and Core Skills
Behind the Headlines
The Making of the Modern World: War Peace and Revolution since 1789
International Relations: Perspectives and Debates
Llunio Hanes
Beirdd a Noddwyr: Llên a Hanes c.1300-1500
Reading a Building
History as myth-Making: the 'Myth of the Blitz'
Interdisciplinary and decolonial history
Seals in Their Context in Medieval England and Wales
Victorian Visions: Exploring Nineteenth-Century Exhibitions
Recounting Racism: Oral History and Modern American Race Relations.
Gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig Heddiw: Undeb Dan Straen?
Cyfiawnder Byd-Eang: Dehongli a Gwireddu ein Dyletswyddau i'r Dieithryn Pell
Climate Change and International Politics in the Anthropocene
European Security in 21st Century
Warfare after Waterloo: Military History 1815-1918
The Past and Present of US Intelligence
Gender, Conflict and Security
International Politics and Global Development
Women and Global Development
The British Army's Image in Battle, from the Crimean to the Present
Britain and World Politics from Global Empire to Brexit: The Diplomacy of Decline
UK Politics Today: A Union Under Strain?
Economic Diplomacy and Leadership
Global Politics and the Refugee Regime
The Politics and Paradoxes of International Organisations
Pobl a Grym: Deall Gwleidyddiaeth Gymharol Heddiw
Cenedlaetholdeb mewn Theori a Realiti
International Politics and the Nuclear Age
The Arab-Israeli Wars
Russian Security in the 21st Century
The Governance of Climate Change: Simulation Module
The Long Shadow of the Second World War
Britain and Ireland in War and Peace since 1800
China From the Opium War to the Present
Nationalism in Theory and Practice
Race in Global Politics
People and Power: Understanding Comparative Politics Today
Knowing about Violent Conflict in International Politics
Strategy, Intelligence and Security in International Politics
Refugee Simulation
Middle Powers in the Global Political Economy
Diwylliant, Cymdeithas a'r Fictoriaid
Cymru a'r Tuduriaid
Famine in Medieval England
War, Politics and People: England in Context in the Fourteenth Century
Between Revolution and Reform: China since 1800
Roads to Modernity: Germany and Japan in the Age of Empires, 1860s-1930s
Environmental History of the Neotropics (Latin America and the Caribbean) in the Capitalocene
Culture, Society and the Victorians
Wales under the Tudors
Concro'r Byd: Twf a Chwymp Ymerodraethau Prydain a Ffrainc
Stori America, 1607-1867, ar Ffilm a Theledu
The British Isles in the Long Eighteenth Century
Medieval England and Germany, c. 1050-1250
The European Reformation
From Poor Law to Welfare State: Poverty and Welfare in Modern Britain, 1815-1948
The Nazi Dictatorship: Regime and Society in Germany 1933-1945
Wales and the Kings of Britain: Conflict, Power and Identities in the British Isles 1039-1417
Gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig Heddiw: Undeb Dan Straen?
Dulliau Ymchwil + Traethawd Estynedig
Cyfiawnder Byd-Eang: Dehongli a Gwireddu ein Dyletswyddau i'r Dieithryn Pell
Dissertation
Climate Change and International Politics in the Anthropocene
European Security in the 21st Century
The Past and Present of US Intelligence
Gender, Conflict and Security
Women and Global Development
The British Army's Image in Battle, from the Crimean to the Present
Britain and World Politics from Global Empire to Brexit: the Diplomacy of Decline:
UK Politics Today: A Union Under Strain?
Economic Diplomacy and Leadership
Global Politics and the Refugee Regime
The Politics and Paradoxes of International Organisations
Dulliau Ymchwil + Traethawd Estynedig
Cenedlaetholdeb Mewn Theori a Realiti
Dissertation
International Politics and the Nuclear Age
The Arab-Israeli Wars
Russian Security in the 21st Century
The Long Shadow of the Second World War
Britain and Ireland in War and Peace since 1800
Nationalism in Theory and Practice
Race in Global Politics
Knowing about Violent Conflict in International Politics
Refugee Simulation
Middle Powers in the Global Political Economy
Diwylliant, Cymdeithas a'r Fictoriaid
Cymru a'r Tuduriaid
Famine in Medieval England
War, Politics and People: England in Context in the Fourteenth Century
Between Revolution and Reform: China since 1800
Roads to Modernity: Germany and Japan in the Age of Empires, 1860s-1930s
Environmental History of the Neotropics (Latin America and the Caribbean) in the Capitalocene
Culture, Society and the Victorians
Wales under the Tudors
Concro'r Byd: Tŵf a Chwymp Ymerodraethau Prydain a Ffrainc
Stori America, 1607-1867, ar Ffilm a Theledu
The British Isles in the Long Eighteenth Century
Medieval England and Germany, c. 1050-1250
The European Reformation
From Poor Law to Welfare State: Poverty and Welfare in Modern Britain, 1815-1948
The Nazi Dictatorship: Regime and Society in Germany 1933-1945
Wales and the Kings of Britain: Conflict, Power and Identities in the British Isles 1039-1417