Cynlluniau Astudio

Cysylltiadau Rhyngwladol a'r Cyfryngau


1 : Awarding Institution / Body
Aberystwyth University


2a : Teaching Institution / University
Aberystwyth University


2b : Work-based learning (where appropriate)


Information provided by Department of International Politics
-

N/A



3a : Programme accredited by
Aberystwyth University


3b : Programme approved by
Aberystwyth University


4 : Final Award
Bachelor of Arts


5 : Programme title
Cysylltiadau Rhyngwladol a'r Cyfryngau


6 : UCAS code
3P2L


7 : QAA Subject Benchmark


Information provided by Department of International Politics
- Gellir dod o hyd i’r ‘Datganiad Meincnod Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol’ perthnasol yma: https://www.qaa.ac.uk/the-quality-code/subject-benchmark-statements/subject-benchmark-statement-politics-and-international-relations

8 : Date of publication


Information provided by Department of International Politics
-

Medi 2023



9 : Educational aims of the programme


Information provided by Department of International Politics
-

Mae rhaglenni cyfun yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu gwybodaeth ddofn mewn Cysylltiadau Rhyngwladol a phwnc arall, gan astudio hanner eu modiwlau yn y naill adran a'r llall. Y mae myfyrwyr sy'n gwneud gradd mewn Cysylltiadau Rhyngwladol yn ennill sylfaen gadarn ym maes egwyddorion a chysyniadau craidd y ddisgyblaeth yn ogystal â chael y cyfle i arbenigo mewn is-feysydd allweddol o'u dewis, neu, i astudio'r sbectrwm cyflawn o faterion y gellir eu hystyried yn berthnasol i wleidyddiaeth ryngwladol cyfoes. Dysgir yr holl fodiwlau gan staff ymchwil sy'n ffynnu ar y cyfle i drwytho'r myfyrwyr â'u gwaith (cyhoeddedig, ac ar droed). Nod y rhaglen yw creu myfyrwyr sy'n meddu ar y sgiliau angenrheidiol i ddadansoddi a myfyrio ar gynnwys y cynllun gradd yn ogystal ag ennill ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy. Yn ein barn ni, bydd sgiliau yn y pwnc hwn yn werthfawr i gyflogwyr y dyfodol ac i'r gymdeithas sifil ehangach.



10 : Intended learning outcomes


Information provided by Department of International Politics
-

Bwriad canlyniadau dysgu y rhaglen hon yw diwallu disgwyliadau'r Datganiad Meincnodi ar gyfer Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol. Y mae strwythur y cynllun gradd a'r cyflwyniad ohono yn cydnabod bod angen sicrhau cydbwysedd priodol rhwng ennill gwybodaeth pwnc-benodol, a datblygu sgiliau disgyblaeth penodol a chyffredinol. Y mae cyfuno'r ddwy elfen hon yn nodwedd ganolog o'r canlyniadau dysgu. Rhydd y rhaglen gyfle i fyfyrwyr ddatblygu ac arddangos gwybodaeth, dealltwriaeth, nodweddion, sgiliau a phriodoleddau eraill yn y meysydd canlynol:



10.1 : Knowledge and understanding


Information provided by Department of International Politics
-

Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r canlynol:

  • A1. Esblygiad y system ryngwladol o Westphalia tan heddiw

  • A2. Y dadleuon allweddol yn hanes Cysylltiadau Rhyngwladol fel disgyblaeth

  • A3. Ddamcaniaethau a chysyniadau craidd y maes

  • A4. Brif strwythurau a phrosesau gwleidyddiaeth fyd-eang gan gynnwys gwybodaeth am ddeinameg rhanbarthol, llywodraethau a sefydliadau

  • A5. Weithredwyr allweddol cysylltiadau rhyngwladol

  • A6. Y deinamig, y prosesau a’r problemau allweddol sy’n wynebu Gwleidyddiaeth Fyd-eang

  • A7. Sut gall yr ymdriniaethau hyn ein helpu i esbonio a deall digwyddiadau yn y byd

Dysgu/Addysgu a dulliau asesu:

Dysgir 1-7 trwy ddarlithoedd, seminarau, asesu gwaith cwrs, arholiadau ac ymchwil annibynnol. Y mae myfyrwyr hefyd yn dysgu trwy gymryd rhan mewn cymdeithasau myfyrwyr disgyblaeth-benodol a darlithiau cyhoeddus yn ogystal â thrwy gyfrwng adnoddau cyhoeddus eraill megis papurau newydd, teledu, radio a'r rhyngrwyd. Drwodd a thro, anogir myfyrwyr i ddarllen yn annibynnol er mwyn cynyddu, atgyfnerthu ac ehangu gwybodaeth a dealltwriaeth unigol o'r pwnc. Profir gwybodaeth a dealltwriaeth (1-7) trwy gyfuniad o arholiadau ysgrifenedig dibaratoad ac arholiadau y paratoir ar eu cyfer ymlaen llaw (1-7), traethodau (1-7), traethawd estynedig, (1-7, gan ddibynnau ar y pwnc) a gall gynnwys, yn ôl y dewis o opsiynau, cyflwyniadau seminar, adroddiadau, chwiliadau llenyddiaeth neu adolygiadau llyfr neu ffilm, e-bortffolios , logiau dysgu neu flogiau. Gall myfyrwyr hefyd ddysgu drwy hunan-ystyried wrth gwblhau eu ffurflenni i Raglen Ddatblygu’r Adran Gyrfaoedd.



10.2 : Skills and other attributes


Information provided by Department of International Politics
-

Sgiliau Deallusol:

  • B1. Dewis, disgrifio a gwerthuso gwahanol ymdriniaethau

  • B2. Dewis materion ac ymchwilio iddynt

  • B3. Cymhwyso cysyniadau, damcaniaethau a syniadau at achosion go iawn

  • B4. Nodi, archwilio a ffurfio atebion i broblemau deallusol

  • B5. Rhesymu, dadansoddi a dehongli data a syniadau yn feirniadol

  • B6. Mynegi ac ymarfer annibyniaeth barn

  • B7. Myfyrio ar y profiad o ddysgu ac o ganlyniad, addasu strategaethau deallusol

  • B8. Gallu defnyddio gwybodaeth a ddysgwyd i ddatrys problemau hypothetig neu wirioneddol

  • B9. Gallu gwahaniaethu rhwng y perthnasol a'r amherthnasol

  • B10. Sylweddoli bod mwy nag un ateb i broblemau yn aml

Dulliau Dysgu ac Addysgu ac Asesu:

Tra bod darlithiau yn cyflwyno pynciau a syniadau ger bron myfyrwyr, datblygir sgiliau deallusol pan fydd myfyrwyr yn mynd i'r afael â'r pwnc eu hunain, a rhyngweithio ag eraill yn y gymuned ddysgu ddeallusol yn ystod trafodaethau (mewn seminarau, lle mae tiwtoriaid yn ymroi i feithrin a datblygu sgiliau deallusol, ac mewn dadleuon cyhoeddus ehangach.) ac hefyd yn y broses o ddarllen ac ysgrifennu nodiadau, traethodau neu arholiadau. Yn ogystal, y mae myfyrdod a hunan-asesiad yn hanfodol ar gyfer dysgu sgiliau deallusol. Y mae tiwtoriaid yn ffurfio'u hargraffiadau am allu a chynnydd myfyrwyr ac yn eu hasesu trwy eu cysylltiad â hwy mewn seminarau ac wrth asesu gwaith ysgrifenedig. Asesir sgiliau deallusol (1-10) yn bennaf yn ôl perfformiad traethawd ac arholiad, yn ogystal â’r dulliau asesu eraill a nodir uchod. Y mae'r meini prawf asesu a gyhoeddir yn amlygu'r sgiliau deallusol hyn, ac yn eu tro adlewyrchir y rhain yn yr adborth i fyfyrwyr. Gall myfyrwyr asesu eu perfformiad eu hunain trwy fesur graddfa eu cynnydd hwy wrth ei gymharu â chynnydd eu cyfoedion, ac yng ngoleuni sylwadau'r tiwtor. Y mae rhwydd hynt i fyfyrwyr drafod datblygiad ac asesiad anffurfiol sgiliau o'r fath yn ystod oriau gwaith staff. Ni asesir dysgu personol (7) yn ffurfiol ond adlewyrchir llwyddiant cymharol yng ngallu myfyriwr i wella dros gyfnod o amser. Caiff dysgu personol hefyd ei wella drwy ymwneud â’r broses CDP.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

  • C1. Ceisio a dethol gwybodaeth, a gwneud nodiadau effeithiol ar wybodaeth o amrywiol ffynonellau

  • C2. Blaenoriaethu a threfnu gwybodaeth a'i gyflwyno fel tystiolaeth mewn dadl

  • C3. Cynllunio, gwneud a chwblhau gwaith ysgrifenedig (erbyn dyddiadau cau caeth) sy'n briodol i wahanol gynulleidfaoedd neu dasgau

  • C4. Adnabod ac adfer gwybodaeth berthnasol a chyfoe

  • C5. Casglu gwybodaeth a dadleuon ar fyr rybudd i ateb cwestiynau penodol

  • C6. Mynegi barn ddeallus trwy waith ysgrifenedig a thrafodaeth.

  • C7. Gwrando ar farn eraill ac ymateb yn briodol

  • C8. Llunio cwestiynau ac archwilio'r cysylltiadau rhwng amryfal bynciau

  • C9. Dysgu o brofiad Dulliau

Dysgu ac Addysgu ac Asesu:

Y mae'r holl fodiwlau craidd, ac yn enwedig y rheiny a ddysgir yn Rhan Un, yn cynnwys elfennau sy'n ymdrin yn uniongyrchol â datblygu sgiliau ymarferol (1-8). Y mae'r broses o ysgrifennu traethodau, adroddiadau a chyflwyniadau (1-6) a pharatoi ar gyfer arholiadau (1-6, 9) yn fodd i'r myfyriwr hogi sgiliau trwy ymarfer, ag adborth y tiwtoriaid yn sicrhau arweiniad iddynt. Y mae trafod mewn seminarau neu ddadlau mewn fforymau cyhoeddus yn fodd i fyfyrwyr wella eu sgiliau cyfathrebu deallusol (2, 5-9). Yn ogystal â hyn, y mae myfyrwyr yn dysgu a gwella sgiliau o'r fath trwy fyfyrio'n unigol ar eu profiadau dysgu ac addasu eu dulliau dysgu i bwrpas; proses sy'n cael cryn sylw yn yr holl fodiwlau. Gall myfyrwyr hefyd ddysgu drwy hunan-ystyried wrth gwblhau eu ffurflenni i Raglen Ddatblygu’r Adran Gyrfaoedd.



10.3 : Transferable/Key skills


Information provided by Department of International Politics
-

Ar ôl cwblhau'r rhaglen, bydd y myfyrwyr yn gallu cymryd cyfrifoldeb drostynt eu hunain a'u gwaith. Byddant yn gallu:

• D1. Gweithio'n annibynnol

• D2. Gweithio mewn tîm

• D3. Parchu barn a safbwyntiau pobl eraill

• D4. Gwrando

• D5. Cyfathrebu ar lafar

• D6. Cyfathrebu ar bapur

• D7. Cyfathrebu yn electronig

• D8. Gair-brosesu

• D9. Defnyddio'r We

• D10. Rheoli amser a gweithio o fewn dyddiadau cau

• D11. Ymchwilio i faterion

• D12. Datrys problemau

• D13. Addasu i newidiadau

• D14. Datblygu ymwybyddiaeth gyrfa



11 : Program Structures and requirements, levels, modules, credits and awards




BA Cysylltiadau Rhyngwladol a'r Cyfryngau [3P2L]

Blwyddyn Academaidd: 2023/2024Cynllun Anrhydedd Cyfun - ar gael ers 2021/2022

Hyd (astudio Llawn Amser): 3 blwyddyn

Rheolau Rhan 1

Blwyddyn 1 Craidd (60 Credyd)

Compulsory module(s).

Semester 1
TC10520

Creu Ffilm

Semester 2
TC10620

Gweithio yn y Diwydiannau Creadigol

TC10820

Cydweithio Ensemble

Blwyddyn 1 Craidd (40 Credyd)

Compulsory module(s).

Semester 1
IP12420

Exploring the International 1: Central Concepts and Core Skills

IP12620

Behind the Headlines

Semester 2

Blwyddyn 1 Opsiynau

Dewiswch 20 credyd (un modiwl)

Semester 1
IP12820

The Making of the Modern World: War Peace and Revolution since 1789

Semester 2
GW12520

Globaleiddio a Datblygiad Byd-eang

GW12920

Gwleidyddiaeth yn yr Unfed Ganrif ar Hugain

IP10320

War, Strategy and Intelligence

IP12520

Globalization and Global Development

IP12920

Politics in the 21st Century

Rheolau Rhan 2

Blwyddyn 2 Craidd (20 Credyd)

Compulsory module(s).

Semester 2
IP20120

International Relations: Perspectives and Debates

Blwyddyn 2 Craidd (20 Credyd)

Compulsory module(s).

Semester 1
TC21120

Ymarfer Cynhyrchu 1: Cyfryngau

Semester 2

Blwyddyn 2 Opsiynau

Rhaid i fyfyrwyr ail flwyddyn gymryd 40 credyd o fodiwlau opsiynol Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Semester 1
GQ23820

Gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig Heddiw: Undeb Dan Straen?

GW25820

Cyfiawnder Byd-Eang: Dehongli a Gwireddu ein Dyletswyddau i'r Dieithryn Pell

IP20720

Climate Change and International Politics in the Anthropocene

IP23620

European Security in 21st Century

IP25320

Warfare after Waterloo: Military History 1815-1918

IP26020

The Past and Present of US Intelligence

IP26720

Gender, Conflict and Security

IP29220

International Politics and Global Development

IP29620

Women and Global Development

IQ20920

The British Army's Image in Battle, from the Crimean to the Present

IQ22620

Britain and World Politics from Global Empire to Brexit: The Diplomacy of Decline

IQ23820

UK Politics Today: A Union Under Strain?

IQ24320

Economic Diplomacy and Leadership

IQ25520

Global Politics and the Refugee Regime

IQ26020

The Politics and Paradoxes of International Organisations

Semester 2
GQ23920

Pobl a Grym: Deall Gwleidyddiaeth Gymharol Heddiw

GW29920

Cenedlaetholdeb mewn Theori a Realiti

IP20420

International Politics and the Nuclear Age

IP21320

The Arab-Israeli Wars

IP21820

Russian Security in the 21st Century

IP22320

The Governance of Climate Change: Simulation Module

IP22720

The Long Shadow of the Second World War

IP28820

Britain and Ireland in War and Peace since 1800

IP29820

China From the Opium War to the Present

IP29920

Nationalism in Theory and Practice

IQ20020

Race in Global Politics

IQ23920

People and Power: Understanding Comparative Politics Today

IQ24420

Knowing about Violent Conflict in International Politics

IQ25120

Strategy, Intelligence and Security in International Politics

IQ25620

Refugee Simulation

IQ27120

Middle Powers in the Global Political Economy

Blwyddyn 2 Opsiynau

Dewiswch rhwng 20 a 40 credyd o'r canlynol

Semester 1
TC20320

Sylfeini Hunan-Gyflwyno

TC21220

Ymarfer Cynhyrchu: Gorffen

Semester 2
TC20620

Theatr a Ffilm Gyfoes: Cymru a'r Byd

TC21420

Ymchwil Creadigol Ymarferol

TC29920

Ffilm a Theatr Americanaidd

Blwyddyn Olaf Opsiynau

Rhaid i fyfyrwyr blwyddyn olaf gymryd 60 credyd o fodiwlau opsiynol Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Semester 1
GQ33820

Gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig Heddiw: Undeb Dan Straen?

GW30000

Dulliau Ymchwil + Traethawd Estynedig

GW35820

Cyfiawnder Byd-Eang: Dehongli a Gwireddu ein Dyletswyddau i'r Dieithryn Pell

IP30000

Dissertation

IP30720

Climate Change and International Politics in the Anthropocene

IP33620

European Security in the 21st Century

IP36020

The Past and Present of US Intelligence

IP36720

Gender, Conflict and Security

IP39620

Women and Global Development

IQ30920

The British Army's Image in Battle, from the Crimean to the Present

IQ32620

Britain and World Politics from Global Empire to Brexit: the Diplomacy of Decline:

IQ33820

UK Politics Today: A Union Under Strain?

IQ34320

Economic Diplomacy and Leadership

IQ35520

Global Politics and the Refugee Regime

IQ36020

The Politics and Paradoxes of International Organisations

Semester 2
GW30040

Dulliau Ymchwil + Traethawd Estynedig

GW39920

Cenedlaetholdeb Mewn Theori a Realiti

IP30040

Dissertation

IP30420

International Politics and the Nuclear Age

IP31320

The Arab-Israeli Wars

IP31820

Russian Security in the 21st Century

IP32720

The Long Shadow of the Second World War

IP38820

Britain and Ireland in War and Peace since 1800

IP39920

Nationalism in Theory and Practice

IQ30020

Race in Global Politics

IQ34420

Knowing about Violent Conflict in International Politics

IQ35620

Refugee Simulation

IQ37120

Middle Powers in the Global Political Economy

Blwyddyn Olaf Opsiynau

Dewiswch rhwng 40 a 60 credyd o'r canlynol

Semester 1
TC31120

Ymarfer Cynhyrchu 2: Cyfryngau

TC31220

Ymarfer Cynhyrchu 2: Gorffen

TC36100

Prosiect Ymchwil Creadigol

Semester 2
TC30620

Theatr a Ffilm Gyfoes: Cymru a'r Byd

TC36140

Prosiect Ymchwil Creadigol

TC39920

Ffilm a Theatr Americanaidd


12 : Support for students and their learning
Every student is allocated a Personal Tutor. Personal Tutors have an important role within the overall framework for supporting students and their personal development at the University. The role is crucial in helping students to identify where they might find support, how and where to seek advice and how to approach support to maximise their student experience. Further support for students and their learning is provided by Information Services and Student Support and Careers Services.


13 : Entry Requirements
Details of entry requirements for the scheme can be found at http://courses.aber.ac.uk


14 : Methods for evaluating and improving the quality and standards of teaching and learning
All taught study schemes are subject to annual monitoring and periodic review, which provide the University with assurance that schemes are meeting their aims, and also identify areas of good practice and disseminate this information in order to enhance the provision.


15 : Regulation of Assessment
Academic Regulations are published as Appendix 2 of the Academic Quality Handbook: https://www.aber.ac.uk/en/aqro/handbook/app-2/.


15.1 : External Examiners
External Examiners fulfill an essential part of the University’s Quality Assurance. Annual reports by External Examiners are considered by Faculties and Academic Board at university level.


16 : Indicators of quality and standards
The Department Quality Audit questionnaire serves as a checklist about the current requirements of the University’s Academic Quality Handbook. The periodic Department Reviews provide an opportunity to evaluate the effectiveness of quality assurance processes and for the University to assure itself that management of quality and standards which are the responsibility of the University as a whole are being delivered successfully.