Cynlluniau Astudio

Cymraeg y Gweithle Proffesiynol / Busnes a Rheolaeth


1 : Awarding Institution / Body
Aberystwyth University


2a : Teaching Institution / University
Aberystwyth University


2b : Work-based learning (where appropriate)


Information provided by Department of Welsh
-

3a : Programme accredited by
Aberystwyth University


3b : Programme approved by
Aberystwyth University


4 : Final Award
Bachelor of Arts


5 : Programme title
Cymraeg y Gweithle Proffesiynol / Busnes a Rheolaeth


6 : UCAS code
QN51


7 : QAA Subject Benchmark


Information provided by Department of Welsh
-

Datganiad Meincnodi’r Gymraeg gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch.



8 : Date of publication


Information provided by Department of Welsh
-

Medi 2023



9 : Educational aims of the programme


Information provided by Department of Welsh
-
  • Rhoi i’r myfyrwyr y cyfle i astudio’r iaith Gymraeg a’i llenyddiaeth ar wastad academaidd uchel, gan roi iddynt y moddion i’w deall, eu dadansoddi a’u gwerthfawrogi fel rhan ganolog o hanes meddwl, dychymyg a mynegiant y Cymry.

  • Meithrin mewn myfyrwyr y gallu i adnabod teithi’r iaith Gymraeg, a’u galluogi  i’w mynegi eu hunain ynddi, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn hyderus, yn rhugl ac  yn gywir

  • Cynorthwyo myfyrwyr i ddeall ac i werthfawrogi grym mynegiannol iaith.

  • Meithrin dealltwriaeth o’r broses greadigol ac o werth gweithiau llenyddol.

  • Meithrin mewn myfyrwyr y gallu i feddwl drostynt eu hunain, i feithrin barn feirniadol a golygwedd hanesyddol, a, lle bo’n berthnasol, i feithrin eu doniau llenyddol.

  • Ennyn mewn myfyrwyr frwdfrydedd tuag at y pwnc.

  • Darparu profiad cyffrous a boddhaus o ran dysgu ac addysgu.

  • Meithrin sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn berthnasol i ddatblygiad personol y myfyrwyr ac a fydd yn gaffaeliad iddynt pan gyflogir hwy maes o law.

  • Paratoi myfyrwyr ar gyfer ymateb i ofynion cyflogwyr mewn gyrfaoedd lle byddant yn arddel cymhwyster yn y Gymraeg a lle disgwylir iddynt ddefnyddio’r iaith yn gyson ar wastad uchel.

  • Gosod sylfaen ar gyfer astudio pellach o fewn cwmpas y pwnc ei hun ac o fewn meysydd perthynol.

Y mae’r amcanion uchod yn gyson â Datganiad Meincnodi’r Gymraeg a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch.

 

 



10 : Intended learning outcomes


Information provided by Department of Welsh
-

Canlyniadau Dysgu arfaethedig - mae’r rhaglen yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu a dangos gwybodaeth a dealltwriaeth, sgiliau, doniau a nodweddion eraill yn y meysydd canlynol:



10.1 : Knowledge and understanding


Information provided by Department of Welsh
-
  • A1. Gwybodaeth drylwyr o deithi’r iaith Gymraeg.

  • A2. Gwybod sut i ddisgrifio a dadansoddi iaith gan ddefnyddio’r eirfa dechnegol briodol.

  • A3. Ymwybyddiaeth gyffredinol o ddatblygiad yr iaith Gymraeg drwy’r oesoedd ac o brif gyfnodau hanesyddol yr iaith.

  • A4. Gwybodaeth o lenyddiaeth Gymraeg hen a diweddar.

  • A5. Gwybodaeth ynghylch hanes llenyddiaeth Gymraeg ac o’r ffactorau hanesyddol, cymdeithasol a deallusol a ddylanwadodd arni drwy’r oesoedd.

  • A6. Gwybodaeth sut i drin gweithiau llenyddol yn feirniadol, gan ddefnyddio geirfa dechnegol lle bo hynny’n briodol.

  • A7. Adnabyddiaeth o wahanol ddulliau a genres llenyddol a’r teithi a’r nodweddion a berthyn iddynt.

  • A8. Ymwybyddiaeth o’r gwahanol ddulliau o astudio llenyddiaeth, gan gynnwys amgyffrediad o berthnasedd  cysyniadau beirniadol.

  • A9. Gwybodaeth ynghylch y cysylltiadau rhwng llenyddiaeth Gymraeg a llenyddiaeth mewn ieithoedd eraill ac o le testunau llenyddol Cymraeg o fewn patrymau diwylliannol rhyngwladol.

  • A10. Ymwybyddiaeth o swyddogaeth iaith a llenyddiaeth mewn perthynas â meithrin, cynnal a datblygu’r hunaniaeth genedlaethol Gymreig.

  • A11. Ymwybyddiaeth o sefyllfa gymdeithasol bresennol yr iaith ac o’r dulliau a ddefnyddir i’w hyrwyddo a’i hadfer.

  • A12. Cynefindra â ffynonellau cyfeirio safonol yn ymwneud â’r Gymraeg a’i diwylliant, ar ffurf brintiedig ac electronig.

Y mae’r elfennau a nodir uchod yn gyson â Datganiad Meincnodi’r Gymraeg a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch.

Y dulliau dysgu, addysgu ac asesu a ddefnyddir i gyflawni a dangos y canlyniadau dysgu yr anelir atynt:

Darlithoedd; darllen dan gyfarwyddyd; seminarau; dosbarthiadau tiwtorial; dosbarthiadau iaith; dosbarthiadau darllen testun; gweithdai; paratoi ac ysgrifennu traethodau; gweithio ar draethawd hir neu brosiect; rhoi cyflwyniadau a thrafod cyflwyniadau myfyrwyr eraill; gwaith maes.

Dull asesu:

Arholiadau ysgrifenedig; profion llafar; gwaith cwrs (yn bennaf, traethodau); gwaith prosiect; profion iaith; traethawd estynedig; gwaith ffolio (gan gynnwys ysgrifennu creadigol, ymarferion iaith).



10.2 : Skills and other attributes


Information provided by Department of Welsh
-
  • B1. Sgiliau ieithyddol ymarferol a fydd yn cynnwys y gallu i drafod pynciau cymhleth yn raenus, yn ysgrifenedig ac ar lafar.

  • B2. Medrau dadansoddi iaith a’r defnydd ohoni mewn amrywiol sefyllfaoedd.

  • B3. Y gallu i gynnull ac i gyfleu gwybodaeth ynghylch testunau llenyddol ac i ymdrin â hwy yn feirniadol yn ysgrifenedig ac ar lafar.

  • B4. Y gallu i ymateb yn briodol i’r defnydd o iaith ac o’r dychymyg mewn llenyddiaeth.

  • B5. Y gallu i ystyried llenyddiaeth yn ei chyd-destun hanesyddol, cymdeithasol a syniadol.

  • B6. Y gallu i adnabod confensiynau llenyddol ac i werthfawrogi eu defnydd a’u swyddogaeth mewn perthynas â genres  llenyddol arbennig.

  • B7. Llunio llyfryddiaethau a chyfeirio mewn modd safonol a chyson at ffynonellau.        

   

Y mae’r elfennau a nodir uchod yn gyson â Datganiad Meincnodi’r Gymraeg a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch. 

Y dulliau dysgu, addysgu ac asesu a ddefnyddir i gyflawni a dangos y canlyniadau dysgu yr anelir atynt:

Darlithoedd; darllen dan gyfarwyddyd; seminarau; dosbarthiadau tiwtorial; dosbarthiadau iaith; dosbarthiadau darllen testun; gweithdai; paratoi ac ysgrifennu traethodau; gweithio ar draethawd hir neu brosiect; rhoi cyflwyniadau a thrafod cyflwyniadau myfyrwyr eraill; gwaith maes.

Dull asesu:

Arholiadau ysgrifenedig; profion llafar; gwaith cwrs (yn bennaf, traethodau); gwaith prosiect; profion iaith; traethawd estynedig; gwaith ffolio (gan gynnwys ysgrifennu creadigol, ymarferion iaith).



10.3 : Transferable/Key skills


Information provided by Department of Welsh
-
  • D1. Gallu mynegiant graenus yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig.

  • D2. Gallu i gyfleu dadleuon yn gydlynus ac yn groyw ac mewn modd argyhoeddiadol.

  • D3. Gallu i feddwl yn annibynnol.

  • D4. Gallu i ymagweddu’n feirniadol ac i ddadansoddi a chrynhoi dadleuon a safbwyntiau a gyflwynir gan eraill.

  • D5. Gallu i weithio’n annibynnol ac i gywain gwybodaeth yn drefnus a phwrpasol o amryw ffynonellau, i’w chloriannu’n feirniadol gan ddethol elfennau arwyddocaol a dilys, a’i chyflwyno i eraill ar ffurf gydlynus ac ystyrlon.

  • D6. Gallu i ddeall ac i ddatblygu cysyniadau cymhleth ac i ymdrin â hwynt yn feirniadol ac yn ddadansoddol.

  • D7. Gallu i weithio yn fanwl ac yn drylwyr.

  • D8. Medrau trefniadol mewn perthynas â thasgau gosodedig, gan gynnwys rheoli amser yn effeithiol.

  • D9. Sgiliau technoleg gwybodaeth sylfaenol, gan gynnwys prosesu geiriau, a’r gallu i gywain gwybodaeth o ffynonellau electronig.

  • D10. Golygu gwaith cyn ei gyflwyno mewn diwyg clir a graenus.

  • D11. Gallu i ddeall hanfodion deunydd a luniwyd mewn iaith arall/ieithoedd eraill ac i’w gyfieithu i’r Gymraeg neu ei ailfynegi yn y Gymraeg.

Y mae’r elfennau a nodir uchod yn gyson â Datganiad Meincnodi’r Gymraeg a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch. 

Y dulliau dysgu, addysgu ac asesu a ddefnyddir i gyflawni a dangos y canlyniadau dysgu yr anelir atynt:

Yn gyffredinol dysgir sgiliau trosglwyddadwy/allweddol drwy ddilyn y modiwlau a astudir, hynny yw, y mae eu meithrin yn gysylltiedig â dulliau dysgu’r modiwlau.    

Ymhlith y dulliau hynny y mae darlithiau, darllen dan gyfarwyddyd, seminarau, dosbarthiadau tiwtorial, paratoi ac ysgrifennu traethodau, a rhoi cyflwyniadau.

Asesir y sgiliau hyn mewn arholiadau ffurfiol, profion iaith, gwaith cwrs, ac asesu llafar.

Y mae mesur gallu’r myfyrwyr i’w mynegi eu hunain yn raenus yn y Gymraeg yn rhan o asesu pob modiwl. 



11 : Program Structures and requirements, levels, modules, credits and awards




BA Cymraeg y Gweithle Proffesiynol / Busnes a Rheolaeth [QN51]

Blwyddyn Academaidd: 2023/2024Cynllun Anrhydedd Cyfun - ar gael ers 2019/2020

Hyd (astudio Llawn Amser): 3 blwyddyn
Blwyddyn Ddiwethaf: 2023/2024

Rheolau Rhan 1

Blwyddyn 1 Craidd (60 Credyd)

Compulsory module(s).

Semester 1
AB11120

Fundamentals of Accounting and Finance

CB15120

Hanfodion Rheolaeth a Busnes

Semester 2
CB17120

Egwyddorion Marchnata ac Ymarfer Cyfoes

Blwyddyn 1 Opsiynau

Llwybr IAITH GYNTAF: Rhaid cymryd y modiwlau craidd hyn

Semester 1
CY11400

Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar

CY13120

Sgiliau Astudio Iaith a Llên

Semester 2
CY11420

Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar

Blwyddyn 1 Opsiynau

Llwybr AIL IAITH: Rhaid cymryd y modiwlau craidd hyn

Semester 1
CY11700

Ysgrifennu Cymraeg Graenus

Semester 2
CY11720

Ysgrifennu Cymraeg Graenus

Blwyddyn 1 Opsiynau

Llwybr IAITH GYNTAF HEB LEFEL A: Rhaid cymryd y modiwlau craidd hyn

Semester 1
CY11700

Ysgrifennu Cymraeg Graenus

CY13120

Sgiliau Astudio Iaith a Llên

Semester 2
CY11720

Ysgrifennu Cymraeg Graenus

Rheolau Rhan 2

Blwyddyn 2 Craidd (40 Credyd)

Compulsory module(s).

Semester 1
CB25420

Rheolaeth Adnoddau Dynol

Semester 2
CB25120

Gweithrediadau a Rheoli'r Gadwyn Cyflenwi

Blwyddyn 2 Opsiynau

Llwybr IAITH GYNTAF: Rhaid cymryd y modiwl craidd hwn.

Semester 1
CY20100

Gloywi Iaith

Semester 2
CY20120

Gloywi Iaith

Blwyddyn 2 Opsiynau

Llwybr AIL IAITH: Rhaid cymryd y modiwlau craidd hyn.

Semester 1
CY20520

Cymraeg y Gweithle Proffesiynol

CY21400

Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar

Semester 2
CY21420

Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar

Blwyddyn 2 Opsiynau

Gallwch ddewis 20 credyd o'r modiwlau canlynol.

Semester 1
CB27120

Rheolaeth Marchnata

Semester 2
CB25220

Entreprenwriaeth a Chreu Menter Newydd

Blwyddyn 2 Opsiynau

Llwybr IAITH GYNTAF HEB LEFEL A: Rhaid cymryd y modiwl craidd hwn.

Semester 1
CY21400

Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar

Semester 2
CY21420

Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar

Blwyddyn 2 Opsiynau

Llwybr IAITH GYNTAF a IAITH GYNTAF HEB LEFEL A: Gallwch ddewis 40 credyd o fodiwlau lefel 2 awdurdodedig Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ar draws semester 1 a 2.

Blwyddyn 2 Opsiynau

Llwybr AIL IAITH: Gallwch ddewis 20 credyd o fodiwlau lefel 2 awdurdodedig Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ar draws semester 1 a 2.

Blwyddyn Olaf Craidd (40 Credyd)

Compulsory module(s).

Semester 1
CB35120

Arweinyddiaeth Strategol

Semester 2
AB31720

Financial Strategy

Blwyddyn Olaf Opsiynau

Llwybr IAITH GYNTAF: Dewiswch 60 credyd o fodiwlau lefel 3 awdurdodedig Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ar draws semester 1 a 2.

Blwyddyn Olaf Opsiynau

Llwybr AIL IAITH a IAITH GYNTAF HEB LEFEL A: Rhaid cymryd y modiwl craidd hwn.

Semester 1
CY31100

Gloywi Iaith yr Ail Iaith

Semester 2
CY31120

Gloywi Iaith yr Ail Iaith

Blwyddyn Olaf Opsiynau

Llwybr AIL IAITH a IAITH GYNTAF HEB LEFEL A: Gallwch ddewis 40 credyd o fodiwlau lefel 3 awdurdodedig Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ar draws semester 1 a 2.

Blwyddyn Olaf Opsiynau

Gallwch ddewis 20 credyd o'r modiwlau canlynol.

Semester 1
AB35220

Digital Business: Leadership and Management

AB35320

Global Logistics

Semester 2
AB35420

Organizational Psychology


12 : Support for students and their learning
Every student is allocated a Personal Tutor. Personal Tutors have an important role within the overall framework for supporting students and their personal development at the University. The role is crucial in helping students to identify where they might find support, how and where to seek advice and how to approach support to maximise their student experience. Further support for students and their learning is provided by Information Services and Student Support and Careers Services.


13 : Entry Requirements
Details of entry requirements for the scheme can be found at http://courses.aber.ac.uk


14 : Methods for evaluating and improving the quality and standards of teaching and learning
All taught study schemes are subject to annual monitoring and periodic review, which provide the University with assurance that schemes are meeting their aims, and also identify areas of good practice and disseminate this information in order to enhance the provision.


15 : Regulation of Assessment
Academic Regulations are published as Appendix 2 of the Academic Quality Handbook: https://www.aber.ac.uk/en/aqro/handbook/app-2/.


15.1 : External Examiners
External Examiners fulfill an essential part of the University’s Quality Assurance. Annual reports by External Examiners are considered by Faculties and Academic Board at university level.


16 : Indicators of quality and standards
The Department Quality Audit questionnaire serves as a checklist about the current requirements of the University’s Academic Quality Handbook. The periodic Department Reviews provide an opportunity to evaluate the effectiveness of quality assurance processes and for the University to assure itself that management of quality and standards which are the responsibility of the University as a whole are being delivered successfully.