Stepio a Siapio
Ymarfer cardio gwych sy’n llosgi tua 500 calori mewn awr. Caiff y dosbarth hwn ei rannu fel a ganlyn: 25 munud o ymarfer step aerobig, 20 munud i siapio’r craidd, y cluniau mewnol ac allanol, a’r pen-ôl, 10 munud i ymarfer cyhyrau’r stumog, ac ymarferion ymestyn i gloi.
Cyfuniadau rhwydd i ddechreuwyr a choreograffi mwy heriol i rai mwy profiadol. Nid oes angen dod â’ch step eich hun!
Mae ymarferion step wedi bod o gwmpas ers 15 mlynedd erbyn hyn – mae hyn yn dangos ei fod yn ymarfer poblogaidd ac effeithiol. Nid yw dosbarth step yn effeithio’n fawr ar y cymalau, ond mae’r weithred o stepio’n barhaus yn golygu y gallwch losgi tua 500 calori mewn un dosbarth! Gallwch hefyd siapio’r coesau a’r pen-ôl mewn ymarfer cyflawn.
Os ydych bob amser wedi bod yn awyddus i roi cynnig ar step, ond bod y symudiadau cymhleth yr olwg wedi’ch rhwystro rhag gwneud hynny, peidiwch â phoeni – gallwn eich sicrhau bod y dosbarthiadau hyn yn syml ac yn hawdd eu dilyn. Pam na wnewch chi roi cynnig ar rywbeth hollol wahanol?
- Dydd Llun: 17.30 - 18.30pm, y Neuadd Chwaraeon
- Dydd Mercher: 17.30pm - 18.30pm, y Neuadd Chwaraeon
- Dydd Gwener: 12.00 - 12.45pm, yr Ystafell Ddawns
Dysgir y dosbarthiadau stepio gan ein tîm o hyfforddwyr brwdfrydig cymwysedig - Tîm Aero.