Ymarfer Cylch
Ymarfer Cylch Graenus
Dosbarth hwyliog a fydd yn profi’ch lefelau ffitrwydd. Cyfuniad o ymarferion ar gyfer rhan uchaf a rhan isaf y corff ac ymarferion aerobig ac anaerobig i sicrhau eich bod yn cael ymarfer cyflawn.
Mae’r cylch fel arfer yn cael ei rannu ar sail amser, sy’n golygu bod modd i chi orffwys cyn diwedd y sesiwn os ydych wedi blino. Mae hyn yn golygu y gallwch ymarfer beth bynnag fo’ch lefel ffitrwydd, cyhyd â’ch bod yn synhwyrol ac yn gorffwys pan fyddwch yn cyrraedd eich terfyn.
- Dydd Mawrth: 5.30pm - 6.30pm, y Neuadd Chwaraeon gydag Alastair Rhodes
- Dydd Iau: 5.30pm - 6.30pm, y Neuadd Chwaraeon gyda Jeff Saycell
Ffitrwydd Crai
Dosbarth newydd sbon ar gyfer 2009, gyda’r nod o wella’r cyhyrau craidd pwysig. Ar ffurf sesiwn cylch, bydd y dosbarth yn gyfle i chi ymarfer cyhyrau’r stumog, cyhyrau’r cefn a’r cyhyrau craidd eraill i wella’ch osgo, lleihau’ch canol a thynhau cyhyrau’r abdomen.
- Dydd Gwener: 1.10pm - 1.55pm, yr Ystafell Ddawns gyda Julie Roberts